Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2024

Ar #DiwrnodIechydMeddwlYByd, helpwch ni i godi ymwybyddiaeth ac arian hanfodol ar gyfer dyfodol pan fydd pawb yn gallu cael gofal iechyd meddwl o safon pan fydd ei angen arnynt. I sicrhau ein bod yn meddwl am bob meddwl.

Cyfrannwch at Mind heddiw

Cymerwch ran

Rydyn ni mewn argyfwng iechyd meddwl. Mae 2 filiwn o bobl yn aros am wasanaethau iechyd meddwl y GIG. Pobl go iawn, yn cael eu siomi gan system iechyd meddwl sydd wedi torri.

Mae angen cymorth arnyn nhw nawr, nid ymhen 6 mis. Nid mewn blwyddyn. 

Rydyn ni’n gofyn i chi ymuno â ni ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd. Yn Mind ac ar draws ein rhwydwaith o 100 a mwy o ganghennau Mind lleol, rydyn ni’n darparu amrywiaeth o wasanaethau a chymorth i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl. Ni allwn gysylltu â phawb ar ein pen ein hunain – mae maint yr heriau’n enfawr, ond gyda newid gwleidyddol a systemig, gallwn greu dyfodol lle byddwn yn sicrhau ein bod yn meddwl am bob meddwl.

Rydyn ni angen eich help chi i wneud hyn.

Rydw i’n cofio teimlo ar fy ngwaethaf. Roeddwn yn teimlo fel nad oedd unrhyw ffordd allan. Dydw i ddim yn meddwl y buaswn i’n dal yma oni bai am Mind. Fuaswn i ddim wedi gallu cario ymlaen fel ’na.

Darllenwch flog Gavin

 

Rhannwch asedau ein hymgyrch

Lawrlwythwch yr asedau hyn i gymryd rhan yn ein hymgyrch. Cofiwch ein tagio ni ar y cyfryngau cymdeithasol a defnyddio’r hashnod #MeddwlAmBobMeddwl.

Ymunwch â’n galwad i lywodraeth y DU

Helpwch ni i bwyso ar lywodraeth newydd y DU i wneud iechyd meddwl yn flaenoriaeth. Rydyn ni am iddi wneud y canlynol:

  • Diwygio’r Ddeddf Iechyd Meddwl hen ffasiwn
  • Codi safon ysbytai iechyd meddwl
  • Adeiladu rhwydwaith o ganolfannau cymorth er mwyn i bobl ifanc allu cael cymorth iechyd meddwl cyn i’r mater droi’n argyfwng iddynt
  • Cefnogi pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl i ffynnu yn y gwaith
  • Gwneud i asesiadau budd-daliadau weithio i bobl anabl er mwyn sicrhau bod gan bawb rwyd ddiogelwch ariannol pan mae ei hangen arnynt

Ymunwch â'n galwad ar lywodraeth newydd y DU i flaenoriaethu iechyd meddwl.

Ymunwch â'n galwad

Cyfrannwch, a chael bathodyn Mind

Mae angen eich help arnom i fod ar ben arall y ffôn, i fod yn weithgar mewn cymunedau lleol, ac i ymgyrchu’n galed i ddal llywodraeth newydd y DU i gyfrif. Rydyn ni’n gwybod bod ein hangen ni a’n gwasanaethau ar fwy a mwy o bobl o hyd, ac ni allwn ddarparu hyn heb eich cefnogaeth chi.

Bydd eich cyfraniad yn ein helpu ni i ateb mwy o alwadau i’n llinell gymorth, i gynnig cymorth drwy ein gwefan a’n cymuned ar-lein, Side by Side. Gyda’n gilydd, gallwn sicrhau ein bod yn meddwl am bob meddwl.

Cyfrannwch nawr

"Mae fy mhrofiadau o wasanaethau iechyd meddwl wedi bod yn negyddol i raddau helaeth, felly mae’r gefnogaeth a gefais gan Mind wedi bod yn achubiaeth, gan greu lle diogel i mi siarad am fy heriau a’m helpu i ddeall fy symptomau."

Mae India yn blogio ynglŷn â sut wnaeth Mind ddarparu lle diogel iddi.

Darllenwch stori India

"Heb Mind, dwi’n meddwl y byddwn i wedi marw. Roedd y ffordd cefais fy nhrin gan dîm argyfwng lleol y GIG mor siomedig. Roeddwn i’n manig ac yn seicotig, a phan fyddai felly byddaf yn gweld ac yn clywed pethau sy’n gallu bod yn frawychus."

Mae Kayleigh yn blogio am sut roedd ei Mind lleol yno iddi.

Darllenwch stori Kayleigh

"I tried to do it alone and I failed. I want people to know that Mind is there to help them and if they can face their problems early, they might not suffer for as long as I have."

Jasmine blogs about how Mind has supported both her and her mother with their mental heath.

Read Jasmine's story

Siaradwch â ni

Chwilio am gefnogaeth iechyd meddwl? Ffoniwch ein llinell wybodaeth gyfrinachol i siarad â chynghorydd cyfeillgar, neu edrychwch ar ein tudalennau gwybodaeth.

Ffeindiwch gefnogaeth

Ein cymuned ar-lein

Mae Side by Side yn gymuned ar-lein gefnogol lle gallwch chi gysylltu â phobl sy'n deall yr hyn rydych chi'n profi.


Ymunwch â Side by Side

Cefnogaeth leol

Mae grwpiau Mind lleol yn elusennau annibynnol sy'n gweithio ledled Cymru a Lloegr. Maent yn darparu gwasanaethau wedi'u teilwra i'w cymuned leol.

Ffeindiwch eich Mind lleol

Other ways to get involved

arrow_upwardYn ôl i'r brig