Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Mind Cymru 

Ni yw Mind Cymru. Rydyn ni yma am gefnogaeth, parch ac i frwydro dros eich iechyd meddwl.

 

Beth mae Mind Cymru yn ei wneud?

Mind Cymru yw Mind yng Nghymru. Rydym yn sicrhau bod gan bawb yng Nghymru fynediad at y wybodaeth, y cymorth a'r gwasanaethau iechyd meddwl sydd eu hangen arnynt. Rydym yma i sicrhau nad oes unrhyw un yng Nghymru yn wynebu problem iechyd meddwl ar ei ben ei hun.

Ein heffaith

Bob blwyddyn, rydyn ni’n helpu miloedd o bobl yng Nghymru i gael y cymorth gorau posibl i’w hiechyd meddwl trwy ein helusennau Mind lleol, siopau manwerthu a'n gwasanaethau gwybodaeth ac ymgyrchu.

Rydym yn mynd i’r afael â rhwystrau at gymorth ac yn lleihau stigma. Rydym yn newid polisïau a systemau. Mae gennym ni’r sgiliau, y profiad a’r arbenigedd i helpu pob un ohonom sydd ei angen. 

Dysgwch fwy trwy ddarllen adroddiad effaith blynyddol diweddaraf Ffederasiwn Mind yng Nghymru.

Clawr adroddiad effaith ffederasiwn Mind yng Nghymru gyda llun o ddau berson ifanc

Ymgyrchoedd

Rydym yn ymgyrchu i gyrraedd sefyllfa well i bobl Cymru. Yma, cewch fanylion am ein hymgyrchoedd cyfredol a sut y gallwch gymryd rhan.

Cymryd rhan

Gwybodaeth ddwy-ieithog

Rydym yn cynnig gwybodaeth iechyd meddwl yn y Gymraeg a'r Saesneg. Cael cefnogaeth yn eich dewis iaith.

Cael gwybodaeth

Eich Mind lleol 

Mae 15 Mind lleol ar draws Cymru, yn cefnogi oddeutu 32,000 o bobl. Darganfyddwch sut gall eich Mind lleol eich cefnogi chi yn eich cymuned.

Mind lleol

Lle alla i gael cymorth iechyd meddwl yng Nghymru?

Mae gennym 15 Mind lleol ar draws Cymru. Mae pob Mind lleol yn wahanol, ond mae pob un ohonynt yn cynnig gwasanaethau iechyd meddwl wedi'u teilwra i'w cymuned leol.

Find your local Mind - enter your postcode.

Yn anffodus, nid oes Mind lleol yn agos at y côd post hwn. Rhowch gynnig ar gôd post arall i ddod o hyd i'ch Mind lleol agosaf, neu ffoniwch ein Llinell Wybodaeth ar 0300 123 3393 i ddod o hyd i'ch gwasanaeth agosaf.

          

Sut ydym yn cael ein llywodraethu?

Yng Nghymru, rydym yn gosod ein hagenda ein hunain ac yn blaenoriaethu ymgyrchoedd a phrosiectau sy'n bwysig i’r bobl sy'n byw yma.

Rydym yn cael ein llywodraethu gan 'Pwyllgor', sef pwyllgor o wirfoddolwyr sy'n helpu ein cyfeirio gan sicrhau ein bod ar y trywydd cywir.

Ein hymrwymiad i'r Gymraeg

Yn ogystal a darparu ein gwybodaeth fwyaf poblogaidd am iechyd meddwl yn y Gymraeg, rydyn ni’n gwneud ein gorau i fod yn elusen well i siaradwyr Cymraeg trwy gynyddu’r nifer o aelodau o staff sy’n medru'r Gymraeg.

Darganfyddwch fwy am sut y gallwn ni eich cefnogi chi yn Gymraeg.

Cynnig Cymraeg

Y Straeon Diweddaraf o Gymru 

Darllenwch y straeon diweddaraf o Gymru. Mae ein blogwyr yn rhannu eu profiadau o fyw gyda phroblem iechyd meddwl neu weithio ym maes iechyd meddwl.

Pam y gwnes i gerdded 6,600 o filltiroedd i godi arian i Mind

James sy’n egluro sut y gwnaeth o wneud ffrindiau, achub bywyd, a darganfod cariad ar ôl ymgymryd â’r dasg enfawr o gerdded arfordir Prydain.

> Stori James

Pam fy mod yn annog dynion i gymryd pum munud i feddwl er mwyn eu hiechyd meddwl

Mae Louis, o Gasnewydd, yn esbonio pam mae'n meddwl y gallai dynion elwa o neilltuo amser er lles iddyn nhw bob dydd.

> Stori Louis

Pam dwi’n meddwl y dylai dynion siarad mwy am eu hiechyd meddwl

Ar ôl colli ei frawd drwy hunanladdiad, mae Callum yn annog dynion ifanc eraill i siarad.

> Stori Callum

Partneriaethau a chydweithrediadau Mind Cymru

Mae Mind Cymru yn gweithio gyda llawer o sefydliadau eraill.

Mae partneriaethau yn ein helpu i newid meddyliau a gweithio er mwyn gwella iechyd meddwl i bawb. Rydym yn gweithio gyda:

  • Y Gymdeithas Strôc - rydym yn gweithio gyda’r Gymdeithas Strôc a goroeswyr strôc, i ddatblygu gwasanaeth iechyd meddwl newydd i bobl sydd wedi cael strôc. Darllenwch yr adroddiad. 
  • Athletau Cymru - Gyda'n gilydd rydym yn cefnogi iechyd meddwl cymuned redeg Cymru. > Darllenwch ein datganiad i'r wasg
  • Cynghrair Iechyd Meddwl Cymru (CIMC) - Mae Cynghrair Iechyd Meddwl Cymru (CIMC)  yn gydweithrediad rhwng elusennau iechyd meddwl a hunanladdiad a hunan-niweidio cenedlaethol Cymru. Gyda’n gilydd, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl sy’n profi problem iechyd meddwl yng Nghymru yn cael eu trin â thosturi, bod eu lleisiau yn cael eu clywed a’u bod yn gallu cael mynediad at wasanaethau cymorth yn gyflym ac mor agos at eu cartrefi a phosibl. Mae’r Gynghrair yn cynnwys: Adferiad, Beat eating disorders, Mental Health Matters Wales, Mental Health Foundation, Mind Cymru, Papyrus: Prevention of Young Suicide, Platfform, a Samariaid Cymru. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Nia Sinclair, [email protected]
  • Darllenwch flaenoriaethau CIMC ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru.

Dysgwch fwy am weithio mewn partneriaeth â Mind Cymru 

Ffyrdd eraill o gyfrannu

arrow_upwardYn ôl i'r brig