Beth mae cael dy secsiynu yn ei olygu?
Mae hynny yn golygu dy fod yn cael dy gadw yn yr ysbyty i gael triniaeth a chymorth ar gyfer dy iechyd meddwl.
Mae deddf a elwir yn Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 yn egluro pryd a sut y dylai hyn ddigwydd. Gan fod gan y Ddeddf yn nodi gwahanol achosion o ‘secsiynu’ ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd, dyma pam ein bod yn ei galw’n ‘cael dy secsiynu’.
Mae cael dy secsiynu yn golygu bod rhaid i ni fynd i’r ysbyty, hyd yn oed os:
- Dydyn ni ddim eisiau mynd i mewn
- Dydyn ni ddim yn cytuno i aros
Mae secsiynu yn cael ei defnyddio i’n cadw ni’n ddiogel ac i gael y driniaeth a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnom. Ond mae’n normal teimlo’n ofnus, yn ypset neu’n flin am gael dy anfon i’r ysbyty – rydyn ni yma i helpu.
Roedd hi’n gyfnod brawychus iawn bod yn yr ysbyty, yr holl wahanol fathau o secsiynu, yr holl dermau y bydden nhw’n eu defnyddio. Roedd hi’n anodd eu deall i gyd, yn anodd deall beth roedden nhw’n ei olygu a sut roedd pob peth yn berthnasol i mi – Lucy
Am ba reswm y gallaf gael fy secsiynu?
Dim ond os ydyn ni’n sâl iawn ac mae meddygon yn poeni ein bod ni’n risg i ni ein hunain, neu i rywun arall y byddwn ni’n cael ein secsiynu.
Dylai ein meddygon bob amser geisio meddwl am ffyrdd eraill o ofalu amdanom ni yn gyntaf, fel gofyn i ni fynd i’r ysbyty fel claf anffurfiol.
Fel arfer, dim ond os nad yw popeth arall maen nhw wedi rhoi cynnig arno wedi gweithio y bydd meddygon yn dy secsiynu. Efallai y byddi hefyd yn clywed secsiynu yn cael ei alw'n ‘cael dy gadw’n gaeth’.
A yw secsiynu yn debyg i fod yn glaf anffurfiol?
Er bod rhai ohonom yn teimlo bod y profiadau’n eithaf tebyg, nid yw cael dy secsiynu yr un fath â bod yn glaf anffurfiol.
Beth sy’n digwydd cyn y gallaf gael fy secsiynu?
Cyn y gellir dy secsiynu, rhaid i grŵp o weithwyr iechyd proffesiynol gwrdd â thi. Rhaid iddynt i gyd gytuno bod angen i ti gael dy dderbyn i’r ysbyty i gael triniaeth a chymorth ar gyfer dy broblem iechyd meddwl.
Efallai y byddi’n clywed hyn yn cael ei alw’n ‘asesiad’ neu’n Asesiad Ddeddf Iechyd Meddwl.
Pwy sy’n penderfynu a oes angen i mi gael fy secsiynu?
Mae’n rhaid i dîm o 3 gweithiwr iechyd proffesiynol gwrdd â thi i benderfynu. Bydd y tîm yn cynnwys:
- Gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol cymeradwy (AMHP) – fel arfer, mae’n weithiwr cymdeithasol neu’n nyrs sydd wedi’i hyfforddi’n arbennig.
- 2 feddyg – dylet ti adnabod o leiaf 1 o’r meddygon hyn fel arfer.
Dylai o leiaf 1 person yn y tîm hefyd fod yn arbenigwr ym maes iechyd meddwl pobl ifanc.
Roedd popeth yn dibynnu ar fy diagnosis o awtistiaeth... dylai seiciatryddion fod yn meddwl ‘mae rhywbeth arall yn bod’. Dylwn fod wedi cael fy nerbyn i uned seiciatrig yn gynharach o lawer nag yr oeddwn – Polly
Beth fydd yn digwydd yn yr asesiad?
Pan fyddi di’n gweld yr AMHP am y tro cyntaf, dylen nhw ddweud wrthyt pwy ydyn nhw a pham maen nhw’n cwrdd â thi.
Dylent hefyd ofyn a wyt am i rywun arall, fel rhiant, gofalwr neu warcheidwad, fod yno tra byddant yn siarad â thi. Os wyt ti eisiau hyn, dylai’r AMHP ei drefnu i ti. Ond weithiau, fel mewn argyfwng, efallai na fyddant yn gallu gwneud hynny.
Bydd yr AMHP yn gofyn cwestiynau i ti er mwyn iddyn nhw allu penderfynu a ddylet ti gael dy roi yn yr ysbyty a dy gadw yno. Bydd y 2 feddyg hefyd yn gofyn rhai cwestiynau i ti. Gallai hyn i gyd ddigwydd ar yr un pryd, neu efallai y byddi’n gweld y meddygon yn unigol.
Os bydd y tîm yn penderfynu dy secsiynu, dylent wneud y canlynol:
- Rhoi gwybodaeth glir i ti i dy helpu i ddeall beth sy’n digwydd
- Gwrando ar dy deimladau a dy safbwyntiau
- Ateb unrhyw gwestiynau sydd gen ti
Mae’n swnio’n llawer mwy dychrynllyd nag yr oedd mewn gwirionedd! Yn y bôn, fy meddyg arferol oedd e, gweithiwr cymdeithasol a meddyg arall nad oeddwn i wedi cwrdd ag ef cyn hynny, yn darllen fy nodiadau. Yna daethant i mewn i ystafell gyda mi a mam i ofyn cwestiynau i mi.
Fydda i’n mynd i’r ysbyty os ydw i’n cael fy secsiynu?
Os bydd y tîm asesu yn penderfynu dy secsiynu di, byddan nhw’n dod o hyd i wely i ti ar ward cleifion mewnol yn yr ysbyty.
Dylet fynd i ysbyty gyda ward iechyd meddwl ar gyfer pobl dan 18 oed. Efallai y byddi yn clywed hyn yn cael ei alw’n:
- Ward Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) yn Lloegr
- Ward Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed arbenigol (SCAMHS) yng Nghymru
Mewn rhai sefyllfaoedd, efallai y byddi yn mynd i ward ysbyty cyffredinol, yn hytrach na ward iechyd meddwl. Os bydd hyn yn digwydd, dylet siarad ag eiriolwr neu gyfreithiwr am dy hawliau.
Treuliais lawer o amser mewn ysbytai cyffredinol gan nad oedd gwelyau ar gael yn yr unedau – Polly
Ble fydda i’n mynd i’r ysbyty?
Dylai’r ysbyty fod mor agos â phosibl i’r man lle rwyt ti'n byw fel arfer.
Ond os nad oes gwelyau yn dy ardal leol, efallai y bydd yn rhaid i ti fynd i ysbyty sy'n bell o'r lle rwyt ti’n byw fel arfer. Gallai hyn fod am gyfnod byr, neu hyd at fisoedd ar y tro. Efallai y byddi yn clywed hyn yn cael ei alw’n ‘leoliad y tu allan i’r ardal’.
Efallai na fydd gan rai pobl sy’n agos atat yr amser na’r arian i ymweld â thi mewn ysbyty yn bell i ffwrdd. Gall hyn deimlo’n anodd iawn i ti ac iddyn nhw. Os ydyn nhw’n cael trafferth gyda chostau teithio, gallan nhw ofyn am gymorth. Gelli gael rhagor o wybodaeth gan dy dîm gofal.
Ychydig iawn o welyau oedd ar gael ar gyfer ardal eithaf mawr. Roedd yn daith 40 munud yn y car o fy nghartref i’r uned adran 136 agosaf – Polly
Doedd y staff ddim yn deall fy rhwystredigaeth pan gafodd fy adran ei hadnewyddu neu pan gefais fy nhrosglwyddo. Roeddwn i filltiroedd oddi cartref... Roedd yn brofiad mor ofidus – Martha
Gofalu am dy les
Mae cael dy sancsiynu yn gallu bod yn gyfnod anodd a brawychus. Mae'n bwysig dod o hyd i ffyrdd o ofalu amdanat dy hun.
Fe wnaethom siarad â phobl ifanc a oedd eisiau rhannu eu hawgrymiadau lles eu hunain yn yr ysbyty:
- Ceisia gadw’n brysur a dal i fod â diddordebau. Os medri di, gwna yr un pethau roeddet ti’n hoffi eu gwneud cyn mynd i’r ysbyty.
- Gelli wneud ffrindiau yn yr ysbyty a allai dy helpu drwy gyfnodau anodd iawn.
- Efallai y byddi yn cael trafodaethau gwych gyda phobl ifanc ac yn dechrau deall eich gilydd yn iawn.
- Gelli wneud gweithgareddau gyda phobl ifanc eraill. Gall ysbyty fod yn hwyl weithiau hyd yn oed!
Beth mae’r gwahanol fathau o secsiynu yn ei olygu?
Mae llawer o wahanol fathau o secsiynu, sydd i gyd â rheolau gwahanol i’n cadw ni’n ddiogel. Ond y mathau o secsiynu y byddi’n clywed amdanynt fwyaf mae'n debyg yw secsiynu adran 2 ac adran 3.
Beth yw secsiynu adran 2?
Mae secsiynu adran 2 yn golygu y gellir dy gadw yn yr ysbyty am hyd at 28 diwrnod er mwyn i dy dîm gofal allu:
- Dysgu mwy am dy broblem iechyd meddwl neu’r hyn rwyt ti’n ei brofi
- Cael gwybod pa fath o driniaeth a chymorth sy’n gweithio i ti
Os yw dy dîm gofal yn dal i feddwl bod angen triniaeth a chymorth arnat ar ôl 28 diwrnod, efallai y byddant yn dy asesu i weld a ddylid dy secsiynu dan adran 3.
Gallwch herio secsiynu dan adran 2 yn y Tribiwnlys Iechyd Meddwl, sy’n golygu gofyn iddo ddod i ben, ond dim ond unwaith y medri wneud hyn. Bydd angen i ti wneud hyn hefyd o fewn yr 14 diwrnod cyntaf ar ôl i ti gael dy secsiynu.
Cefais fy secsiynu dan adran 2 oedd pan oeddwn i’n 14 oed. Cefais fy secsiynu am hanner nos. Ni chafodd fy nheulu wybod. Roedd yn eithaf erchyll – Martha
Beth yw secsiynu adran 3?
Mae secsiynu dan Adran 3 yn golygu y gellir dy gadw yn yr ysbyty am hyd at 6 mis os mai dyma'r unig ffordd o gael triniaeth a chymorth i ti.
Ar ôl 6 mis, gellir ymestyn dy adran 3 am 6 mis arall. Ar ôl y cyfnodau 6 mis hyn, gall unrhyw estyniad pellach bara am hyd at flwyddyn ar y tro.
Nid yw bob amser yn golygu y bydd yn para mor hir â hyn – bydd meddygon yn dy fonitro yn ystod dy gyfnod secsiynu ac fe allai dy ryddhau ar unrhyw adeg. Dim ond os yw dy glinigydd cyfrifol (RC) yn credu bod angen triniaeth a chymorth arnat yn yr ysbyty y gall dy adran 3 barhau.
Gelli di herio dy secsiynu adran 3 yn y Tribiwnlys Iechyd Meddwl unwaith yn ystod y 6 mis cyntaf, unwaith yn yr estyniad 6 mis, ac yna unwaith bob blwyddyn.
Pan oeddwn i ar adran 3, fe ddywedon nhw y gallwn ei herio. Doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd hynny’n ei olygu ac ni chafodd ei egluro... Doeddwn i ddim â'r meddylfryd iawn i ymladd – Lucy
Beth mae’r mathau eraill o secsiynu yn ei olygu?
Er mai secsiynu dan adrannau 2 a 3 yw’r rhai mwyaf cyffredin, efallai y byddin cael dy secsiynu o dan adran arall, neu fwy nag un adran.
O dan bob pennawd isod, gelli gael gwybod:
- Beth mae’r secsiynu yn ei olygu
- Pa mor hir y gallai’r secsiynu bara
- Os gelli di herio’r secsiynu
Beth mae hyn yn ei olygu?
Mae hyn yn golygu bod AMHP a meddyg yn cytuno bod angen i ti fynd i’r ysbyty fel achos brys, tra’n aros am ail feddyg i dy asesu.
Pan fydd yr ail feddyg ar gael, bydd pob un ohonynt yn cyfarfod i benderfynu a oes angen i ti gael dy secsiynu adran 2 neu adran 3.
Pa mor hir mae adran 4 yn para?
Hyd at 72 awr, sy’n golygu hyd at 3 diwrnod.
Alla i ei herio yn y Tribiwnlys Iechyd Meddwl?
Na, ni elli di herio adran 4.
Beth mae hyn yn ei olygu?
Efallai y byddwch hefyd yn clywed hyn yn cael ei alw’n ‘bŵer atal’. Dim ond os wyt ti eisoes yn glaf anffurfiol neu'n aros yn yr ysbyty am reswm arall y bydd hyn yn berthnasol.
Mae’n golygu bod angen i ti barhau i aros yn yr ysbyty tra bydd dy tîm gofal yn penderfynu a ddylid dy secsiynu dan adran 2 neu adran 3.
Pa mor hir mae adran 5(2) yn para?
Hyd at 72 awr, sy’n golygu hyd at 3 diwrnod.
Alla i ei herio yn y Tribiwnlys Iechyd Meddwl?
Na, ni elli di herio adran 5(2).
Beth mae hyn yn ei olygu?
Efallai y byddwch hefyd yn clywed hyn yn cael ei alw’n ‘bŵer atal’. Dim ond os wy ti eisoes yn yr ysbyty fel claf anffurfiol y bydd hyn yn berthnasol.
Mae’n golygu y gall nyrs dy gadw ar y ward am gyfnod byr, fel y gall drefnu i feddyg dy asesu a phenderfynu a oes angen i ti aros yn hirach.
Gall nyrs ond defnyddio’r adran hon os wyt ti naill ai wedi:
- Dweud dy fod eisiau gadael y ward
- Gweithredu mewn ffordd sy’n awgrymu dy fod yn ceisio gadael y ward
Pa mor hir mae adran 5(4) yn para?
Hyd at 6 awr.
Alla i ei herio yn y Tribiwnlys Iechyd Meddwl?
Na, ni elli di herio adran 5(4).
Beth mae hyn yn ei olygu?
Bydd AHMP yn dewis rhywun i fod yn 'warcheidwad' yn lle dy fod yn cael dy secsiynu a dy gadw yn yr ysbyty. Fel arfer, mae’r gwarcheidwad yn rhywun o awdurdod lleol, fel gweithiwr cymdeithasol, er enghraifft. Efallai y byddi hefyd yn clywed hyn yn cael ei alw’n ‘warcheidiaeth’.
Dim ond os wyt ti'n 16 oed neu'n hŷn y gellir dy secsiynu dan adran 7.
Mae gwarcheidwad yn gyfrifol am bethau fel gwneud yn siŵr dy fod yn cael cymorth ar gyfer dy iechyd meddwl y tu allan i’r ysbyty. Er enghraifft, dy helpu i fynd i apwyntiadau pwysig.
Gallant hefyd wneud rhai penderfyniadau amdanat ti. Er enghraifft, gallant benderfynu ble rydych chi’n byw.
Pa mor hir mae adran 7 yn para?
6 mis, ond gellir ei ymestyn am 6 mis arall, ac efallai am fwy o amser.
Alla i ei herio yn y Tribiwnlys Iechyd Meddwl?
Gelli. Gelli herio adran 7 unwaith yn y 6 mis cyntaf, unwaith yn yr ail 6 mis, yna unwaith bob blwyddyn.
Beth mae hyn yn ei olygu?
Mae hyn yn golygu bod dy brif feddyg yn dweud dy fod yn gallu byw y tu allan i’r ysbyty, ond mae’n rhaid i ti ddilyn rheolau penodol fel:
- Cytuno i weld dy feddyg yn rheolaidd
- Cymryd meddyginiaeth
Efallai y byddi hefyd yn clywed hyn yn cael ei alw’n Orchymyn Triniaeth Gymunedol neu CTO.
Dim ond os wyt ti eisoes wedi cael dy secsiynu dan adrannau penodol, fel adran 3 neu adran 37, y gellir dy roi ar 17A. Ni ellir dy roi ar 17A os wyt ond wedi cael dy secsiynu dan adran 2.
Pa mor hir mae adran 17A yn para?
6 mis, ond gellir ei ymestyn am 6 mis arall, ac efallai am fwy o amser.
Alla i ei herio yn y Tribiwnlys Iechyd Meddwl?
Gelli. Gelli herio adran 17A neu CTO unwaith yn y 6 mis cyntaf, unwaith yn yr ail 6 mis, yna unwaith bob blwyddyn.
Beth mae hyn yn ei olygu?
Dim ond os wyt ti wedi cael dy ddyfarnu’n euog o drosedd y gellir dy secsiynu dan adran 37. Mae’n golygu bod barnwr llys yn dweud y dylet fynd i’r ysbyty am driniaeth iechyd meddwl, yn hytrach na mynd i’r carchar.
Pa mor hir mae adran 37 yn para?
6 mis, ond gellir ei ymestyn am 6 mis arall, ac efallai am fwy o amser.
Nid yw'n golygu y byddin mynd i'r carchar yn hytrach nag aros yn yr ysbyty pan fydd dy secsiynu yn dod i ben. Fel arfer, byddi'n cael dy ryddhau.
Alla i ei herio yn y Tribiwnlys Iechyd Meddwl?
Gelli. Ni elli herio adran 37 yn y 6 mis cyntaf, ond gelli ei herio unwaith yn yr ail 6 mis, yna unwaith bob blwyddyn.
Beth mae hyn yn ei olygu?
Os wyt ti wedi cael dy secsiynu dan adran 37, mae hyn yn golygu y gall y barnwr hefyd dy secsiynu dan adran 41. Mae’n golygu bod angen caniatâd y Llywodraeth arnat i naill ai:
- Cael dy ryddhau
- Symud i ysbyty arall
- Cael caniatâd i gael seibiant
Efallai y byddi hefyd yn clywed hyn yn cael ei alw’n ‘orchymyn cyfyngu’. Ni fydd barnwr yn dy roi ar orchymyn cyfyngu oni bai eu bod yn poeni dy fod yn risg ddifrifol i bobl eraill.
Pa mor hir mae adran 37/41 yn para?
Does dim cyfyngiadau amser penodol.
Alla i ei herio yn y Tribiwnlys Iechyd Meddwl?
Gelli. Ni elli herio adran 37 yn y 6 mis cyntaf, ond gelli ei herio unwaith yn yr ail 6 mis, yna unwaith bob blwyddyn.
Beth mae hyn yn ei olygu?
Dim ond os wyt ti eisoes yn y carchar am drosedd y gall hyn ddigwydd. Mae’n golygu bod y Llywodraeth eisiau dy symud o garchar i ysbyty i gael triniaeth ar gyfer dy iechyd meddwl.
Pa mor hir mae adran 47 yn para?
6 mis, ond gellir ei ymestyn am 6 mis arall, ac efallai am fwy o amser.
Nid yw'n golygu y byddin mynd yn ôl i'r carchar pan fydd dy secsiynu yn dod i ben. Fel arfer, byddi'n cael dy ryddhau.
Alla i ei herio yn y Tribiwnlys Iechyd Meddwl?
Gelli. Gelli herio adran 47 unwaith yn y 6 mis cyntaf, unwaith yn yr ail 6 mis, yna unwaith bob blwyddyn.
Beth mae hyn yn ei olygu?
Os wyt ti eisoes wedi cael dy secsiynu dan adran 47, gall y Llywodraeth hefyd dy secsiynu dan adran 49.
Mae’n golygu bod angen caniatâd y Llywodraeth arnat i naill ai:
- Cael dy ryddhau
- Symud i ysbyty arall
- Cael caniatâd i gael seibiant
Efallai y byddi hefyd yn clywed hyn yn cael ei alw’n ‘gyfarwyddyd cyfyngu’.
Pa mor hir mae adran 47/49 yn para?
Does dim cyfyngiadau amser penodol.
Alla i ei herio yn y Tribiwnlys Iechyd Meddwl?
Gelli. Gelli herio adran 47/49 unwaith yn y 6 mis cyntaf, unwaith yn yr ail 6 mis, yna unwaith bob blwyddyn
Beth mae hyn yn ei olygu?
Mae 2 sefyllfa bosibl ar gyfer adran 48:
- Os wyt ti'n aros am dy treial llys am drosedd. Mae’r Llywodraeth eisiau dy symud o garchar i ysbyty i gael triniaeth a cymorth ar gyfer dy iechyd meddwl.
- Os wyt ti mewn canolfan gadw mewnfudwyr. Mae’r Llywodraeth eisiau dy symud i ysbyty i gael triniaeth a cymorth ar gyfer dy iechyd meddwl.
Pa mor hir mae adran 48 yn para?
6 mis, ond gellir ei ymestyn am 6 mis arall, ac efallai am fwy o amser.
Alla i ei herio yn y Tribiwnlys Iechyd Meddwl?
Gelli. Gelli herio adran 48 unwaith yn y 6 mis cyntaf, unwaith yn yr ail 6 mis, yna unwaith bob blwyddyn.
Beth mae hyn yn ei olygu?
Os wyt ti eisoes wedi cael dy secsiynu dan adran 48, gall y Llywodraeth hefyd dy secsiynu dan adran 49.
Mae’n golygu bod angen caniatâd y Llywodraeth arnat i naill ai:
- Cael dy ryddhau
- Symud i ysbyty arall
- Cael caniatâd i gael seibiant
Efallai y byddi hefyd yn clywed hyn yn cael ei alw’n ‘gyfarwyddyd cyfyngu’.
Pa mor hir mae adran 48/49 yn para?
Does dim cyfyngiadau amser penodol.
Alla i ei herio yn y Tribiwnlys Iechyd Meddwl?
Gelli. Gelli herio adran 48/49 unwaith yn y 6 mis cyntaf, unwaith yn yr ail 6 mis, yna unwaith bob blwyddyn.
Beth mae hyn yn ei olygu?
Os oes pryderon am dy iechyd meddwl a dy ddiogelwch, gall yr heddlu ddod i mewn i ble bynnag rwyt ti a mynd â thi i ‘le diogel’. Gallai hyn fod yn ward ysbyty, ystafell arbennig mewn ysbyty, neu’r lle rydych chi’n byw ynddo fel arfer.
Os mai’r man diogel yw’r man lle rwyt ti’n byw fel arfer, gall yr heddlu dy gadw di yno os wyt ti yno’n barod.
Mae 2 reol:
- Ni all lle diogel fyth fod yn gell heddlu
- Rhaid i’r heddlu fod gyda meddyg ac AHMP pan fyddant yn dod i’r lle rwyt ti’n byw
Efallai y byddi hefyd yn clywed hyn yn cael ei alw’n ‘bŵer yr heddlu’ neu ‘secsiynu gan yr heddlu’.
Pa mor hir mae adran 135(1) yn para?
Fel arfer am hyd at 24 awr, sy’n golygu 1 diwrnod, ond gall barhau am 12 awr arall.
Alla i ei herio yn y Tribiwnlys Iechyd Meddwl?
Na, ni elli di herio adran 135(1). Ond os nad wyt yn hapus â sut y gweithredodd yr heddlu, gelli wneud cwyn. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Ymddygiad yr Heddlu.
Dydw i ddim yn meddwl mai’r heddlu yw’r bobl iawn i secsiynu pobl. Fel merch ifanc, mae’n frawychus i’r heddlu ymddangos... Nid dyma’r ffordd orau o ddelio â’r peth – Martha
Beth mae hyn yn ei olygu?
Fel arfer, bydd hyn yn cael ei ddefnyddio pan fyddi wedi cael dy anfon i'r ysbyty'n barod, ond rwyt ti i ffwrdd o'r ysbyty heb ganiatâd. Mae Adran 135(2) yn golygu y gall yr heddlu ddod i’r lle rwyt t’n byw neu’n aros a mynd â thi’n ôl i’r ysbyty.
Efallai y bydd yr heddlu’n dod gyda meddyg neu weithiwr iechyd meddwl proffesiynol, ond does dim rhaid iddyn nhw wneud hynny.
Efallai y byddi hefyd yn clywed hyn yn cael ei alw’n ‘bŵer yr heddlu’ neu ‘secsiynu gan yr heddlu’.
Pa mor hir mae adran 135(2) yn para?
Mae’r secsiynu yn dod i ben cyn gynted ag y bydd yr heddlu wedi mynd â thi’n ôl i’r ysbyty.
Alla i ei herio yn y Tribiwnlys Iechyd Meddwl?
Na, ni elli di herio adran 135(2). Ond os nad wyt yn hapus â sut y gweithredodd yr heddlu, gelli wneud cwyn. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Ymddygiad yr Heddlu.
Beth mae hyn yn ei olygu?
Os bydd yr heddlu'n d weld yn gyhoeddus a'u bod yn poeni am dy iechyd meddwl a dy diogelwch, gallant fynd â thi i 'fan diogel'.
Gallai’r lle diogel fod yn ward ysbyty neu’n ystafell arbennig mewn ysbyty. Gallai hefyd fod yn lle rwyt ti’n byw. Ni all fyth fod yn gell heddlu.
Efallai y byddi hefyd yn clywed hyn yn cael ei alw’n ‘bŵer yr heddlu’ neu ‘secsiynu gan yr heddlu’.
Pa mor hir mae adran 136 yn para?
Fel arfer am 24 awr, sy’n golygu 1 diwrnod, ond gall barhau am 12 awr arall.
Alla i ei herio yn y Tribiwnlys Iechyd Meddwl?
Na, ni elli di herio adran 136. Ond os nad wyt yn hapus â sut y gweithredodd yr heddlu, gelli wneud cwyn. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Ymddygiad yr Heddlu.
Pan ges i fy secsiynu dan adran 136, doeddwn i ddim yn sylweddoli fy mod i’n cael trafferth gyda datgysylltu. Rydw i’n cofio bod gyda’r heddlu a’u bod wedi fy rhoi yn rhywle, ond doeddwn i ddim yn deall unrhyw beth amdano. Mae’n frawychus iawn cael dy amgylchynu gan yr heddlu – Lucy
Bob amser y cefais fy secsiynu, roeddent yn rhoi pecyn gwybodaeth i mi, ond nid oeddwn i fyth mewn cyflwr i allu darllen y wybodaeth - roeddwn i’n rhy brysur yn colli arnaf fy hun. Ni wnaeth neb gynnig ei egluro i mi – Sarah
Alla i ofyn i fy secsiynu ddod i ben?
Efallai y daw dy secsiynu i ben ar ôl cyfnod penodol o amser. Neu gall dy glinigydd cyfrifol (RC) ddod â'ch secsiynu i ben os nad yw'n meddwl bod ei hangen arnat mwyach.
Gelli hefyd ofyn i dy secsiynu ddod i ben – efallai y byddi’n clywed hyn yn cael ei alw’n ‘herio dy secsiynu’.
Gelli herio dy secsiynu mewn gwahanol ffyrdd:
- Gwneud cais i’r Tribiwnlys Iechyd Meddwl. Mae’r tribiwnlys yn llys arbennig sydd ar wahân i’r ysbyty. Mae ganddo'r pŵer i ddod â dy secsiynu i ben hyd yn oed os nad yw dy feddyg yn cytuno. Gelli ofyn dy oedolyn cyfrifol neu dy eiriolwr i dy helpu i wneud cais. I gael gwybodaeth am sut i wneud cais, edrycha ar wefan YoungMinds.
- Gofyn i reolwyr yr ysbyty. Gallant gwrdd â thi a dy dîm gofal i wrando ar dy farn am pam y dylai dy secsiynu ddod i ben. Gall rheolwyr yr ysbyty ddod â dy secsiynu i ben hyd yn oed os nad yw dy feddyg yn cytuno.
- Gofynna i dy berthynas agosaf wneud cais i dy secsiynu ddod i ben. Os nad yw dy feddyg yn cytuno â dy berthynas agosaf, bydd dy secsiynu yn parhau. Os bydd hyn yn digwydd, gall dy berthynas agosaf wedyn ofyn i reolwyr yr ysbyty neu’r Tribiwnlys Iechyd Meddwl ddod â’r secsiynu i ben. Dos i’n tudalen hawliau ysbyty i gael gwybod am dy hawl i berthynas agosaf.
Fel arfer, byddin cwrdd â rheolwyr yr ysbyty neu'r Tribiwnlys Iechyd Meddwl wyneb yn wyneb, ond gallai fod dros y ffôn neu drwy alwad fideo.
Pan ddaw dy secsiynu i ben, nid yw bob amser yn golygu y byddi’n gadael yr ysbyty. Efallai y bydd angen i ti aros yn hirach am driniaeth a chymorth. Ond yn hytrach na bod yn yr ysbyty o dan adran, byddi’n dod yn glaf anffurfiol.
Cefais sgwrs gyda fy meddyg ac roedd y ddau ohonom yn cytuno ynghylch dod â’m secsiynu i ben. Doedd dim llawer i’w wneud.
Pa hawliau eraill fydda i’n eu cael yn yr ysbyty?
Pan fyddwn ni’n cael ein secsiynu, mae gennym ni hawliau penodol yn yr ysbyty i’n helpu ni. Ond byddwn hefyd yn colli rhai mathau eraill o hawliau, neu’n sylwi eu bod wedi newid rhywfaint.
Gall deall ein hawliau ein helpu i wneud yn siŵr bod staff yn ein trin yn deg ac yn darparu’r pethau sydd eu hangen arnom.
Dy hawliau mewn ysbyty ar ôl dy secsiynu
Yn ogystal â’n hawliau o dan wahanol adrannau, a hawliau sy’n ymwneud â herio secsiynu dan adran, mae gennym hawliau eraill yn yr ysbyty hefyd.
Mae ein tudalen hawliau ysbyty yn egluro mwy am yr hawliau hyn, a beth allwn ni ei wneud os nad ydyn ni’n cael yr hyn rydyn ni’n ei haeddu.
Beth fydd yn digwydd os byddaf yn gadael yr ysbyty ar ôl i fy secsiynu ddod i ben?
Nid yw diwedd secsiynu bob amser yn golygu gadael yr ysbyty. Efallai y bydd angen i rai ohonom aros yn yr ysbyty fel cleifion anffurfiol.
Ond os bydd dy secsiynu yn dod i ben a dydy dy dîm gofal ddim yn meddwl bod angen i ti aros i mewn fel claf anffurfiol, gelli adael yr ysbyty. Efallai y byddi yn clywed hyn yn cael ei alw’n ‘cael dy ryddhau’.
Gall gadael yr ysbyty deimlo fel cam mawr iawn ar ôl treulio amser yno wedi cael dy secsiynu. Cyn i ti fynd, bydd dy dîm gofal eisiau gwneud yn siŵr:
- Rwyt ti’n ddigon iach i adael
- Mae cefnogaeth ar gael i ti ar ôl i ti adael
Pan fyddi’n gadael yr ysbyty, dylai dy dîm gofal roi’r canlynol i ti:
- Crynodeb rhyddhau, sy’n egluro faint o amser rwyt ti wedi’i dreulio yn yr ysbyty ar ôl dy secsiynu, a sut aeth dy driniaeth.
- Cynllun gofal, sy’n esbonio ychydig amdana ti, a’r gofal a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnat. Gallai hyn gynnwys cyngor ar beth ddylai ddigwydd os wyt ti mewn argyfwng.
- Manylion cyswllt rhywun i siarad â nhw os wyt ti'n meddwl bod dy iechyd meddwl yn gwaethygu ar ôl i ti adael yr ysbyty.
Efallai y bydd dy dîm gofal yn gofyn i ti ddod yn ôl i’r ysbyty am apwyntiadau, neu gael archwiliadau gyda CAMHS neu dy feddyg. Efallai y bydd angen i rai ohonom fynd yn ôl i’r ysbyty fel cleifion anffurfiol neu wedi'n secsiynu eto yn y dyfodol.
Roedd mynd i’r ysbyty yn brofiad brawychus iawn i mi, ond roeddwn i’n hoffi meddwl amdano fel cyfle i ailgychwyn, i ddod allan yn gryfach. Rhoddodd gyfle i mi geisio creu bywyd mwy ystyrlon i mi fy hun. Fe wnaeth hefyd fy helpu i sylweddoli nad ydw i ar fy mhen fy hun.
Cyhoeddwyd: Rhagfyr 2024
Adolygiad nesaf wedi'i gynllunio: Rhagfyr 2027
Gwnaethom siarad â phobl ifanc a gytunodd i roi dyfyniadau ar gyfer y dudalen hon. Nid yw eu profiadau yn gysylltiedig â'r bobl a ddangosir yn y lluniau.
Mae cyfeiriadau ar gael ar gais. Os ydych chi am atgynhyrchu'r cynnwys hwn, gweler ein tudalennau caniatâd a thrwyddedu.