Eleni, byddwn yn chwifio’r Faner Cynnydd mewn gwahanol ddigwyddiadau Balchder ledled Cymru a Lloegr ac yn parhau i godi ymwybyddiaeth o brofiadau iechyd meddwl LHDTCRhA+.
Ni fyddwn yn rhoi'r gorau iddi nes bod pawb sy’n wynebu problem iechyd meddwl yn cael cymorth a pharch.
Ar y tudalen yma:
Digwyddiadau Balchder rydym yn eu mynychu eleni
Beth mae Balchder yn ei olygu i chi
Hunanofal yn ystod mis Balchder
Ein hymgyrch i wahardd therapi trosi
Gwybodaeth am iechyd meddwl LHDTCRhA+
Adnoddau i gael cymorth gyda’ch iechyd meddwl
Sut i gael y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch Balchder yn Mind
Ymunwch â ni yn y digwyddiadau Balchder!
Drwy gydol y flwyddyn byddwn yn mynd i ddigwyddiadau Balchder, a byddem wrth ein bodd yn eich gweld chi yno! Byddwn yn gorymdeithio, yn cynnal stondinau ac yn tynnu sylw at gymorth iechyd meddwl! Byddwn yn y canlynol:
- Pride Cymru dydd Sadwrn 22 Mehefin
- Pride Y Fflint dydd Sadwrn 22 Mehefin
- Pride Llundain dydd Sadwrn 29 Mehefin
- Pride Wrecsam dydd Sadwrn 27 Gorffennaf
- UK Pride Doncaster dydd Sadwrn 10 Awst
- UK Black Pride dydd Sul 11 Awst
- Pride Manceinion dydd Sadwrn 24 Awst
- Bi Pride dydd Sadwrn 31 Awst
"Bod yn chi eich hun go iawn"
"Cymuned, cael eich derbyn a chariad"
"Lle rydych chi’n perthyn iddo"
"Dim angen profi eich hun i eraill"
"Bod yn gyfforddus ac yn hyderus o ran pwy ydych chi"
"Bod yn rhydd i fod yn fi fy hun a gwybod fy mod i’n ddigon cwiar"
Hunanofal yn ystod mis Balchder
Mae mis Balchder yn gyfle pwysig i ddod at ein gilydd fel cymuned ac i ddathlu hunaniaethau LHDTCRhA+. Ond i rai ohonom, gall fod yn gyfnod anodd sy’n amlygu teimladau o gywilydd neu stigma y gallwn ni ein hunain eu teimlo neu eu hwynebu gan bobl eraill. Efallai na fyddwch chi’n gallu dod allan a rhannu pwy ydych chi ag eraill, neu efallai y byddwch chi’n wynebu teimladau casineb tuag at bobl LHDTCRhA+ gan bobl o’ch cwmpas.
Gall fod yn anodd teimlo’n falch o bwy ydych chi pan fydd pobl yn gwahaniaethu yn eich erbyn, a gall hyn gael effaith enfawr ar ein hiechyd meddwl. Dyma rai awgrymiadau ar gyfer gofalu amdanoch eich hun:
- Dywedwch wrth bobl beth sy’n helpu. Rhowch wybod i bobl rydych chi’n ymddiried ynddyn nhw sut gallan nhw eich cefnogi chi pan nad ydych chi’n teimlo’n grêt. Os ydych chi’n teimlo’n gyfforddus, efallai y byddwch chi’n fodlon dweud wrthyn nhw beth sy’n sbarduno’r teimladau hyn er mwyn iddyn nhw wybod sut i’ch helpu chi.
- Ceisiwch adnabod eich arwyddion rhybudd. Ceisiwch feddwl sut rydych chi’n teimlo dros y mis. Cadwch lygad am arwyddion y gallech chi ddechrau teimlo’n wael. Bydd hyn yn wahanol i bawb, ond gall gwybod amdanyn nhw eich helpu i gael cymorth yn gyflymach.
- Cadwch gofnod o’ch teimladau. Mae cadw llygad ar sut rydych chi’n teimlo yn gymorth i weld patrymau o ran yr hyn sy’n gwneud i chi deimlo’n dda ac yn wael. Felly, efallai y byddwch chi’n sylwi pan fyddwch chi’n treulio mwy o amser ar y cyfryngau cymdeithasol y mis hwn, fod hyn yn gwneud i chi deimlo’n waeth. Gallwch gadw golwg gyda dyddiadur hwyliau, nodiadau ar eich ffôn, neu liwiau. Dydy hi ddim bob amser yn bosib osgoi pethau sy’n gwneud i ni deimlo’n isel, ond bydd rheoli’r hyn y gallwch yn helpu.
- Gofalwch amdanoch chi’ch hun. Gall clywed sgyrsiau negyddol am bobl LHDTCRhA+ fod yn niweidiol, ac mae’n gallu gwneud i chi deimlo’n waeth amdanoch chi eich hun. Heriwch feddyliau angharedig sydd gennych chi amdanoch chi eich hun – a gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud pethau da i chi eich hun hefyd. Mae llawer o wybodaeth ar gael ar ein gwefan am sut i wneud hyn.
Gwahardd therapi trosi yn llwyr
Pwrpas therapi trosi yw ceisio newid neu ‘iachau’ cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth rhywun o ran rhywedd. Mae’n arfer anfoesol a niweidiol y mae’n rhaid ei wahardd. Nid oes angen i bobl LHDTCRhA+ ‘iachau’ eu cyfeiriadedd rhywiol na’u hunaniaeth o ran rhywedd.
Nid yw ‘therapi’ trosi yn therapi. Mae’n niweidiol ac mae’n rhoi pobl mewn perygl. Rydym yn galw ar Lywodraeth y DU i wahardd therapi trosi yn llwyr.
Darllenwch fwy am ein gwaith i wahardd therapi trosi (tudalen Saesneg)
Rhannwch eich cefnogaeth drwy ofyn i’ch AS lobïo Llywodraeth nesaf y DU am waharddiad ar therapi trosi sy’n cynnwys pob person LHDTCRhA+.
Iechyd meddwl LHDTCRhA+
Nid bod yn LHDTCRhA+ sy’n achosi problemau iechyd meddwl. Ond gall rhai profiadau rydych chi’n eu cael fel person LHDTCRhA+ eich gwneud chi’n fwy tebygol o orfod wynebu problem iechyd meddwl.
Dyma rai pethau y gallech chi fynd i’r afael â nhw os ydych chi’n LHDTCRhA:
- Homoffobia, deuffobia a thrawsffobia
- Profiadau o stigma a gwahaniaethu
- Profiadau anodd o ddod allan
- Ynysu cymdeithasol, cael eich allgáu a’ch gwrthod
- ‘Therapi trosi’
- Anawsterau o ran cael y gofal iechyd sydd ei angen arnoch am resymau fel gwahaniaethu, neu restrau aros hir am driniaeth ar sail rhyw os ydych chi’n berson traws
A dweud y gwir, oherwydd y materion hyn, mae pobl LHDTCRhA+ yn 2 neu 3 gwaith yn fwy tebygol o gael problem iechyd meddwl.
Ac mae llawer o bobl ifanc yn profi diffyg amgylchedd cynhwysol – yn y cartref, yr ysgol a thu hwnt. Mae bron i chwarter y bobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn ddigartref yn ystyried eu hunain yn LHDTCRhA+.
Mae’r effaith y mae gwahaniaethu ac ynysu’n ei chael ar iechyd meddwl pobl LHDTCRhA+ yn glir, ac mae modd osgoi hyn. Dyna pam mae angen i ni i gyd wneud mwy i wneud yn siŵr bod pethau’n newid – er gwell.
Cofiwch, dydych chi ddim ar eich pen eich hun.
Sut mae cael cymorth ar gyfer iechyd meddwl
Llinell Wybodaeth Mind
Os oes angen cymorth arnoch chi, mae croeso i chi gysylltu â’n Llinell Wybodaeth dros y ffôn, dros e-bost, neu drwy’r post. Gallwn roi gwybodaeth i chi am gymorth iechyd meddwl a’ch cyfeirio at gymorth yn eich ardal.
Mae ein llinellau ar agor rhwng 9am a 6pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac eithrio ar wyliau banc.
Gallwch siarad â ni am bethau fel:
- Problemau iechyd meddwl a llesiant
- Sut gallwch ofalu am eich iechyd meddwl eich hun
- Gwasanaethau cymorth sydd ar gael yn eich ardal chi
- Dewisiadau triniaeth, fel meddyginiaeth a chwnsela
- Gwasanaeth eirioli
Os yw’n rhywbeth na allwn ni roi cymorth ar ei gyfer, gallwn eich cyfeirio at wasanaethau a chymorth sy’n gallu helpu.
Gallwch gysylltu â’n Llinell Wybodaeth fel a ganlyn:
Ffôn: 0300 123 3393
E-bost: [email protected]
Post: Mind Infoline, PO Box 75225, Llundain, E15 9FS
Side by Side
Mae Side by Side yn gymuned gefnogol ar-lein. Mae’n rhywle lle gallwn ni siarad yn agored am ein hiechyd meddwl a chysylltu ag eraill sy’n deall yr hyn rydym ni’n ei wynebu.
Mae’n rhywle diogel i wrando, rhannu a chael eich clywed. Mae’r gymuned ar gael 24/7, ac mae croeso i bawb.
Canghennau Mind lleol
Mae ein rhwydwaith o ganghennau Mind lleol yn cynnig gwybodaeth a chymorth iechyd meddwl i gymunedau lleol ledled Cymru a Lloegr. Maen nhw’n llefydd diogel i siarad â phobl sy’n deall problemau iechyd meddwl a’r heriau rydym ni’n eu hwynebu bob dydd.
Dyma rai o’r gwasanaethau y gallai eich cangen Mind leol eu cynnig:
- Cwnsela cost isel
- Grwpiau cefnogaeth gan unigolion
- Mae eiriolaeth yn golygu cael cefnogaeth gan rywun arall i’ch helpu i fynegi eich barn a’ch dymuniadau, a’ch helpu i sefyll dros eich hawliau
- Gwasanaethau cymorth eraill, yn dibynnu ar y lleoliad.