Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Rhannwch y Baich

Dydd Llun, 24 Gorffennaf 2023 Osian a Gareth

Mae Osian a Gareth yn trafod iechyd meddwl ffermwyr, a sut wnaeth Osian animeiddio'u straeon.

Fy enw i yw Osian Roberts, dwi'n animeiddiwr a darlunydd o Ynys Môn. Mae llawer iawn o fy ngwaith wedi ysbrydoli gan hanes a diwylliant Cymraeg. Yn 2021, nes i greu ffilm am hanes Capel Celyn, ffilm o'r enw 'Tryweryn'. Ar gyfer fy ail ffilm, penderfynais greu ffilm am rywbeth sy'n bwnc hynod o bwysig; iechyd meddwl mewn amaeth.

"Dwi'n credu erbyn hyn, mae pawb yn gweld effaith iechyd meddwl ar ein cymunedau."

Enw'r ffilm yw 'Rhannwch Y Baich'. Animeiddiad byr yn yr iaith Gymraeg, mae'r ffilm yn edrych ar iechyd meddwl ffermwyr. Penderfynais greu'r ffilm yn ystod fy nghwrs M.A. lawr yng Nghaerdydd. Yn adrodd y ffilm, mae 3 ffarmwr sydd wedi dioddef gyda'u hiechyd meddwl. Gobaith y ffilm yw chwalu'r stigma o gwmpas iechyd meddwl ac annog ffermwyr i rannu'r baich.

'Dwi'm yn dod o gefndir amaeth, ond fel hogyn Sir Fôn, dwi'n gweld effaith iechyd meddwl ar ein cymunedau cefn gwlad. Mae'n drist ofnadwy bod gymaint o bobl yn ffeindio'n anodd siarad allan a rhannu eu teimladau. Dwi'n credu erbyn hyn, mae pawb yn gweld effaith iechyd meddwl ar ein cymunedau.

Mae'r ffilm yn dilyn bywyd ffarmwr sy'n dioddef gyda'i iechyd meddwl. Yn ystod y ffilm, mae iselder y ffarmwr yn gwaethygu, ond yn y diwedd, mae'n alw allan am help.

Dwi'n ddiolchgar iawn i'r help ges i gan y 'DPJ Foundation' gyda'r ymchwil at y ffilm. Trwy siarad gyda'r DPJ, ges i gysylltu â Gareth, Tomos ac Elfed. Nhw sy'n siarad am eu profiadau gydag iechyd meddwl yn y ffilm. Byswn i'n hoffi deud diolch i'r DPJ foundation, Tir Dewi, Mind â'r holl elusennau sy'n helpu gymaint o bobl rhannu'r baich.

Gobeithio yn y dyfodol, bydd dim stigma o gwmpas siarad allan am iechyd meddwl.

Dywedodd Gareth, un o’r ffermwyr sy’n siarad yn y ffilm: “Dwi’n gweithio ar fferm gyda fy nhad, a hefyd yn hyfforddi i fod yn gyfreithiwr.

Dwi’n mwynhau gweithio allan yn yr awyr agored – dwi’n methu hyn pan ‘dw i’n y swyddfa! – ond mae’n gallu bod yn swydd reit unig.

Dwi di bod yn ffermwr trwy fy mywyd. Aeth fy ffrindiau'r brifysgol yn gynharach na fi, ac felly mae rhan fwya’ o’n grŵp ni ym mannau gwahanol. Mae pawb yn bell o’i gilydd nawr, ac mae’n teimlo’n ynysig.

Dwi’n rhoi llawer o straen ar fy hun. Weithiau dwi ddim yn teimlo’n ddigon da. Dwi ddim yn meddwl fy mod yn cymryd digon o amser i fi fy hun – dwi’n gweithio mwy oherwydd dwi’n teimlo’n unig, ond wedyn dwi’n fwy unig oherwydd fy mod yn gweithio cymaint. Mae hi’n Catch-22 go iawn.

"Mae dal stigma enfawr"

Beth sy’n anodd am amaethyddiaeth yw mae rhywbeth i'w wneud o hyd. Cymaint o gyfrifoldeb, mae’n gallu rhoi tipyn o straen arnat ti. Dydyn ni ddim jest yn edrych ar ôl gwartheg a defaid. Rydyn ni’n poeni am TB, er enghraifft – bydda hwnna’n drychinebus i’n busnes ni. Ansicrwydd prisiau a’r farchnad, hefyd – dydyn ni ddim yn gwybod beth fydd werth anifail o fewn blwyddyn. Mae cymaint o bethau allan o’n rheolaeth tydi pobl ddim yn deall, sy’n cael effaith syfrdanol ar y busnes, ond hefyd ar yr unigolyn.

Dwi di bod yn ffodus iawn. Pryd wnes i fynd i fy meddyg teulu, ges i help. Mae gen i gymorth trwy sesiynau cwnsela. Dwi’n gallu cysgu’n well rwan – cyn cael help, roeddwn i’n cysgu 1 - 3 awr y noson, gan fy mod i dan gymaint o straen. Yn lle cysgu, wnes i restru popeth roedd angen i fi wneud y diwrnod canlynol. Nawr, dwi’n cysgu’n well, a dwi’n gwybod dwi’n gallu ffonio fy meddyg teulu neu gwnselydd os dwi’n stryglo.

Yn anffodus, dydy cymdeithas ddim wedi gafael yn y ffaith fod iechyd meddwl mor bwysig; mae’n well na degawd yn ôl, ond mae dal stigma enfawr o gwmpas y pwnc, ac enwedig yn y gymuned ffermio lle dwi’n credu mae pethau fel oedran yn gallu cael effaith mawr.

"Mae ‘na bobl sydd eisiau dy helpu di"

Dwi'n meddwl y peth gorau i wneud yw’r peth anoddaf i wneud. Rhaid cyntaf cyfaddef i chi’ch hun bod chi’n stryglo ac angen cymorth – dyna’r peth anoddaf nes i. Y cam nesa yw darganfod cymorth, sy’n gallu bod yn anodd iawn. Ond teimlais i gymaint o ryddhad wrth i mi ddisgrifio beth oeddwn i’n teimlo i fy meddyg teulu, mae’n amhosib ei roi mewn i eiriau.

Mae rhannu teimladau a bod yn emosiynol yn berffaith naturiol. Mae’n naturiol i grio. Sdim angen bod yn galed arnat ti dy hun. Y peth pwysicaf yw gofyn am help - mae ‘na bobl sydd eisiau dy helpu di."

Information and support

When you’re living with a mental health problem, or supporting someone who is, having access to the right information - about a condition, treatment options, or practical issues - is vital. Visit our information pages to find out more.

 

Share your story with others

Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.

arrow_upwardYn ôl i'r brig