Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Cefnogi eich hun wrth ofalu am rywun

Dysgwch sut i reoli eich lles eich hun wrth ofalu am rywun arall. Cewch wybodaeth ac awgrymiadau ar ofalu am eich iechyd meddwl a dod o hyd i gymorth.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Sut i ofalu amdanoch chi eich hun fel gofalwr

Pan fyddwch chi'n treulio llawer o'ch amser yn canolbwyntio ar rywun arall, efallai y byddwch chi'n teimlo nad oes gennych chi amser ar eich cyfer chi eich hun. Ond mae gofalu am eich lles eich hun yn bwysig i chi ac iddo ef.

Rydyn ni wedi rhestru syniadau hunanofal y gwnaeth pobl eraill nodi eu bod yn ddefnyddiol. Gallai hyd yn oed roi cynnig ar un peth bach eich helpu chi i deimlo y gallwch chi ymdopi’n well.

Ar y dudalen hon:

Mae awgrymiadau cyffredinol ar reoli eich iechyd meddwl ar ein tudalen ar sut i wella eich lles.

Beth i'w wneud os na allwch ymdopi

Weithiau, gall pwysau gofalu am rywun arall gronni nes byddwch chi'n teimlo na allwch chi ymdopi. Mae hyn yn hollol ddealladwy, ond gall fod yn arwydd bod angen i chi geisio gofalu amdanoch chi eich hun. Os ydych chi'n teimlo eich bod chi mewn sefyllfa enbydus ac argyfyngus, fyddwch chi ddim yn gallu helpu rhywun arall.

Ceisiwch gael seibiant bach. Os nad yw hynny'n bosibl, cymerwch gwpl o eiliadau i chi eich hun ac anadlwch yn araf ac yn ddwfn. Gall gwybod y bydd pethau'n mynd yn haws yn y dyfodol eich helpu chi i fod yn dawelach eich meddwl.

Os oes angen help neu gyngor arnoch chi nawr:

  • Gallwch chi siarad â'r Samariaid 24 awr y dydd ar 116 123. I siarad yn Gymraeg, ffoniwch 0808 164 0123. Maen nhw yno i wrando ac i'ch helpu chi i ddod drwyddi.
  • Mae llinell gymorth Carers UK ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am - 6pm ar 0808 808 7777. A defnyddiwch adnodd chwilio am gymorth lleol Carers UK – adnodd i ddod o hyd i gymorth yn yr ardal lle rydych yn byw.
  • Edrychwch ar ein gwybodaeth am sefydliadau a all eich helpu chi a meddyliwch am bwy y gallech chi gysylltu â nhw i gael cymorth. Gallai helpu i wneud nodyn o'ch camau nesaf fel eich bod chi'n teimlo bod gennych fwy o reolaeth dros bethau.

Rhannu sut rydych chi'n teimlo

Mae'n bwysig cael rhywun i siarad ag ef, yn enwedig os byddwch chi'n cael trafferth ymdopi. Gallech chi wneud y canlynol:

Efallai na fydd pob un o'r opsiynau hyn yn teimlo'n iawn i chi. Neu efallai eich bod chi'n teimlo na allwch chi rannu eich teimladau ag unrhyw un. Os ydych chi'n teimlo'n ynysig neu ar eich pen eich hun, mae ein tudalennau ar ymdopi ag unigrwydd yn cynnig rhagor o wybodaeth.

Ceisiwch ddod o hyd i rywun y gallwch chi fod yn onest ag ef am eich teimladau, heb gael eich barnu.

Ceisio bod yn realistig

Os byddwch chi'n ceisio gwneud gormod, efallai y byddwch chi'n teimlo nad ydych chi'n cyflawni dim. Ceisiwch gael syniad clir o'r hyn y gallwch chi ei wneud. Drwy dderbyn y pethau na allwch chi eu newid neu na allwch chi eu gwneud ar eich pen eich hun, efallai y byddwch chi'n teimlo y gallwch chi ymdopi'n well. Gallech chi geisio nodi ac ysgrifennu:

  • rhestr o holl anghenion cymorth y person rydych chi'n gofalu amdano
  • beth allwch chi ei wneud a beth fydd angen i chi gael help i'w wneud
  • sut byddwch chi'n gwybod pan fydd angen seibiant arnoch chi.

Mae seibiant yn bosibl – ac yn angenrheidiol. Allwch chi ddim rhoi eich oll fel gofalwr – dyw hynny ddim yn bosibl. Mae'n rhaid i chi gadw ychydig i chi eich hun.

Dod o hyd i ffyrdd o fod yn drefnus

Gall bod yn drefnus eich helpu chi i deimlo bod mwy o reolaeth gennych dros bethau. Gallech chi gadw amserlen neu gynllun o'ch trefn feunyddiol. Dylech chi sicrhau eich bod chi'n cadw'r holl wybodaeth a meddyginiaeth bwysig mewn un lle. Ond peidiwch â bod yn galed arnoch chi eich hun os byddwch chi'n drysu neu'n colli pethau. Mae gennych chi lawer i feddwl amdano.

Os ydych chi'n teimlo'n gyfforddus yn defnyddio technoleg a bod gennych chi ddefnydd o ffôn clyfar, gallwch chi gadw trefn yn ddigidol. Dysgwch fwy am dechnoleg, apiau a gwasanaethau ar-lein sy'n benodol ar gyfer gofalwyr ar Carers UK.

Gall hefyd helpu i ddweud wrth rywun arall ble mae'r wybodaeth a beth i'w wneud os byddwch chi'n mynd yn sâl. Gallai hyn fod yn ffrind, yn aelod o'r teulu neu'n weithiwr cyflogedig.

Cefnogi ei annibyniaeth 

Mae'n bwysig ei helpu i gael rhywfaint o reolaeth dros ei ofal. Gall hyn olygu cymryd cam yn ôl neu gefnogi penderfyniadau nad ydynt yn rhai y byddech chi'n eu gwneud. Ond gall hefyd olygu y gallwch chi gael cydbwysedd yn eich perthynas, a rhywfaint o amser i chi eich hun efallai.

Gweithio gyda'r unigolyn i ganfod:

  • sut y gall helpu ei hun
  • pa gymorth sydd ei angen arno gennych chi
  • a oes adegau y gall ymdopi ar ei ben ei hun.

Ar ôl i mi basio fy mhrawf gyrru, bues i’n annog Mam i gael gwersi. Roeddwn i'n gwybod bod Mam yn arfer gyrru car cyn iddi fynd mor sâl, a'i bod yn mwynhau gyrru. Dyna oedd y peth gorau wnaeth hi erioed, gan ei fod wedi rhoi rhywfaint o annibyniaeth iddi hi.

Dod o hyd i bethau cadarnhaol yn eich perthynas

Gall gofalu am rywun newid eich perthynas ag ef. Weithiau, byddwch chi'n teimlo'n agos ac yn gysylltiedig. Ond ar adegau eraill efallai y byddwch chi'n teimlo'n ddig ac yn bigog. Gall helpu i siarad yn agored ac yn onest er mwyn dod o hyd i ffyrdd o ymdopi â'ch gilydd.

Gallech chi roi cynnig ar:

  • ystyried eich hun fel ei ffrind, ei bartner neu aelod o'i deulu yn gyntaf oll
  • siarad â'ch gilydd am sut i atgyfnerthu rhannau cadarnhaol o'ch perthynas
  • dod o hyd i ddiddordebau neu hobïau cyffredin i'w gwneud gyda'ch gilydd yn ogystal â chyfrifoldebau o ddydd i ddydd.

Cael seibiant a gwneud a gwneud amser i chi eich hun

Ceisiwch gael seibiant, yn enwedig os ydych chi'n poeni am eich iechyd meddwl eich hun. Efallai na fyddwch chi'n gallu cael seibiant pan fydd angen un arnoch chi, ond mae'n bwysig cael rhywfaint o amser i chi eich hun.

Efallai y bydd angen awr neu ddwy arnoch chi i glirio eich pen, neu ddiwrnod i'ch helpu i ymlacio. Gallech chi fynd allan, cael cwsg bach neu droi eich ffôn i ffwrdd am gyfnod penodol o amser. Ceisiwch wneud amser ar gyfer y pethau rydych chi'n eu mwynhau.

Rwyf wrth fy modd yn rhedeg a thrwy fynd allan am hanner awr bob nos, roeddwn i'n gallu clirio fy mhen ac ymlacio.

Os yw'n bosibl, ceisiwch sicrhau eich bod yn cael seibiannau rheolaidd yn y drefn arferol. Gall hyn eich galluogi chi i wneud y canlynol:

  • gwneud cynlluniau ymlaen llaw
  • cael rhywbeth i edrych ymlaen ato
  • sicrhau bod y person rydych chi'n gofalu amdano yn gwybod beth i'w ddisgwyl.

Mae gan y Carers Trust ragor o wybodaeth am y modd y gallwch chi gael help i gael seibiant. Weithiau, efallai y bydd angen seibiant hirach arnoch chi, yn enwedig os byddwch chi'n poeni eich bod yn mynd yn sâl. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalennau ar wyliau a gofal seibiant.

female smiling, wearing glasses

Gofalu am y gofalwyr

Pan fydda i ar fy isaf, mae crosio neu wneud ychydig o baentio wedi fy naearu ac wedi fy helpu i ymlacio a thawelu.

Gofalu am eich iechyd corfforol

Mae'n bwysig ceisio neilltuo amser i ofalu am eich iechyd corfforol cystal ag y gallwch.

  • Ceisiwch fwyta mor iach ag y gallwch a gwnewch rywfaint o weithgarwch corfforol rheolaidd. Mae syniadau y gallwch roi cynnig arnynt yn ystod eich trefn feunyddiol brysur ar gael ar ein tudalennau ar fwyd a hwyliau a gweithgarwch corfforol.
  • Ceisiwch gael digon o gwsg, oherwydd gall diffyg cwsg ei gwneud yn anoddach i chi ymdopi â heriau pob dydd. Gall hefyd waethygu straen ac iselder. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalennau ar gysgu ac iechyd meddwl.
  • Defnyddiwch ddulliau ymlacio, oherwydd gall y rhain helpu eich meddwl a'ch corff i ymlacio mwy. Dim ond ychydig funudau bob dydd sydd ei angen arnoch chi i wneud y rhan fwyaf o'r ymarferion hyn. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalennau ar ymlacio.

Rwyf wedi creu fy nywediad fy hun, sef ‘mae'n rhaid i chi greu eich normal eich hun’. Mae eich bywyd chi'n newid cymaint fel gofalwr ac mae'n rhaid i chi greu bywyd newydd i chi eich hun. Dydych chi ddim am gael eich allgáu o fywyd, felly ewch ati i greu eich normal eich hun.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Mai 2021. Byddwn yn ei diwygio yn 2024.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

arrow_upwardYn ôl i'r brig