Mae eich iechyd meddwl yn cyfrif. Rydyn ni’n credu y dylai unrhyw un sy’n cael problemau iechyd meddwl ysgafn i ganolig allu gael y cymorth a’r gefnogaeth y mae ei angen, pryd mae ei angen. Dyna pam ein bod yn gweithio gyda Meddygon Teulu, Byrddau Iechyd Lleol a’r rhwydwaith Mind lleol i ddarparu Monitro Gweithredol, ein gwasanaeth ymyrraeth cynnar, ar draws Cymru.
Oherwydd y cyfyngiadau coronafeirws, yn lle cyfarfodydd wyneb i wyneb, gallwn gynnig cefnogaeth dros y ffôn ac ar lein. Mae arian argyfwng oddi wrth Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Llywodraeth Cymru wedi’n galluogi i gynnig Monitro Gweithredol ar draws Cymru.
Gall unrhyw un dros 18 oed yng Nghymru gael ei gyfeirio at Fonitro Gweithredol gan Feddyg Teulu, person proffesiynol iechyd arall neu drwy gysylltu â ni’n uniongyrchol.
Fe fyddan nhw’n gallu cychwyn ar gwrs hunan gymorth gydag arweiniad ar unrhyw un o’r canlynol:
Pob wythnos, bydd Ymarferydd Monitro Gweithredol yn anfon gwybodaeth a gweithlyfr ac yn ffonio i gynnig cefnogaeth ac arweiniad.
Yn y fideo hwn mae Jan, a gymerodd ran yn y cwrs, yr Ymarferydd Monitro Gweithredol Liz yn siarad am y gwahaniaeth y mae Monitro Gweithredol wedi'i wneud iddynt.
Cofrestrwch am Fonitro Gweithredol a bydd un o'n hymarferwyr yn cysylltu.
Os hoffech chi ganfod rhagor ynghylch Monitro Gweithredol neu gomisiynu gwasanaethau gyda Mind Cymru, e-bostiwch [email protected]
"Nid oeddwn yn sicr iawn am y prosiect cyn iddo ddechrau, ond penderfynais roi tro arno. Rwyf wedi fy siomi ar yr ochr orau. Mae'r ymarferwyr yn ardderchog am ddelio gydag unrhyw broblemau, ymhell y tu hwnt i'r lefel o gymhlethdod yr oeddwn i'n ei ddisgwyl."