Yn y canllawiau hyn byddwn yn edrych ar sut mae iechyd meddwl yn cael ei bortreadu mewn operâu sebon, dramâu a rhaglenni dogfen. Byddwn yn ystyried sut gall y straeon hyn effeithio ar ein dealltwriaeth o iechyd meddwl, ac edrych ar ffyrdd o wella portreadau ar y sgrîn.
Neidiwch at:
- Pam mae straeon iechyd meddwl yn bwysig?
- Awgrymiadau Gwych Mind
- Yn ymarferol: portreadu iechyd meddwl cymeriad ar y sgrîn
- Rhagor o wybodaeth am ein Gwasanaeth Cynghori ar y Cyfryngau
Pam mae straeon iechyd meddwl yn bwysig?
Pan fydd straeon yn cael eu cynllunio’n dda, gallant fod yn bwerus o ran dylanwadu arnom i ofyn am help neu helpu eraill. Mae straeon sy’n seiliedig ar wybodaeth yn gallu:
- Bod yn haws uniaethu â nhw, ac yn sgil hynny bod yn fwy
pwerus, gan wella drama’r stori - Dylanwadu’n gadarnhaol ar ymddygiad a gweithredoedd
unigolion - Codi ymwybyddiaeth a herio hen agweddau a mythau
- Tynnu sylw at broblemau iechyd meddwl a chyfeirio at y
cymorth sydd ar gael
Canfu ein hymchwil, i oedolion:
Roedd
1 person o bob 4
o’r rheini a oedd wedi gweld stori iechyd meddwl wedi sylweddoli bod ganddyn nhw broblem iechyd meddwl neu roedden nhw wedi profi problem yn y gorffennol.
Roedd
1 person o bob 5
yn teimlo eu bod wedi’u hannog i ofyn am help gan weithiwr meddygol proffesiynol ar gyfer eu hiechyd meddwl ar ôl gweld straeon yn ymwneud â chymeriadau sy’n profi problemau iechyd meddwl.
I bobl ifanc (rhwng 18 a 24 oed) mae dylanwad straeon iechyd meddwl hyd yn oed yn fwy grymus:
Dywedodd
1 person o bob 5
iddyn nhw gael eu hysgogi i siarad am eu hiechyd meddwl ar y cyfryngau cymdeithasol ar ôl gweld stori iechyd meddwl ar opera sebon neu ddrama.
Dywedodd
2 berson o bob 5
iddyn nhw gael eu hysgogi i chwilio am wybodaeth a chymorth ar-lein ar ôl gweld stori am iechyd meddwl ar opera sebon neu ddrama.
Awgrymiadau Gwych gan Mind
1. Bod yn driw i’r cymeriad
Gwnewch yn siŵr nad yw cymeriad sy’n cael trafferth gyda’i iechyd meddwl yn ‘newid’ pan fydd yn sâl.
Un camgymeriad cyffredin a welwn pan fydd cymeriad
mewn argyfwng, yw eu bod yn dod yn fersiwn ‘drwg’ ohonynt eu hunain. Mae problemau iechyd meddwl yn ei gwneud yn anoddach i chi ymddwyn fel arfer, ond dydyn nhw ddim yn newid pwy ydych chi. Nid yw symptomau unrhyw ddiagnosis ychwaith yn claddu eich personoliaeth, eich gwerthoedd a’ch agwedd sylfaenol chi at fywyd.
2. Dangos symptomau cyson dros gyfnod o amser
Dylech osgoi dangos nifer o symptomau gwahanol yma ac acw dros gyfnod byr o amser. Mae hyn yn afrealistig ac nid yw’n caniatáu i gynulleidfaoedd gysylltu â’r cymeriad.
Felly, os oes gan eich cymeriad anhwylder deubegynol, dangoswch y symptomau mwyaf cyffredin fel mania ac iselder yn effeithio arnyn nhw’n amlach a thros amser.
Drwy wneud hyn, rydych chi’n gwella dealltwriaeth y gynulleidfa ac yn helpu i wneud diagnosis yn llai ‘ofnus’ ac yn haws ei adnabod. Mae hefyd yn helpu’r rheini sydd â phrofiadau tebyg i ddeall eu hiechyd meddwl eu hunain.
3. Osgoi mythau a stereoteipiau ynghylch trais
Mae cael cymeriad sydd â phroblem iechyd meddwl yn ymosod ar eraill neu’n cam-drin pobl eraill, neu’n ymddwyn yn beryglus, yn parhau i fod yn stereoteipiau niweidiol ac anghywir.
Gall hyn fod oherwydd portreadau hen ffasiwn ar y teledu neu ar ffilm, neu o benawdau ysgytwol mewn papurau newydd sy’n aml yn cysylltu iechyd meddwl â throseddu a thrais.
Y ffaith yw bod pobl â phroblemau iechyd meddwl yn llawer mwy tebygol o ddioddef trosedd – neu o niweidio eu hunain – na niweidio rhywun arall.
Mae’r dystiolaeth hefyd yn dangos yn glir bod ffactorau fel camddefnyddio cyffuriau ac alcohol yn llawer mwy tebygol o chwarae rhan mewn trais nag iechyd meddwl.
4. Portreadu argyfwng
Dyma le gwelwn iechyd meddwl wedi’i bortreadu yn y ffordd fwyaf hen ffasiwn ac anghywir. Yn aml, bydd cymeriad mewn argyfwng yn cael ei weld yn profi ystod o symptomau i gyd ar unwaith - hyd yn oed symptomau o ddiagnosis cwbl wahanol. Mae seicosis yn cael ei bortreadu’n aml, ond heb fawr o ddealltwriaeth, os o gwbl, o ba bryd neu sut y byddai hyn yn digwydd. Cofiwch fod ein gwasanaeth cynghori ar y cyfryngau yma i helpu gyda sut i bortreadu argyfwng ar y sgrîn yn gywir.
5. Creu cymeriadau cyflawn
Pan fydd cymeriadau hoffus yn cael problemau iechyd meddwl ar y sgrîn, mae cynulleidfaoedd yn fwy tebygol o’u cefnogi, o uniaethu â’u profiadau a chydymdeimlo â nhw.
Os bydd cymeriad cyflawn yn datblygu problemau iechyd meddwl, gall hyn helpu i gyfleu portread mwy dilys a chyfrifol o iechyd meddwl rhywun.
Nid yw bod yn gymeriad cyflawn yn golygu bod yn rhaid iddyn nhw fod yn unigolyn ‘perffaith’ sydd byth yn gwneud camgymeriadau. Enghraifft wych o hyn yw rhaglen ‘Pure O’ Channel 4. Mae’r prif gymeriad Marnie wastad yn ‘llanast’ ac yn gwneud penderfyniadau gwael ynghylch perthnasoedd, yn ogystal â dweud celwyddau. Ond, mae hi hefyd yn ddoniol, yn ofalgar ac yn ddymunol.
Pan fydd profiad iechyd meddwl cymeriad yn cael ei awgrymu’n gynnil, mae’n helpu’r gynulleidfa i ddeall sut mae eu hiechyd meddwl yn effeithio arnyn nhw bob dydd ac maen nhw’n gallu uniaethu â’r cymeriad.
6. Adfer
Yn rhy aml, mae iechyd meddwl yn cael ei bortreadu fel anffawd anobeithiol lle mae triniaeth yn ddibwrpas, ac mae’r rhagolygon yn llwm. Gyda’r gefnogaeth briodol, mae’r rheini ohonom sydd â phroblemau iechyd meddwl yn gallu byw bywydau cyfoethog sy’n rhoi boddhad.
Gall dangos adferiad cymeriad fod yn bwerus iawn, ac yn ysbrydoledig ar brydiau. Os bydd cymeriad yn chwilio am gymorth iddyn nhw’u hunain, bydd yn ein hannog ni i wneud yr un peth mewn bywyd go iawn. Yn yr un modd, pan welwn gymeriad yn cael cymorth gan ei feddyg neu’r GIG, rydyn ni’n deall yn well y cymorth sydd ar gael, a sut i gael gafael arno. Gall y ffactorau hyn newid yn sylweddol sut mae person yn byw gyda’i ddiagnosis o iechyd meddwl.
Mae rhai o’r straeon mwyaf pwerus am iechyd meddwl yn ymwneud â sut gallwn ni ailadeiladu ein bywydau a chymryd rheolaeth ar ôl digwyddiadau trawmatig.
7. Nid oes raid i iechyd meddwl ddiffinio cymeriadau
Rydyn ni am weld portreadau ffuglennol mwy dilys a chyfrifol o iechyd meddwl. Ond mae’n bwysig cofio nad oes angen i brif stori cymeriad fod yn seiliedig ar iechyd meddwl.
Nid oes angen i iechyd meddwl rhywun ei ddiffinio bob amser. Yn hytrach, mae’n bosib awgrymu nodweddion yma ac acw yn ystod pennod neu raglen, er mwyn rhoi blas mwy dilys i’r stori. Mae osgoi canolbwyntio ar iechyd meddwl cymeriad yn helpu i normaleiddio iechyd meddwl, diagnosis o iechyd meddwl a thriniaethau.
Pe na bai’r stori honno wedi digwydd, fyddwn i ddim yma. Byddwn i wedi marw. Dyna’r gwir amdani. Rydych chi wedi achub fy mywyd.
John Junior, Gwirfoddolwr Cyfryngau, yn myfyrio ar stori Hollyoaks sy’n ymwneud ag iselder a hunanladdiad. Ar yr adeg pan oedd John yn gwylio roedd yn bwriadu rhoi diwedd ar ei fywyd. Fe wnaeth y stori berswadio John i beidio â gwneud a gofyn am help.
Am y cymeriad
Mae Sarwan yn unigolyn cymdeithasol, huawdl a gofalgar sy’n caru pêl-droed. Mae hefyd wedi cael diagnosis o anhwylder deubegynol ers deng mlynedd. Mae Sarwan wedi bod yn rheoli ei iechyd meddwl yn dda gyda chymorth gan ffrindiau a theulu.
O ganlyniad, mae Sarwan yn cael trafferth cysgu, ddim yn bwyta’n iawn, ac yn colli diddordeb yn ei ddiddordebau arferol. Mae hyn yn cael effaith ar y ffordd y mae’n rhyngweithio â’r bobl o’i gwmpas ac felly ei berthnasoedd.
Darlunio pwynt argyfwng
Efallai mai’r demtasiwn i sgriptwyr yw rhuthro i sefyllfa argyfwng – lle mae Sarwan mewn gofid yn syth, gan gynnwys bod yn risg i eraill. Er enghraifft, efallai ei bortreadu’n ymddwyn yn dreisgar tuag at ei bennaeth sydd newydd ei ddiswyddo. Mae hyn yn afrealistig, ac yn fwy na dim, nid yw’n driw i gymeriad Sarwan. Fel y gwyddom – mae’n ofalgar, yn garedig ac yn cael cefnogaeth dda gan anwyliaid.
Os bydd yn rhaid cyrraedd argyfwng am resymau dramatig, dull gwell fyddai cymryd amser i ddangos y daith sy’n arwain at argyfwng Sarwan, ac yna’r potensial ar gyfer adferiad wedyn. Yn ystod cyfnod o iselder efallai, mae Sarwan yn rhoi’r gorau i chwarae pêl-droed ac yn gwrthod cynigion o gefnogaeth gan ffrindiau wrth iddo ddechrau teimlo’n fwyfwy isel. Beth am roi blas o’r hyn sydd i ddod ac adeiladu tuag at yr uchafbwynt drwy ddangos Sarwan yn profi meddyliau dryslyd neu iaith anhrefnus? Efallai y bydd yn dibynnu ar strategaethau ymdopi dinistriol fel yfed gormod o alcohol (os yw’n yfed) neu aiff i wario’n anghyfrifol.
Cofio beth sy'n gwneud cymeriad pwy ydyn nhw
Mae llawer ohonom yn rheoli ein hiechyd meddwl heb orfod wynebu argyfwng anochel. Fodd bynnag, yn aml dyma beth rydyn ni’n ei weld ar y sgrîn, sy’n gallu atgyfnerthu’r darlun ystrydebol bod y rheini sydd â phroblemau iechyd meddwl yn anobeithiol neu y tu hwnt i’w gwella. Cofiwch, bydd y ffordd y mae Sarwan yn ymateb i bwynt argyfwng yn cael ei lunio gan ei gymeriad.
Dydyn ni ddim yn dod yn bobl wahanol oherwydd bod gennym broblem iechyd meddwl. Ni ydym ni, bob amser. Mae hynny yr un mor wir am Sarwan, â chi neu fi. Rydyn ni’n gwybod bod portreadu argyfwng iechyd meddwl yn foment allweddol mewn unrhyw stori. Dyna pam ein bod ni yma i helpu i gefnogi er mwyn i unrhyw bortread gael ei wneud yn fwy pwerus drwy fod yn ddilys ac yn driw i’r cymeriad.
Os oes arnoch angen cymorth, cysylltwch â’n Gwasanaeth Cynghori ar y Cyfryngau
Mae Gwasanaeth Cynghori’r Cyfryngau Mind yn darparu cyngor o’r dechrau i’r diwedd i gynhyrchwyr, ymchwilwyr ac awduron ar sut i ddramateiddio iechyd meddwl. Gallwn roi cyngor ar gysyniadau cychwynnol, amlinelliadau stori, ac adborth ar sgriptiau. Rydym hefyd yn cynnwys pobl sydd â phrofiad o broblemau iechyd meddwl i rannu eu taith gyda llunwyr stori.
Rydym yn cynnig mewnwelediad i:
- Y profiad emosiynol a chymdeithasol o fyw gyda phroblem iechyd meddwl
- Diagnosis a thriniaeth
- Y daith drwy’r system gofal iechyd meddwl
- Adferiad
- Hunanladdiad a hunan-niweidio
- Iaith ac osgoi stigma neu stereoteipiau
I weithio gyda ni, cysylltwch â: [email protected]. Rydyn ni yma i helpu.