Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Sut rwy'n hybu hyder wrth godi arian i Mind

Dydd Gwener, 15 Ionawr 2021 Natasha

Dyma flog gan Natasha, o Gaerdydd, am y modd mae ei chalendrau yn hybu hyder yn y corff a’r meddwl, wrth godi arian dros iechyd meddwl gwell.

Mae’r blog hwn yn sôn am gamdriniaeth ddomestig ac ymgais o hunanladdiad. 

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Cysylltais â Mind am y tro cyntaf yn dilyn digwyddiad trawmatig yn fy mywyd. Roeddwn i wedi bod mewn perthynas lle roeddwn yn cael fy ngham-drin gan gyn-bartner. Roedd yn fy mychanu ac yn fy nhrin yn ofnadwy, gan wneud sylwadau cas am fy edrychiad ac ymosod ar fy hunan-hyder.

Ar fy ngwaethaf, roeddwn i wedi ceisio cymryd fy mywyd fy hun. Doeddwn i ddim yn gallu ffeindio’r help oedd angen arnaf i, ac roeddwn i’n meddwl y byddai’n well pe na bai fi yma rhagor.

Trwy ryfedd wyrth, fe wnes i oroesi. Doedd e ddim yn amser i fi fynd eto.

Galwais i linell gymorth Mind, a bu’r llais ar ochr arall y ffôn o help aruthrol. Roedden nhw’n eglur ac yn angerddol, gan fy annog i i wneud mwy o'r hyn oedd yn fy ngwneud i’n hapus, ac i fod yn fwy cynhyrchiol.

Es i i’r brifysgol i astudio seicoleg. I ddechrau, roedd hyn oherwydd fy mod i’n beio fy hun, ac am ddeall mwy - pam gefais i fy nhrin cynddrwg gan fy nghyn-bartner? Beth oeddwn i wedi’i wneud fel eu bod nhw’n fy nhrin i mor wael? Roedd pobl yn dweud nad fy mai i oedd e fy mod i wedi cael fy nhrin yn y fath fodd, ond doeddwn i ddim yn credu’r peth. Drwy gydol fy astudiaethau, dysgais fod yn fwy caredig i fy hun, a magu hunan-hyder.

Ers i fi fod ar fy ngwaethaf, rydw i wedi ail-adeiladu rhywfaint o hyder. Rwy’n gweithio fel actores a model, ac mae fy ngwaith wedi bod yn gymaint o hwb i fy hunan-hyder, wedi i fy nghyn-bartner geisio dinistrio sut roeddwn i’n teimlo am fy edrychiad. Rwy’ wedi dechrau meddwl am yr hyn y gallwn i wneud i roi hwb i hyder pobl eraill, wrth godi arian i elusen deilwng. Dyna pam y sefydlais i Beauteous.

Ein nod yw codi hyder pobl, gan eu helpu nhw i ddod o hyd i’r dewrder i werthfawrogi eu hunain a bod y fersiwn gorau posibl o’u hun. 

Ym mis Chwefror eleni, wedi fy ysbrydoli gan Calendar Girls, casglais grŵp o fenywod ynghyd o bob lliw a llun ac o bob cefndir, ac fe dreuliom ddiwrnod arbennig gyda’n gilydd yn tynnu lluniau i greu calendr i godi arian i Mind, i ddychwelyd rhywbeth am y cymorth y derbyniais i. Cawsom amser gwych!

Ar ôl y wefr o greu’r calendr, dechreuodd dynion gysylltu â fi. Oedd posib iddyn nhw fod mewn calendr hefyd? Wrth gwrs, fe gytunais i - a chawson ni gymaint o ddiddordeb fel ein bod ni wedi gorfod gwneud dau galendr o ddynion!

Mae’r pandemig wedi ei gwneud hi'n anodd cael pawb at ei gilydd, ond rydyn ni wedi llwyddo cwrdd a thynnu lluniau o bawb yn y bylchau rhwng cyfnodau clo – gan gadw pellter.

Un o'r pethau gorau am y prosiect yw ei fod wedi creu gwir ymdeimlad o gymuned a chydymdeimlad.

 Er ein bod ni heb allu cwrdd wyneb yn wyneb bob tro fel oedden ni eisiau, rydyn ni wedi llwyddo cael cyfarfodydd a diodydd rhithiol, sydd wedi bod o gymorth aruthrol gyda’r unigrwydd y mae’r pandemig wedi’i greu.

Mae nifer o’n modelau wedi dioddef o ddiffyg hyder yn y gorffennol, gyda delwedd eu corff neu hunanhyder cyffredinol. Mae wedi bod yn fraint eu cynorthwyo i deimlo’n hardd ac mae hyd yn oed wedi fy ysbrydoli i gymryd y cam nesaf yn fy ngyrfa. Rwy’ bellach yn hyfforddi i fod yn gwnselydd, gan obeithio y bydd Beauteous yn gallu cynnig hyn yn oed mwy i eraill wrth i ni dyfu.

Rwy’ mor falch o’r ffordd y mae’r prosiect wedi helpu cymaint o bobl yn barod. Yn 2021, rydyn ni’n gobeithio helpu hyd yn oed mwy o bobl i ddod o hyd i’w hunanhyder.

Mae Natasha yn byw yng Nghaerdydd, ac yn sefydlydd Beauteous. Mae pob gwerthiant o galendr Beauteous yn codi arian i Mind, dros iechyd meddwl gwell. I gael gwybod mwy, dilynwch y ddolen hon.

Get involved

There are lots of different ways that you can support us. We're a charity and we couldn't continue our work without your help.

Share your story with others

Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.

arrow_upwardYn ôl i'r brig