Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Sgwrs genedlaethol am iechyd meddwl yng Nghymru

Mae’r adroddiad hwn ar gyfer unrhyw un sy’n dymuno deall profiadau a safbwyntiau pobl ynghylch gwasanaethau iechyd meddwl Cymru yn well, a hynny gan bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl.

Mae'n ddrwg gennym, nid oes gennym fersiwn Gymraeg o'r dudalen hon ar hyn o bryd.

Trosolwg

Ein nod oedd deall profiadau a safbwyntiau pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yng Nghymru.

Fe wnaethom gasglu gwybodaeth gan 177 o bobl, drwy arolwg a grwpiau ffocws, am sut beth yw ceisio cael cymorth ar gyfer problem iechyd meddwl yng Nghymru, sut gall gwasanaethau wella a sut hoffai pobl fod yn rhan o’r gwaith o lunio’r system iechyd meddwl.

Llwytho'r adroddiad i lawr (Saesneg)*

*Fersiwn Cymraeg ar gael ar gais

Cipolwg ar y prif ganfyddiadau

Mae canlyniadau’r gwaith ymchwil hwn yn creu darlun o system sydd dan bwysau. Gyda dim digon o wybodaeth yn cael ei rhoi i’r rheini sy’n cael cefnogaeth, a diffyg llais ganddyn nhw ynghylch eu triniaeth.

Mae mynediad, ansawdd a chysylltedd cefnogaeth i gyd yn themâu allweddol yn y safbwyntiau a gasglwyd. Clywsom hefyd am effaith amseroedd aros sylweddol sy’n arwain at ddirywiad mewn iechyd meddwl, a theimladau o fod ar goll yn y system.

Pan ofynnwyd am flaenoriaethau ar gyfer newid, dyma ddywedodd pobl oedd angen ei wella:

  1. Mynediad at gefnogaeth
  2. Ansawdd y gefnogaeth
  3. Hyfforddi’r gweithlu
  4. Gofal mewn argyfwng
  5. Gwasanaethau cysylltiedig
Siart bar yn dangos % o ymatebion wnaeth godi'r thema, colofnau glas ar gefndir clir

Dywedodd pobl wrthym hefyd eu bod yn cael trafferth gyda’r canlynol:

  • Rhestrau aros hir ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl
  • Anhawster wrth ganfod eu ffordd drwy’r system
  • Ansawdd y gefnogaeth yn anghyson
  • Diffyg gofal mewn argyfwng a gwasanaethau cydgysylltiedig
  • Dim cyfle i fod yn rhan o wella’r system

Blaenoriaethau ar gyfer newid yn seiliedig ar brofiad go iawn

Byddwch yn onest - does dim cymorth ar gael. Rhowch y gorau i ddweud wrth bobl am estyn allan pan does ’na ddim byd ar gael.

Problem: 

Mae amseroedd aros yn rhy hir a does dim digon o wasanaethau ar gael.

Beth sydd ei angen:

  • Lleihau amseroedd aros ar gyfer therapi a gofal arbenigol.
  • Sicrhau bod gwasanaethau ar gael bob awr o’r dydd.
  • Gwella eglurder ynghylch canfod y ffordd drwy’r system iechyd meddwl.

Gwasanaethau gwell, sy'n gweithio. Roedd angen CBT ar fy ngŵr ond dim ond yn ystod oriau gwaith roedd yn cael ei gynnig. Doedd e ddim yn gallu cael gafael ar y gwasanaeth.

Problem:

Mae’r gefnogaeth yn aml yn anghyson ac nid yw wedi’i theilwra i anghenion unigolion.

Beth sydd ei angen:

  • Triniaethau sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
  • Hyfforddi gweithwyr proffesiynol mewn tosturi, empathi a chyfathrebu.
  • Sicrhau bod amrywiaeth o ddewisiadau ar gael o ran triniaethau.

Addysg well i nyrsys iechyd meddwl dan hyfforddiant i gynnwys sgiliau seicolegol.

Problem:

Mae angen hyfforddiant gwell ar weithwyr proffesiynol i gefnogi anghenion iechyd meddwl yn effeithiol.

Beth sydd ei angen:

  • Gwella hyfforddiant ar gyfer meddygon, nyrsys a therapyddion
  • Cynyddu hyfforddiant mewn therapïau arbenigol (e.e. Dadsensiteiddio ac Ailbrosesu Symudiad y Llygaid, Therapi Ymddygiad Dialectig)
  • Recriwtio staff sydd â phrofiadau go iawn o broblemau iechyd meddwl.

Yn ein hardal leol, rhaid i chi geisio lladd eich hun sawl gwaith cyn cael help.

Problem:

Mae pobl mewn argyfwng yn ei chael yn anodd dod o hyd i fannau diogel a chefnogol.

Beth sydd ei angen:

  • Gwella cyfleusterau gofal mewn argyfwng mewn adrannau Damweiniau ac Achosion Brys.
  • Cynyddu’r gefnogaeth gymunedol mewn argyfwng, fel caffis argyfwng.
  • Sicrhau bod digon o staff ar wardiau cleifion mewnol a’u bod yn rhoi gofal therapiwtig.

Mae gwaith rhwng asiantaethau yn sicrhau nad oes neb yn llithro drwy'r craciau.

Problem:

Mae gwasanaethau’n gweithredu mewn seilos, gan ei gwneud yn anodd i bobl gael gofal di-dor.

Beth sydd ei angen:

  • Gwella cydweithio rhwng gwasanaethau iechyd meddwl a gofal cymdeithasol.
  • Rhannu gwybodaeth yn fwy effeithiol fel nad oes rhaid i bobl ailadrodd eu straeon.
  • Datblygu dull ‘dim drws anghywir’ ar gyfer cael gafael ar gefnogaeth.

Y camau nesaf: Beth rydyn ni’n ei wneud am hyn

Roedd pobl wedi rhannu profiadau uniongyrchol pwerus, gan dynnu sylw at wir effaith methiannau yn y system a’r angen am newid. Bydd y rhain yn llunio blaenoriaethau ymgyrchu a ffyrdd o weithio Mind Cymru.

Fe ddywedoch chi:

Byddwn yn:

“Mae rhestrau aros yn rhy hir.”

Byddwn yn eiriol dros well cyllid, amseroedd aros byrrach a gofal o ansawdd gwell.

“Dydyn ni ddim yn teimlo ein bod yn cael ein clywed.”

Byddwn yn datblygu mwy o ffyrdd i bobl sydd â phrofiad go iawn lunio gwasanaethau.

"Mae diffyg gofal mewn argyfwng."

Byddwn yn pwyso am well cefnogaeth mewn argyfwng ac yn gweithio gyda changhennau Mind lleol i gryfhau’r gefnogaeth sydd ar gael yn y gymuned.

How to get involved

If you would like to help shape our services and campaigns, you can:

arrow_upwardYn ôl i'r brig