Sgwrs genedlaethol am iechyd meddwl yng Nghymru
Mae’r adroddiad hwn ar gyfer unrhyw un sy’n dymuno deall profiadau a safbwyntiau pobl ynghylch gwasanaethau iechyd meddwl Cymru yn well, a hynny gan bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl.
Trosolwg
Ein nod oedd deall profiadau a safbwyntiau pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yng Nghymru.
Fe wnaethom gasglu gwybodaeth gan 177 o bobl, drwy arolwg a grwpiau ffocws, am sut beth yw ceisio cael cymorth ar gyfer problem iechyd meddwl yng Nghymru, sut gall gwasanaethau wella a sut hoffai pobl fod yn rhan o’r gwaith o lunio’r system iechyd meddwl.
Llwytho'r adroddiad i lawr (Saesneg)*
*Fersiwn Cymraeg ar gael ar gais
Cipolwg ar y prif ganfyddiadau
Mae canlyniadau’r gwaith ymchwil hwn yn creu darlun o system sydd dan bwysau. Gyda dim digon o wybodaeth yn cael ei rhoi i’r rheini sy’n cael cefnogaeth, a diffyg llais ganddyn nhw ynghylch eu triniaeth.
Mae mynediad, ansawdd a chysylltedd cefnogaeth i gyd yn themâu allweddol yn y safbwyntiau a gasglwyd. Clywsom hefyd am effaith amseroedd aros sylweddol sy’n arwain at ddirywiad mewn iechyd meddwl, a theimladau o fod ar goll yn y system.
Pan ofynnwyd am flaenoriaethau ar gyfer newid, dyma ddywedodd pobl oedd angen ei wella:
- Mynediad at gefnogaeth
- Ansawdd y gefnogaeth
- Hyfforddi’r gweithlu
- Gofal mewn argyfwng
- Gwasanaethau cysylltiedig
Dywedodd pobl wrthym hefyd eu bod yn cael trafferth gyda’r canlynol:
- Rhestrau aros hir ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl
- Anhawster wrth ganfod eu ffordd drwy’r system
- Ansawdd y gefnogaeth yn anghyson
- Diffyg gofal mewn argyfwng a gwasanaethau cydgysylltiedig
- Dim cyfle i fod yn rhan o wella’r system
Blaenoriaethau ar gyfer newid yn seiliedig ar brofiad go iawn
Byddwch yn onest - does dim cymorth ar gael. Rhowch y gorau i ddweud wrth bobl am estyn allan pan does ’na ddim byd ar gael.
Problem:
Mae amseroedd aros yn rhy hir a does dim digon o wasanaethau ar gael.
Beth sydd ei angen:
- Lleihau amseroedd aros ar gyfer therapi a gofal arbenigol.
- Sicrhau bod gwasanaethau ar gael bob awr o’r dydd.
- Gwella eglurder ynghylch canfod y ffordd drwy’r system iechyd meddwl.
Gwasanaethau gwell, sy'n gweithio. Roedd angen CBT ar fy ngŵr ond dim ond yn ystod oriau gwaith roedd yn cael ei gynnig. Doedd e ddim yn gallu cael gafael ar y gwasanaeth.
Problem:
Mae’r gefnogaeth yn aml yn anghyson ac nid yw wedi’i theilwra i anghenion unigolion.
Beth sydd ei angen:
- Triniaethau sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
- Hyfforddi gweithwyr proffesiynol mewn tosturi, empathi a chyfathrebu.
- Sicrhau bod amrywiaeth o ddewisiadau ar gael o ran triniaethau.
Addysg well i nyrsys iechyd meddwl dan hyfforddiant i gynnwys sgiliau seicolegol.
Problem:
Mae angen hyfforddiant gwell ar weithwyr proffesiynol i gefnogi anghenion iechyd meddwl yn effeithiol.
Beth sydd ei angen:
- Gwella hyfforddiant ar gyfer meddygon, nyrsys a therapyddion
- Cynyddu hyfforddiant mewn therapïau arbenigol (e.e. Dadsensiteiddio ac Ailbrosesu Symudiad y Llygaid, Therapi Ymddygiad Dialectig)
- Recriwtio staff sydd â phrofiadau go iawn o broblemau iechyd meddwl.
Yn ein hardal leol, rhaid i chi geisio lladd eich hun sawl gwaith cyn cael help.
Problem:
Mae pobl mewn argyfwng yn ei chael yn anodd dod o hyd i fannau diogel a chefnogol.
Beth sydd ei angen:
- Gwella cyfleusterau gofal mewn argyfwng mewn adrannau Damweiniau ac Achosion Brys.
- Cynyddu’r gefnogaeth gymunedol mewn argyfwng, fel caffis argyfwng.
- Sicrhau bod digon o staff ar wardiau cleifion mewnol a’u bod yn rhoi gofal therapiwtig.
Mae gwaith rhwng asiantaethau yn sicrhau nad oes neb yn llithro drwy'r craciau.
Problem:
Mae gwasanaethau’n gweithredu mewn seilos, gan ei gwneud yn anodd i bobl gael gofal di-dor.
Beth sydd ei angen:
- Gwella cydweithio rhwng gwasanaethau iechyd meddwl a gofal cymdeithasol.
- Rhannu gwybodaeth yn fwy effeithiol fel nad oes rhaid i bobl ailadrodd eu straeon.
- Datblygu dull ‘dim drws anghywir’ ar gyfer cael gafael ar gefnogaeth.
Y camau nesaf: Beth rydyn ni’n ei wneud am hyn
Roedd pobl wedi rhannu profiadau uniongyrchol pwerus, gan dynnu sylw at wir effaith methiannau yn y system a’r angen am newid. Bydd y rhain yn llunio blaenoriaethau ymgyrchu a ffyrdd o weithio Mind Cymru.
Fe ddywedoch chi:
Byddwn yn:
“Mae rhestrau aros yn rhy hir.”
Byddwn yn eiriol dros well cyllid, amseroedd aros byrrach a gofal o ansawdd gwell.
“Dydyn ni ddim yn teimlo ein bod yn cael ein clywed.”
Byddwn yn datblygu mwy o ffyrdd i bobl sydd â phrofiad go iawn lunio gwasanaethau.
"Mae diffyg gofal mewn argyfwng."
Byddwn yn pwyso am well cefnogaeth mewn argyfwng ac yn gweithio gyda changhennau Mind lleol i gryfhau’r gefnogaeth sydd ar gael yn y gymuned.
How to get involved
If you would like to help shape our services and campaigns, you can:
- Cofrestrwch ar gyfer ein Cylchlythyr Profiad Byw a Gwrth-stigma (18+)
- Ymunwch â’r Rhwydwaith Lleisiau Ifanc (11-24)
- Cofrestrwch i fod yn ymgyrchydd
- Ffyrdd eraill o gymryd rhan
- Dilynwch ein sianeli cyfryngau cymdeithasol am y cyfleoedd a'r newyddion diweddaraf.