Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl

Mae iechyd meddwl yn hollbwysig i bopeth, i bobman ac i bawb. Mae’n rhan ohonom ni i gyd, ac mae’n effeithio ar bawb o’n cwmpas.

Cyfrannwch at Mind heddiw

 

Mae iechyd meddwl yn hollbwysig

Mae iechyd meddwl yn rhan allweddol o’n bywyd.

Mae’n gysylltiedig â phopeth rydyn ni’n ei wneud, pob man yr awn iddo, a phawb o’n cwmpas. Mae iechyd meddwl yn gysylltiedig â’n hiechyd corfforol, ein sefyllfa ariannol, a’n perthnasoedd. Mae’n rhan o’r digwyddiadau nodedig a’r digwyddiadau di-nod yn ein bywydau.

Er gwaethaf hyn, mae arolwg diweddar gan Mind wedi canfod bod agweddau’r cyhoedd a’u dealltwriaeth o iechyd meddwl wedi dechrau mynd ar drai. Mae’r system iechyd meddwl wedi torri, a’r bobl sy’n wynebu heriau eraill – fel tlodi a hiliaeth – sy’n ei chael hi’n fwyaf anodd cael gafael ar gymorth. 

Nid yw’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau drosom yn gwneud digon i sicrhau bod iechyd meddwl yn flaenoriaeth yn ein cymunedau. 

Yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl eleni (12-18 Mai), helpwch ni i sicrhau ein bod yn meddwl am bob meddwl.

Cymerwch ran yn yr ymgyrch

Gwyliwch fideo ein hymgyrch

Ymunwch â’r frwydr yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl

Asedau y gellir eu llwytho i lawr

Lawrlwythwch yr asedau hyn i gymryd rhan yn ein hymgyrch. Cofiwch ein tagio ni ar y cyfryngau cymdeithasol a defnyddio’r hashnod #MeddwlAmBobMeddwl.

Pan oeddwn i’n teimlo bod popeth yn cael ei rwygo oddi wrtha i, rhoddodd Mind obaith, eglurder a dealltwriaeth i mi.

Dyma flog Francesca am ddamwain hwylio a sbardunodd ei phroblemau iechyd meddwl, a sut mae tudalennau gwybodaeth Mind wedi ei helpu i eirioli dros ei hawliau.

Darllenwch am brofiad Francesca

Cael gwybodaeth a chymorth

Ein gwybodaeth

Mae ein gwybodaeth yn grymuso pobl i wneud dewisiadau gwybodus am eu hiechyd meddwl. Mae’n helpu pobl i fyw gyda phroblemau iechyd meddwl a gwella ohonynt.

 

Cymorth lleol

Mae iechyd meddwl yn cyffwrdd â phawb ym mhob man – felly dylai’r cymorth gyrraedd pawb hefyd. Mae ein rhwydwaith anhygoel o wasanaethau Mind lleol ar hyd a lled Cymru a Lloegr yn cynnig gwasanaethau iechyd meddwl wedi'u teilwra i'w cymunedau.

Siaradwch â ni

 Mae gennym 4 llinell gymorth sy’n diwallu gwahanol anghenion llesiant neu iechyd meddwl – o gyngor cyfreithiol i gymorth emosiynol. Rydyn ni’n gwybod bod iechyd meddwl yn gysylltiedig â phopeth, ac rydyn ni yma i’ch cefnogi chi.

arrow_upwardYn ôl i'r brig