Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Fe wnaeth fy Mind lleol fy helpu i weld fy hunanwerth

Dydd Iau, 20 Gorffennaf 2023 Nicki*

Mae Nicki* yn blogio am sut y gwnaeth ei Mind lleol ei helpu i ddysgu sut i werthfawrogi ei hun.

*Mae’r enwau wedi'u newid.

Rhybudd ynghylch y cynnwys: mae'r blog hwn yn sôn am gamdriniaeth a syniadaeth hunanladdol.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Pan ddes i i Mind Canolbarth a Gogledd Powys gyntaf yn 2020, roeddwn i'n teimlo ar goll yn llwyr. Doedd gen i ddim cymhelliant na chyfeiriad, ac roedd bywyd o ddydd i ddydd yn frwydr go iawn, yn enwedig fel mam sengl i 3 phlentyn. Er fy mod wedi gweithio gyda sefydliadau eraill i geisio brwydro yn erbyn fy mhryder ac iselder, doedd dim byd yn ffitio mewn gwirionedd, ac roedd unrhyw ryddhad ond yn para yn y tymor byr. Roeddwn hefyd yn ei chael hi'n anodd iawn cofio cymryd meddyginiaeth, ac weithiau'n teimlo'n hunanladdol. Wnes i erioed neilltuo unrhyw amser go iawn i mi fy hun, dim ond mynd i eistedd yn fy nghar, neu ar fws.

“Doedd gen i ddim syniad sut i ffurfio dulliau ymdopi”

Roeddwn i'n gwybod bod yn rhaid gwneud rhywbeth, felly fe wnes i ffonio fy Mind lleol a chael fy rhoi mewn cysylltiad â Janet. Roedd ganddi restr aros ar gyfer y rhaglen Un i Un, ond argymhellodd gyrsiau eraill y gallwn eu gwneud yn y cyfamser, gan gynnwys Mums Matter. Pan ddechreuodd fy rhaglen Un i Un dros y ffôn yng nghanol pandemig y coronafeirws, roeddwn i'n meddwl y byddai'n debyg i'r rhaglenni iechyd meddwl eraill roeddwn i wedi rhoi cynnig arnyn nhw, ond gwelais fy hun yn dod yn fwy parod i drafod. Gwnaeth Janet hi’n glir iawn nad oedd hi yno i farnu, a oedd yn ei gwneud hi’n haws trafod sut roeddwn i wedi bod yn teimlo.

Gwnaeth Janet fy helpu i sylweddoli, ynghyd â fy mhryder ac iselder, y gallwn fod yn byw gyda PTSD cymhleth ar ôl profi cam-drin a thrawma yn ystod fy mhlentyndod ac yn ddiweddarach yn fy mywyd. 

“Rwy’n haeddu hapusrwydd hefyd.”

Y peth gydag iechyd meddwl yw, i mi, mae'n ymwneud â sut i reoli fy emosiynau. Ond oherwydd fy mod wedi cael y profiadau a gefais, doedd gen i ddim syniad sut i ffurfio dulliau ymdopi ar gyfer sut roeddwn i'n teimlo. Roedd yn anodd iawn i mi gynnal perthynas, ac roedd hynny ynddo’i hun yn anodd. Mae ffrindiau mor bwysig i'w cael yn eich bywyd, ond roeddwn i'n teimlo'n unig iawn ac yn meddwl fy mod yn haeddu wynebu trafferthion. Oherwydd bod gennyf hunan-barch mor isel, roeddwn yn agored iawn i niwed, ac yn methu â gweld unrhyw fflagiau coch pan fyddai sefyllfaoedd yn codi a allai fod yn anniogel.

Drwy siarad â Janet, dysgais fod gennyf hawl i deimlo'r hyn yr oeddwn yn ei deimlo. Wnaeth hi ddim fy nhrin yn nawddoglyd na defnyddio ystrydebau, ac yn lle hynny helpodd fi i ddeall fy mod yn haeddu cadw fy hun yn ddiogel. Newidiodd fy safbwynt yn fawr i sylweddoli nad dim ond pawb arall oedd yn haeddu bod yn hapus - rwy'n haeddu hapusrwydd hefyd.

Drwy'r rhaglen Un i Un, rydw i wedi dysgu adnabod yr hyn sy'n fy sbarduno ac mae wedi'i gwneud hi'n haws i mi sicrhau fy hun fy mod yn ddiogel nawr, yn y presennol. Rwyf hefyd wedi gweithio'n galed iawn i fagu mwy o hyder wrth osod ffiniau.

“Mae’n debyg i’r hyn maen nhw'n ei ddweud ar awyren - mae'n rhaid i chi roi'r mwgwd ocsigen arnoch chi'ch hun yn gyntaf, ac yna gallwch chi ofalu am eraill.”

Cyn i mi ddechrau gweithio gyda Mind, byddwn yn colli rhywbeth ac yn teimlo wedi fy llethu ac yn teimlo fel rhywun drwg. Cosbi fy hun a hunan-ddifrodi yn eithaf gwael, yn llythrennol.

Ar ôl gweithio gyda Mind, collais gebl ar gyfer y teledu. Dechreuais dynnu popeth allan yn wyllt a dechrau mynd i banig - rwy'n fam ddrwg, ni allaf roi bywyd gwych i fy mhlant, does dim byd yn mynd yn iawn. Yna, wnes i stopio. Eisteddais yn llonydd a dweud wrthyf fy hun “stopia am eiliad. Dydw i ddim yn fam ddrwg. Dw i wedi rhoi cartref iddyn nhw. Rwy'n eistedd mewn ystafell yn fy nhŷ, rwy'n ddiogel. Dim ond cebl yw e. Mae pobl yn colli pethau ac mae hynny'n iawn.”

Yn flaenorol, byddwn wedi creu trychineb, ond nawr mae gen i’r dulliau i ymdawelu. Rydw i hefyd wedi dod o hyd i swydd, ac wedi creu system cymorth fwy strwythuredig ar gyfer fy mhlant. Mae’n debyg i’r hyn maen nhw'n ei ddweud ar awyren - mae'n rhaid i chi roi'r mwgwd ocsigen arnoch chi'ch hun yn gyntaf, ac yna gallwch chi ofalu am eraill.

Rwy'n dal i gael problemau gyda fy iechyd meddwl, ond rwy'n teimlo y galla i ymdopi'n well. Nawr, rwy’n yn gwneud cwrs arall gyda Mind, sydd wedi gwneud i mi gydnabod bod gen i nifer o symptomau Anhwylder Personoliaeth Ffiniol, ac ar hyn o bryd rwy’n ceisio diagnosis ar eu cyfer gyda fy nhîm iechyd meddwl cymunedol.

Galla i ddweud yn sicr bod fy Mind lleol nid yn unig wedi fy nghadw'n fyw, ond ei fod wedi fy nghadw'n fyw ac yn fy nghartref gyda fy mhlant. A nawr, dwi’n gwybod fy mod i’n haeddu bod yn hapus.

If the blog has signposts put them here.

 

Information and support

When you’re living with a mental health problem, or supporting someone who is, having access to the right information - about a condition, treatment options, or practical issues - is vital. Visit our information pages to find out more.

 

Share your story with others

Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.

arrow_upwardYn ôl i'r brig