Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Canllawiau i’r cyfryngau: Siarad am iechyd meddwl

Gall iaith achosi niwed anfwriadol ac atgyfnerthu stigma. Ond pan fyddwn yn ei wneud yn iawn, mae gennym y pŵer i drawsnewid bywydau. Darllenwch y canllawiau hyn, wedi'u llywio gan sgyrsiau â phobl â phroblemau iechyd meddwl.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Mae iaith yn bwysig. Mae’r cyfryngau’n bwysig. Dyna pam fod sut rydym ni’n siarad am iechyd meddwl yn y cyfryngau’n bwysig.

Nid pwrpas y canllaw iaith hwn yw rheoli beth rydym ni’n ei ddweud a sut. Mae’n adnodd y gallwn ni gyfeirio ato’n gyflym i helpu pob un ohonom ni yn y cyfryngau i siarad yn fwy pwerus a sensitif am iechyd meddwl.

Eisiau'r wybodaeth hon mewn PDF? Lawrlwythwch fersiwn PDF o'r canllawiau yma.

Lawrlwythwch PDF

Awgrymiadau ar gyfer trafod iechyd meddwl yn y cyfryngau

1 – Ystyriwch yr iaith rydych chi’n ei defnyddio

Mae rhai disgrifiadau’n defnyddio hen stereoteipiau neu stereoteipiau anghywir sy’n atgyfnerthu’r stigma ynglŷn ag iechyd meddwl. Er enghraifft, weithiau mae cysylltiadau’n cael eu gwneud â throsedd neu risg wrth siarad am iechyd meddwl.

2 – Byddwch yn ofalus wrth siarad am hunanladdiad

Defnyddiwch rybuddion cynnwys pan fo’n bosib. Mae’n bwysig iawn eich bod chi’n osgoi lleoliadau neu ddulliau penodol o hunanladdiad. Mae gwneud hyn yn gallu sbarduno ac annog pobl eraill i gopïo’r ymddygiad hwn, a rhoi pobl eraill mewn perygl.

Peidiwch â damcaniaethu ynglŷn â pham fod rhywun wedi lladd eu hunain. Mae hunanladdiad yn gymhleth ac mae’n annhebygol o fod yn ganlyniad o un ffactor.

Wrth siarad am rywun sydd wedi lladd eu hunain ceisiwch osgoi dweud bod rhywun wedi “cyflawni hunanladdiad”, (commit suicide), gan fod llawer o bobl yn credu bod yr iaith hon yn awgrymu bod hunanladdiad yn drosedd.

Darllenwch canllaw y Samariaid ar gyfer y ffordd orau o adrodd ar hunanladdiad.

3 – Mae profiadau pobl o broblemau iechyd meddwl yn wahanol

O ran problemau iechyd meddwl, triniaeth a chefnogaeth, cofiwch – nid yw'r hyn sy'n gweithio i un person bob amser yn gweithio i berson arall.

Mae estyn allan am help yn gam cyntaf pwysig i gael cefnogaeth. Mae'n rhywbeth y dylem ei annog. Ond mae angen i ni hefyd fod yn realistig ynghylch yr heriau y gallai pobl eu hwynebu wrth gael cymorth.

Mae’n enwedig o bwysig peidio â chyffredinoli gwahanol brofiadau o iechyd meddwl fel eu bod nhw’r un fath ar gyfer pob grŵp ymylol. Er enghraifft, grwpio profiadau pobl o liw gyda'i gilydd.

4 – Peidiwch â gorsymleiddio achosion problemau iechyd meddwl

Mae cyfuniad o ffactorau yn gallu ychwanegu at broblem iechyd meddwl dros amser – pethau fel colli eich cartref neu swydd, poeni am arian, problemau gyda pherthnasoedd, a phrofiadau o gamwahaniaethu, gan gynnwys hiliaeth.

5 – Mae cydnerthedd yn gymhleth

Mae rhai pobl yn meddwl bod cydnerthedd, neu ein gallu i reoli straen, yn rhywbeth y gallwn ni i gyd ei reoli’n hawdd. Ond nid yw hyn yn wir.

Mae’n bwysig cydnabod pethau sy’n gallu ei gwneud yn anoddach bod yn gydnerth, y straen neu’r camwahaniaethu mae rhywun yn ei ddioddef, neu er enghraifft os nad ydyn nhw’n cael cymorth.

6 – Byddwch yn ofalus wrth dynnu sylw at y cadarnhaol

Mae straeon ynglŷn â sut mae pobl wedi ymdopi neu oresgyn profiadau anodd yn gallu bod yn bwerus. Ond maen nhw hefyd yn gallu gwneud i bobl eraill deimlo’n annigonol neu anweledig.

Mae’n dda o beth rhannu straeon iechyd meddwl cadarnhaol ond ceisiwch osgoi datganiadau cyffredinol yn seiliedig ar brofiadau un person. Ceisiwch gydnabod bod profiadau pobl yn wahanol.

Mae Alice yn fardd sy’n byw yn Llundain. Mae hi wedi dioddef iselder a gorbryder ers iddi fod yn 12 oed ar ôl i’w mam farw. Roedd gan ei mam ddiagnosis o anhwylder deubegynol.

“Rydw i wedi clywed ymadroddion fel "dydy hi
ddim yn gall", "mae e off ei ben", neu "maen nhw’n
ymddwyn yn wallgof" gymaint o weithiau dros y
blynyddoedd. Mae’n fy ngwneud i mor drist. Mewn unrhyw flwyddyn, bydd un o bob pedwar ohonom ni’n profi problem iechyd meddwl. Felly, yn hytrach na’n bychanu gyda geiriau, beth
am ddangos ychydig o gydymdeimlad? Efallai mai chi fydd yn cael eich gwawdio ryw ddiwrnod.”  

Sut y gall Gwasanaeth Cynghori Cyfryngau Mind helpu

Os oes angen cymorth arnoch siaradwch â’n Gwasanaeth Cynghori ar y Cyfryngau.

Rydym yn helpu cynhyrchwyr, ymchwilwyr ac awduron operâu sebon a dramâu i greu darluniau cywir a sensitif ar y sgrîn o iechyd meddwl.

Gallwn roi cyngor ar syniadau cychwynnol, amlinelliadau stori, ac adborth ar sgriptiau. Rydym hefyd yn cynnwys pobl sydd â phrofiad o fyw i rannu eu harbenigedd gyda gweithwyr proffesiynol y cyfryngau.

E-bostiwch Wasanaeth Cynghori Cyfryngau Mind

Enghreifftiau cyffredin o iaith ddi-fudd, a beth i'w ddweud yn lle

Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr, ond rydym ni wedi casglu rhai enghreifftiau cyffredin o iaith sy’n gwneud i lawer deimlo’n anghyfforddus.

Mae gan bobl farn wahanol ar ba iaith sy'n eu disgrifio orau a'u profiadau eu hunain. Byddwch yn hyblyg a gwrandewch.

Ymadroddion i’w hosgoi

  • Dioddef. Describing someone as suffering with a mental health problem can imply weakness. Mae disgrifio rhywun arall fel eu bod yn dioddef o broblem iechyd meddwl yn gallu awgrymu bod yr unigolyn yn wan. Mae’n bwysig gofyn i bobl yr iaith yr hoffen nhw i chi ei defnyddio. Er enghraifft, byddai rhai pobl yn disgrifio eu profiad eu hunain fel 'dioddef' os nad ydyn nhw’n gallu cael y cymorth iawn oherwydd amseroedd aros.
  • Sgitsoffrenig neu'n isel. Arweiniwch gyda’r person yn hytrach na’r broblem iechyd meddwl. Mae’r rheini ohonom ni â phroblemau iechyd meddwl yn fwy na’n diagnosis. Rydym ni’n bobl yn gyntaf bob tro.
  • Paid a chynhyrfu, jest gwna fo, gwena fwy, eisiau sylw. Mae llawer o ragdybiaethau anghywir ynglŷn ag iechyd meddwl, gyda rhai problemau iechyd meddwl yn cael eu camddeall neu eu diystyru.
  • Labelu pobl fel ‘pluen eira’ os ydyn nhw’n siarad am eu teimladau. Mae rhannu’n gallu bod yn anodd, ac mae stigma’n cynyddu’r ymdeimlad o unigrwydd, gan ei gwneud yn llai tebygol i bobl ofyn am gymorth.
  • Disgrifio ymddygiad rhywn fel ‘sgitso’. Mae iaith iechyd meddwl yn cael ei gamddefnyddio i ddisgrifio ymddygiad sydd ddim i’w wneud â diagnosis penodol. Nid yw’n deg i’r rheini ohonom ni sydd â phrofiad o hyn i gael ein cysylltu ag ymddygiad fel hyn.
  • Personoliaeth ddeublyg ('split personality'). Mae’r ymadrodd ‘personoliaeth ddeublyg’ wedi cael ei ddefnyddio’n hanesyddol i ddisgrifio effaith sawl problem iechyd meddwl. Nid yw meddygon wedi defnyddio’r ymadrodd ers blynyddoedd, a heddiw mae’n cael ei ystyried yn anghywir ac yn iaith sy’n stigmateiddio.
  • Wrth siarad am rywun glân a thaclus dylech chi osgoiymadroddion fel ‘ychydig yn OCD’. Mae OCD yn broblem iechyd meddwl ddifrifol gydag ymddygiad obsesiynol a gorfodol. Mae’n fwy cymhleth na bod yn lan a thaclus.
  • ‘Carcharorion’ neu ‘breswylwyr’ ar gyfer y rheini mewn ysbyty seiciatrig. Peidiwch â dweud ‘wedi’u rhyddhau’ o ysbyty. Mae hyn yn awgrymu bod rhywun wedi cael eu ‘carcharu’ a’u bod wedi cyflawni trosedd,
  • Iaith fel ‘seico’ a ‘seicopath’ wrth ddisgrifio rhywun sy’n cael cyfnod o seicosis Mae ‘seico’ yn derm slang sy’n cael ei ddefnyddio i stigmateiddio pobl yn hytrach na disgrifio profiad iechyd meddwl penodol. Mae ‘seicopathi’ yn derm hen ffasiwn. Os yw rhywun yn profi rhithweledigaethau, rhithdybiau neu feddwl neu leferydd anhrefnus, efallai y byddwn yn cyfeirio at hyn fel profiad o seicosis. Ond mae’n bwysig deall beth mae seicosis yn ei olygu a’i ddefnyddio’n gywir. Darllenwch ein gwybodaeth am seicosis.
  • Termau slang fel ‘maniac’, ‘gwallgo’, ‘hurt’, ‘lwnatic’, neu ‘seico’. Mae defnydd diofal a diog o labeli iechyd meddwl yn diystyru sut beth yw bod â phroblem iechyd meddwl, ac yn ychwanegu at stigma.
  • 'Happy pills' neu 'chill pills'. Gallai hyn awgrymu golwg or-syml o iselder a gorbryder ac effaith meddyginiaeth. Nid yw llawer o feddyginiaeth seiciatrig yn cael ei defnyddio ar gyfer problemau iechyd meddwl yn unig.

Phrases to use instead

  • Yn profi neu'n byw gyda phroblem iechyd meddwl. Gall hyn fod yn llai gwarth na dweud 'dioddefaint'.
  • Person sy'n profi neu'n byw gyda sgitsoffrenia, anhwylder deubegynol, gorbryder. Yn lle disgrifio rhywun fel rhywun sy'n dioddef o iselder neu sgitsoffrenia, dylech chi arwain gyda'r person. Rydym yn fwy na'n diagnosis.
  • Mae angen cefnogaeth a thosturi ar rywun sy'n cael trafferth. Yn lle dweud wrthyn nhw am fwrw ati, neu dynnu eu hunain at ei gilydd, anogwch nhw i geisio cymorth yn lle hynny.
  • Anrhydeddwch brofiadau a theimladau pobl. Peidiwch â'u beirniadu na'u bychanu am siarad am eu hemosiynau.
  • Os yw rhywun heb broblem iechyd meddwl yn ymddwyn yn amhriodol, disgrifiwch yr ymddygiad hwnnw am beth yw hi. Peidiwch â defnyddio iaith gamarweiniol ynghylch iechyd meddwl.
  • Os oes rhywun mewn ysbyty iechyd meddwl, fe allech chi ddweud ei fod yn glaf, yn ddefnyddiwr gwasanaeth neu'n gleient.
  • Dim ond pan fydd rhywun yn profi pwl gwirioneddol o seicosis y dylech gyfeirio at seicosis.
  • Disgrifiwch emosiynau ac ymddygiadau pobl yn gywir. Mae geiriau fel ecsentrig, gwyllt, blin, neu anhrefnus yn fwy addas a phenodol na 'lwnatic', 'gwallgof' neu 'seico'.
  • Wrth siarad am feddyginiaeth, dwedwch gyffuriau presgripsiwn, neu feddyginiaeth gwrth-bryder/gwrth-iselder.

Mae Sandeep yn ymgyrchydd iechyd meddwl sy’n byw yn Essex. Mae hi wedi bod yn byw ag anhwylder dysmorffia’r corff (BDD), anorecsia ac OCD ers ei bod yn 25 oed.

Dw i wedi dioddef cymaint o stigma o ran y ffordd mae pobl yn siarad am anhwylderau bwyta, neu’n dweud bo fi’n meddwl gormod am sut dw i’n edrych. Mae’r sylwadau hynny wedi aros yn fy meddwl.

Dw i’n cael teimladau mawr o euogrwydd, ofn, a gorbryder. Er gwaethaf hyn, dw i’n clywed y frawddeg ‘dim ond cyfnod yw e a bydd e’n pasio’ mewn perthynas â fy BDD. Nid yw’n mor hawdd â phwyso botwm. Dydy’r iaith hon ddim yn adlewyrchu realiti bywyd. Mae’n gwneud i mi deimlo’n unig, yn ynysig, ac mae pobl yn fy nghamddeall.”

Siarad â rhywun am iaith sy’n stigmateiddio

P’un ai ydych chi’n gweithio yn y cyfryngau ai peidio, mae’n bwysig ceisio helpu i wella’r ffordd rydym ni’n siarad am iechyd meddwl.

Mae gan y cyfryngau ddylanwad enfawr ar y ffordd rydym ni’n defnyddio iaith. Mae tynnu sylw at iaith wael rhywun yn gallu teimlo’n anghynnes. Ond does dim rhaid iddo fod mor anodd ag y byddech chi’n ei feddwl. Dyma enghraifft o sut gallwch chi gael y drafodaeth hon.

Yn ymarferol - sut i herio iaith rhywun

Mae George, Alex chwaer George, a Jamie yn ffrindiau. Mae Alex yn byw gyda phroblem iechyd meddwl. Mae George wedi sylweddoli bod Jamie yn aml yn defnyddio iaith sy’n stigmateiddio gan gynnwys galw pobl yn ‘seicos’ a ‘ffrîcs’.

Mae George hefyd yn anghyfforddus ynglŷn â sut mae Jamie wedi cyfeirio at iechyd meddwl ei chwaer yn y gorffennol, gan fynnu ei bod yn ‘orsensitif’ ac yn ‘fregus’ a bod angen iddi ‘ddod at ei hun’.

Mae Jamie yn aml yn darllen erthyglau papur newydd, yn gwrando ar y radio neu ar bodlediadau, ac yn gwylio’r teledu, sy’n gallu atgyfnerthu rhai o’i safbwyntiau ynglŷn ag iechyd meddwl. Mae George yn gallu gweld sut mae’r cyfryngau hyn yn dylanwadu ar sut mae Jamie yn meddwl ac yn teimlo am iechyd meddwl.

Mae George yn pwyso a mesur sut i ddelio â’r sgwrs. Mae’n gwneud yn siŵr nad yw Jamie ar frys a bod ganddo ddigon o amser i siarad. I baratoi, mae George yn gwneud nodiadau ar ei ffôn. Yna, mae George yn dod o hyd i fan anffurfiol neu breifat.

Mae George yn dewis trafod hyn wrth fynd i feicio yn y parc lleol. Mae’n dod o hyd i rywle i gael sgwrs. Maen nhw’n eistedd ochr yn ochr, yn edrych ymlaen gyda’i gilydd yn hytrach nag ar ei gilydd i leihau unrhyw ymdeimlad o wrthdaro neu chwithdod.

Yn gyntaf, mae George yn cydnabod ei fod yn arfer defnyddio ymadroddion tebyg i helpu Jamie i deimlo’n gyfforddus. Mae George yn dweud fod cael chwaer gyda phroblem iechyd meddwl wedi’i helpu i ddeall bod rhai o’r geiriau a’r ymadroddion roedd yn arfer eu defnyddio yn anghywir ac yn stigmateiddio.

Yna, mae George yn cadarnhau ei fod yn gwybod bod Jamie yn poeni am Alex ac nad yw’n berson drwg am ddweud y pethau hyn. Mae’n bwysig bod Jamie yn teimlo nad yw George yn ymosod arno er mwyn iddyn nhw gael trafodaeth agored a gonest.

Mae George yn gofyn i Jamie pam ei fod yn fod yn defnyddio’r ymadroddion hyn, gan geisio agor y sgwrs i safbwynt Jamie cymaint â phosib. Yn ogystal â gwrando ac ymateb, mae George yn rhannu sut mae’r iaith hon yn gwneud iddo ef a’i chwaer deimlo.

Pan fo’r sgwrs yn dod i ben yn naturiol, mae’n bwysig nad yw George yn mynnu bod Jamie yn cytuno ag ef yn syth neu’n ymddiheuro. Mae’n beth mawr i godi’r pwnc, felly mae gwrando yn ddigon ar hyn o bryd.

Gall Jamie benderfynu yn ei amser ei hun a fydd yn newid ei ffordd.

Awgrymiadau defnyddiol o'r esiampl yma:

  • Dewch o hyd i amser i gael sgwrs – gwnewch yn siŵr nad yw neb cael eu brysio neu eu rhoi o dan bwysau, eich bod chi wedi ymlacio, ac mae’n lle preifat.
  • Gall helpu os ydych chi’n canolbwyntio ar rywbeth gyda’ch gilydd neu’n eistedd ochr yn ochr i wneud y sgwrs yn fwy anffurfiol.
  • Hyd yn oed os ydych chi’n anghytuno â beth maen nhw’n ei ddweud, gwrandewch yn astud pan fyddan nhw’n ymateb.
  • Rhowch y person yn gyntaf a dangos sut mae iaith yn gallu stigmateiddio.
  • Peidiwch â mynnu eu bod nhw’n ymddiheuro. Gadewch iddyn nhw wrando a rhowch amser iddyn nhw ystyried eich safbwynt yn eu hamser eu hunain.

Mae 1 o bob 4 o bobl sydd wedi gwylio, clywed, neu ddarllen am iechyd meddwl yn y cyfryngau wedi cael eu hysbrydoli i ddechrau trafodaeth am eu hiechyd meddwl eu hunain.

Ymchwil gan Populus ar gyfer Mind a ITV (2022)

Rhybuddion cynnwys

Mae rhybuddion cynnwys yn rhoi gwybod am gynnwys neu ddelweddau sensitif a allai gael effaith negyddol ar rywun.

Mae'n galluogi pobl i wneud dewis am y cynnwys y maent yn ei wylio, gwrando arno neu ei ddarllen. Mae rhybuddion cynnwys a rhybuddion sbardun yn aml yn cael eu defnyddio'n gyfnewidiol, ond gall rhai pobl ddefnyddio rhybudd sbardun i fynd i'r afael â phryderon penodol.

Nid yw'r rhybudd cynnwys perffaith yn bodoli. Nid oes un ffordd i'w hysgrifennu. Ond y nod yw cynnig HELP i gymaint o bobl â phosibl i ymgysylltu ag ef mewn ffordd ddiogel.

  • H – Hanfodol. Dylai rhybuddion cynnwys fod ar y brig fel eu bod nhw’r peth cyntaf mae’r darllenydd neu gynulleidfa’n ei weld.
  • E – Egluro’r union beth rydych chi’n rhybuddio amdano. Felly, er enghraifft, mae iaith fel ‘digwyddiadau annifyr’ yn rhy amwys. Mae’n well canolbwyntio ar yr hyn mae’n ei gynnwys, er enghraifft, dweud ei fod yn cynnwys ‘teimladau am hunanladdiad’ neu rywun yn ‘cael eu cadw yn yr ysbyty am resymau iechyd meddwl’.
  • L – Labelu unrhyw beth y byddai pobl yn disgwyl ei weld a allai eu hypsetio. Drwy ddweud beth sydd ddim wedi’i gynnwys gall mwy o bobl ei wylio’n ddiogel.
  • P – Plaen – defnyddiwch frawddegau byr ac iaith blaen. Yn aml, mae rhybuddion cynnwys a rhybuddion sbarduno yn gyfnewidiol, ond mae rhai pobl yn defnyddio rhybudd sbarduno i gyfeirio at bryderon penodol.

Er enghraifft, gallai rhybudd cynnwys da ddweud: Mae’r rhaglen ddogfen hon yn delio ag iselder gyda symptomau o seicosis. Mae’n disgrifio paranoia ac ofnau’n ymwneud â covid-19, a allai beri pryder.

Cyfeirio darllenwyr a gwylwyr at wybodaeth a chymorth

Pan fyddwch chi'n ysgrifennu neu'n siarad am faterion a allai effeithio ar ddarllenwyr, gwrandawyr neu wylwyr, dylech gyfeirio at wybodaeth, cymorth a chefnogaeth briodol. Darllenwch ein rhestr o elusennau a gwasanaethau cymorth isod.

Other ways to get involved

arrow_upwardYn ôl i'r brig