Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Mis Hanes Pobl Ddu

Bob blwyddyn, mae Mis Hanes Pobl Ddu yn gyfle i gydnabod, i ddathlu ac i ystyried profiadau cymunedau Affricanaidd a Charibïaidd a’u diaspora.  

Mae’n gyfle i feddwl a phwyso a mesur sut mae hil, hiliaeth ac iechyd meddwl yn croestorri ymysg pobl Ddu yn y DU.

Ar y dudalen hon:

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Pam mae Mis Hanes Pobl Ddu yn bwysig

Mae Mis Hanes Pobl Ddu yn bwysig gan ei fod yn cydnabod ac yn dathlu cyfraniadau a phrofiadau pobl Ddu yn y DU. Mae’n rhoi cyfle i wneud y canlynol:

  • Codi ymwybyddiaeth o hanes cymunedau Du
  • Brwydro yn erbyn hiliaeth
  • Hyrwyddo cynhwysiant
  • Ysbrydoli newid cymdeithasol cadarnhaol

Mae’n ein hatgoffa bod hanes pobl ddu yn rhan annatod o hanes a diwylliant y DU.

Gall ymwybyddiaeth o Fis Hanes Pobl Ddu arwain at drafodaethau a chamau gweithredu sy’n sbarduno newid a diwygio cymdeithasol. Gall hefyd ein gorfodi i fynd i'r afael â hiliaeth systematig ac anghydraddoldeb mewn gwahanol agweddau ar gymdeithas, gan gynnwys addysg, cyflogaeth, a mynediad at gymorth iechyd meddwl.

Dathlu ein Chwiorydd: Dathlu ein harwyr iechyd meddwl Du

I ddathlu thema Mis Hanes Pobl Ddu eleni, Dathlu ein Chwiorydd’, roeddem ni eisiau dathlu rhai o fenywod Du sydd wedi gwneud cyfraniadau rhyfeddol i iechyd meddwl.

Dorcas Gwata

Mae Dorcas yn eiriolwr iechyd meddwl, yn awdur ac yn arbenigwr iechyd byd-eang. Cyd-sefydlodd y Caffi Iechyd Byd-eang, sy’n annog pobl i fyfyrio drwy ddeialog a mynd i’r afael â materion iechyd sy’n berthnasol i Affrica. Mae Dorcas yn frwd dros fynd i'r afael â gwahaniaethau iechyd meddwl mewn cymunedau Du a chymunedau hiliau eraill. Mae hi wedi gweithio’n ddiflino i greu mannau diogel i drafod materion iechyd meddwl, gan weithio gyda phobl ifanc a theuluoedd y mae diwylliant gangiau yn effeithio arnynt yn Llundain.

Carol Webley-Brown

Mae gan Carol dros 40 mlynedd o brofiad fel nyrs ac mae hi wedi gweithio mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, gofal sylfaenol a nyrsio iechyd meddwl. Mae hi bellach yn aelod Llafur o Gyngor Lewisham ac yn gynghorydd Coleg Brenhinol y Nyrsys. Carol yw awdur ‘Memoirs of an NHS Black Mental Health Nurse’. Drwy ei stori, mae Carol yn ceisio chwalu hiliaeth a chodi proffil nyrsys Du.

May Tanner

Fe wnaeth May gyrraedd Bryste ym 1956 pan oedd hi’n ei harddegau o’i chartref yn Barbados. Roedd hi’n rhan o Genhedlaeth Windrush – pobl o drefedigaethau blaenorol Prydain a ddaeth i helpu i adfer y wlad ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Dechreuodd weithio yn Ysbyty Brenhinol Bryste a hi oedd prif nyrs ward Ddu gyntaf Bryste. Er gwaethaf ei chymwysterau a’i henw da ymysg cleifion, roedd May yn wynebu gwahaniaethu oherwydd lliw ei chroen. Fodd bynnag, parhaodd â’i gwaith i gefnogi cleifion iechyd meddwl nes iddi ymddeol. Mae hi wedi cael nifer o fedalau nyrsio am ei gwasanaeth.

Dr Leyla Hussein

Mae Leyla’n seicotherapydd Somali-Prydeinig sy’n arbenigo mewn cefnogi goroeswyr cam-drin rhywiol. Mae hi’n creu mannau diogel ar gyfer sgyrsiau agored am iechyd meddwl, gan ganolbwyntio ar hawliau rhywedd ac iechyd atgenhedlol. Hi yw sylfaenydd Prosiect Dahlia, gwasanaeth arbenigol i fenywod sydd wedi dioddef anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM). Cydsefydlodd Safe Spaces ar gyfer Menywod Du gyda’i chydweithiwr Fatima Hagi, i ddarparu cefnogaeth emosiynol i fenywod Du ledled y byd.

Dr Jacqui Dyer MBE

Mae Jacqui wedi brwydro dros welliant sylweddol mewn gwasanaethau iechyd meddwl drwy gydol ei gyrfa, gan ganolbwyntio ar fynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol yn y sector iechyd meddwl. Mae hi’n ymgynghorydd iechyd a gofal cymdeithasol annibynnol ac yn Llywydd presennol y Sefydliad Iechyd Meddwl. Hi ydy’r Cynghorydd Cydraddoldeb Iechyd Meddwl NHS England ac Health Education England hefyd. Mae hi wedi cyd-sefydlu ac yn cadeirio Black Thrive Lambeth, partneriaeth i wella iechyd meddwl a lles pobl Ddu.

Dod o hyd i gymorth ar gyfer hiliaeth a iechyd meddwl

Os ydych chi’n profi hiliaeth fel person Du, mae’n gallu gwneud i chi deimlo’n anniogel, yn annymunol, ac fel nad oes gennych chi gyfle teg i lwyddo. Os ydy pethau’n anodd i chi, rydyn ni eisiau i chi wybod nad ydych chi ar eich pen eich hun.

Y mis hwn byddwch yn clywed llawer am brofiadau pobl Ddu – yn y gorffennol a’r presennol, yn gadarnhaol ac yn negyddol. Weithiau, gall hyn deimlo’n ysbrydoledig. Ac weithiau gall hyn deimlo’n anodd.

Os ydych chi’n cael trafferth yn ystod Mis Hanes Pobl Ddu a’r tu hwnt, darllenwch ein dewisiadau isod i weld lle gallwch chi gael cymorth sy’n addas i chi.

Gwybodaeth ar-lein Mind

Mae ein gwybodaeth yn rhoi dealltwriaeth o effaith hiliaeth – a sut a ble gallwch chi ofyn am gymorth. Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd cael y cymorth sydd ei angen arnoch chi, gall ein hawgrymiadau ni eich helpu chi i ddod o hyd i ffordd ymlaen.

Darllen ein gwybodaeth

Llinell Wybodaeth Mind

Os oes angen cymorth arnoch chi, cysylltwch â’n Llinell Wybodaeth dros y ffôn, drwy e-bost neu drwy’r post. Gallwn roi gwybodaeth i chi am gymorth iechyd meddwl a’ch cyfeirio at gymorth yn eich ardal. Mae ein llinellau yn agored rhwng 9am a 6pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac eithrio ar wyliau banc.

Gallwch siarad â ni am y canlynol:

  • Problemau Iechyd meddwl a llesiant
  • Sut gallwch ofalu am eich iechyd meddwl eich hun
  • Gwasanaethau cefnogi yn eich ardal chi
  • Dewisiadau triniaeth, fel meddyginiaeth a chwnsela
  • Gwasanaethau eirioli

Cysylltwch â’n Llinell Wybodaeth drwy:

  • Ffôn: 0300 123 3393
  • E-bost: [email protected]
  • Post: Mind Infoline, PO Box 75225, London, E15 9FS

Side by Side

Mae Side by Side yn gymuned ar-lein gefnogol. Mae’n le lle gallwn ni siarad yn agored am ein hiechyd meddwl a chysylltu ag eraill sy’n deall yr hyn rydyn hi’n ei wynebu.

Mae’n lle diogel i wrando, rhannu a chael eich clywed. Mae’r gymuned ar gael 24/7, ac mae croeso i bawb.

Ewch i Side by Side

Canghennau Mind lleol

Mae canghennau Mind lleol yn cynnig gwybodaeth a chymorth iechyd meddwl i gymunedau ledled Cymru a Lloegr. Maen nhw’n lle diogel i siarad â phobl sy’n deall problemau iechyd meddwl a’r heriau rydyn ni’n eu hwynebu.

Mae hi’n bosibl y bydd eich Mind lleol yn cynnig:

  • Cwnsela cost isel
  • Grwpiau cefnogaeth gan unigolion
  • Mae eiriolaeth yn golygu cael cefnogaeth gan rywun arall i’ch helpu i fynegi eich barn a’ch dymuniadau, a’ch helpu i sefyll dros eich hawliau.

 

Dod o hyd i'ch gwasanaeth Mind lleol

Sefydliadau eraill sy’n darparu cymorth iechyd meddwl

Aashna

aashna.uk
Mae’n darparu rhestr o therapyddion sy’n gweithio i gydnabod y ffyrdd y mae diwylliant, ffydd, crefydd, lliw, cefndir cymdeithasol, rhywioldeb, rhywedd a niwroamrywiaeth yn effeithio ar brofiadau pobl.

African Rainbow Family

africanrainbowfamily.org
Mae’n darparu cymorth i bobl LHDTCRh+ sy’n ceisio lloches a ffoaduriaid o dreftadaeth Ddu, Affricanaidd a Charibïaidd yn y DU.

BAATN (The Black, African and Asian Therapy Network)

baatn.org.uk
Mae’n darparu rhestr o therapyddion o gefndiroedd Du, Affricanaidd ac Asiaidd, ac yn cyfeirio at wasanaethau iechyd meddwl ac eiriolaeth lleol.

BLAM (Black Learning Achievement and Mental Health)

blamuk.org
Mae’n cynnig cymorth iechyd meddwl i bobl o gymunedau Du Prydeinig, gan gynnwys gweithdai lles hiliol. Gwaith i ymgorffori treftadaeth ddiwylliannol Ddu Prydeinig a hanes Affricanaidd a Charibïaidd mewn addysgu.

Boloh helpline

0800 151 2605
helpline.barnardos.org.uk
Llinell gymorth sgwrsio ar y we ar gyfer plant, pobl ifanc, rhieni neu ofalwyr Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig y mae’r pandemig wedi effeithio arnynt. Mae’n cynnig cefnogaeth emosiynol a chyngor ymarferol.

Diverse Cymru

diversecymru.org.uk
Elusen yng Nghymru sydd wedi ymrwymo i gefnogi pobl sy’n wynebu anghydraddoldeb a gwahaniaethu. Mae’n cynnig gwasanaethau iechyd meddwl i bobl o gefndiroedd Du a lleiafrifoedd ethnig drwy ei phrosiectau iechyd meddwl.

Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru (EYST)

eyst.org.uk
Mae’n darparu gwasanaethau yng Nghymru ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 a 25 oed o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig a’u teuluoedd, gan gynnwys cymorth ar gyfer iechyd a llesiant.

Rethink Mental Illness

0300 5000 927
rethink.org
Mae Rethink Mental Illness yn darparu cymorth a gwybodaeth i unrhyw un y mae problemau iechyd meddwl yn effeithio arnynt, gan gynnwys grwpiau cymorth lleol.

Sefydliadau ymgyrchu

Mae’r sefydliadau hyn yn ymgyrchu yn erbyn hiliaeth ac mae rhai yn cynnig ffyrdd o gymryd rhan a dweud eich dewud. Gallech hefyd ymgyrchu gyda Mind i gael system decach.

Black Lives Matter UK

ukblm.org
Anti-racist organisation fighting to end structural racism.

Black Thrive

blackthrive.org
Mudiad gwrth-hiliol yn brwydro i roi terfyn ar hiliaeth strwythurol.

Race on the Agenda (ROTA)

rota.org.uk
Gweithio gyda chymunedau y mae hiliaeth systemig yn effeithio arnynt, i greu polisïau ac arferion sy’n mynd i’r afael ag anghydraddoldeb.

Ymddiriedolaeth Runnymede

runnymedetrust.org
Mae’n herio anghydraddoldeb hiliol ym Mhrydain drwy ymchwil, adeiladu rhwydweithiau, arwain trafodaethau ac ymgysylltu â pholisïau.

Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth

theredcard.org
AntElusen addysg gwrth-hiliaeth sy’n darparu gweithdai addysgol i bobl ifanc ac i oedolion.

Stephen Lawrence Day Foundation

stephenlawrenceday.org/stephen-lawrence-day-foundation
Mae’r sefydliad hwn yn gweithio i greu cymdeithas fwy cyfartal a chynhwysol, ac i greu cyfleoedd addysg a gyrfa i bobl ifanc.

Stop Hate UK

stophateuk.org
Mae’n cynnig gwasanaeth riportio a chymorth annibynnol i ddioddefwyr ac i dystion troseddau casineb. Ewch i'w gwefan i weld os yw eich ardal chi wedi’i chynnwys a dod o hyd i ddolenni i opsiynau riportio eraill.

The Motherhood Group

themotherhoodgroup.org
Mae’r grŵp yn cynnig cymorth i famau Du drwy ddarparu digwyddiadau yn y gymuned, gweithdai hyfforddi, cefnogaeth un-i-un, ymgyrchoedd cenedlaethol a rhaglenni sy’n ddiwylliannol sensitif.

Sut i ymuno â Mis Hanes Pobl Ddu ar y cyfryngau cymdeithasol

Byddwn yn siarad am Hanes Pobl Ddu ar y cyfryngau cymdeithasol drwy gydol mis Hydref.  Dilynwch ni i ymuno, i ddathlu ac i ddysgu mwy am iechyd meddwl mewn cymunedau Du.

Instagram

Facebook

Threads

Twitter

"I believe that the root cause of my anxiety and stress was racism."

Read Ruth's blog

"I kept my worries inside and felt like I had to be "the man" by dealing with it by myself."

Read Patrick's blog

"The mental health professionals would double-check everything I said with my white male partner."

Read Angela's blog

arrow_upwardYn ôl i'r brig