Beth yw claf anffurfiol?
Os ydyn ni’n glaf anffurfiol, mae’n golygu ein bod ni wedi cytuno i aros yn yr ysbyty i gael triniaeth a chymorth ar gyfer ein hiechyd meddwl. Efallai y byddwn yn clywed hyn yn cael ei alw’n ‘glaf gwirfoddol’.
Gallai rhywun sy’n gofalu amdanom ni hefyd gytuno i ni fynd i’r ysbyty, yn dibynnu ar ein hoedran, er enghraifft.
Mae’n normal teimlo’n nerfus, yn bryderus neu’n ypset am fynd i’r ysbyty. Rydyn ni yma i dy gefnogi.
Rhywbeth arall wnaeth fy helpu oedd siarad â llawer o bobl ifanc fel fi, pobl oedd wedi cael problemau iechyd meddwl, sydd yn cael problemau iechyd meddwl neu rai o fy ffrindiau – Kora, 18
Pwy allai fy helpu i benderfynu mynd i’r ysbyty?
Os bydd gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol yn meddwl bod angen triniaeth a chymorth arnom yn yr ysbyty, efallai y bydd yn:
- Awgrymu ein bod yn mynd i mewn fel claf anffurfiol
- Gwneud atgyfeiriad i ni
Dylai rhywun sy’n gysylltiedig â’r ysbyty ystyried a fyddai hyn o gymorth i ni. Dim ond os mai dyma’r unig ffordd i ni gael y driniaeth a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnom y dylem fynd i’r ysbyty fel claf anffurfiol.
Fel arfer, mae angen i ni gytuno i fynd i’r ysbyty. Ond mewn rhai achosion, fel os wyt ti dan 16 oed, efallai y bydd dy riant, gofalwr neu warcheidwad yn penderfynu ar dy ran.
Weithiau, bydd dy dîm gofal yn ceisio dod o hyd i ffordd o ofalu amdanat heb fynd i’r ysbyty. Efallai y byddan nhw’n gwneud hyn os:
- Byddi di'n newid dy feddwl am fynd i’r ysbyty
- Dydy dy riant, gofalwr neu warcheidwad ddim yn cytuno i ti fynd i’r ysbyty
Ond os yw dy dîm gofal yn dal i feddwl mai ysbyty yw’r unig ffordd i ti gadw’n ddiogel a chael y cymorth sydd ei angen arnat, gallet gael dy secsiynu. Nid yw hyn yr un fath â chytuno i fynd i mewn fel claf anffurfiol.
Beth mae cael dy secsiynu yn ei olygu?
Pan fyddwn ni’n cael ein secsiynu, rydyn ni’n cael ein cadw yn yr ysbyty hyd yn oed os nad ydyn ni’n cytuno i hynny.
Gwelais sut roedd cleifion anffurfiol yn teimlo ei bod yn rhyfedd bod eisiau bod yn yr ysbyty, ac ni ddylai hynny fod yn wir o gwbl. Mae’r ysbyty yno i dy gadw’n ddiogel os nad wyt ti’n gallu gwneud hynny dy hun – Lucy
Ble fydda i’n mynd i’r ysbyty?
Dylai cleifion anffurfiol fynd i ysbyty gyda ward iechyd meddwl ar gyfer pobl dan 18 oed. Efallai y byddi yn clywed hyn yn cael ei alw’n:
- Ward Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) yn Lloegr
- Ward Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed arbenigol (SCAMHS) yng Nghymru
Dylai’r ysbyty fod mor agos â phosibl i’r man lle rwyt ti'n byw fel arfer.
Ond os nad oes gwelyau yn dy ardal leol, efallai y bydd yn rhaid i ti fynd i ysbyty sy'n bell o'r lle rwyt ti’n byw fel arfer. Gallai hyn fod am gyfnod byr, neu hyd at fisoedd ar y tro. Efallai y byddi yn clywed hyn yn cael ei alw’n ‘leoliad y tu allan i’r ardal’.
Efallai na fydd gan rai pobl sy’n agos atat yr amser na’r arian i ymweld â thi mewn ysbyty yn bell i ffwrdd. Gall hyn deimlo’n anodd iawn i ti ac iddyn nhw. Os ydyn nhw’n cael trafferth gyda chostau teithio, gallan nhw ofyn am gymorth. Gelli gael rhagor o wybodaeth gan dy dîm gofal.
Fe wnaethom siarad â phobl ifanc a rannodd eu profiadau anodd o leoliadau ysbyty:
Roedden nhw’n dweud pan fyddwn i ar y brif ward, byddwn i’n gallu symud yn ôl i lle mae fy mam. Ond roeddwn i’n dal i aros yno am ychydig fisoedd, er fy mod i ar y brif ward – Sarah
Cefais fy nhrosglwyddo i 2 ysbyty gwahanol yng Nghanolbarth Lloegr. Rydw i’n dod o Dde Cymru... Roedd cymaint o gamgyfathrebu – Martha
Mae un ward yn fy sir i ac mae un mewn sir arall. Roedd yn rhyfedd iawn – Polly
Beth ddylwn i ddod gyda fi i’r ysbyty?
Os nad wyt ti’n siŵr beth i ddod gyda thi i’r ysbyty, ceisio feddwl am yr hyn y byddet yn mynd gyda thi ar daith i ffwrdd. Mae’n hawdd anghofio pethau, ond gelli di ofyn i dy ymwelwyr ddod â phethau eraill pan fyddan nhw’n dod dy weld.
Efallai y bydd rhai ohonom yn mynd i’r ysbyty ar unwaith, ond efallai y bydd eraill yn cael ymweld â’r ward yn gyntaf. Mae’n dibynnu ar ba mor gyflym mae dy dîm gofal yn meddwl bod angen triniaeth a chymorth arnat.
Gallet ddod â:
- Dillad cyfforddus
- Pyjamas
- Fflip-fflops neu sleiders
- Llyfrau a chylchgronau (efallai y bydd staff yn gwirio y rhain yn gyntaf)
- Pethau ymolchi a brwsh dannedd
- Cynhyrchion mislif, fel padiau
- Beiros a phadiau nodiadau (nad ydynt wedi'u rhwymo'n droellog)
- Lluniau o deulu, ffrindiau neu bartneriaid
- Eitem gysurus neu degan meddal
- Rhywbeth i dy gadw’n brysur, fel gemau bwrdd, llyfrau, tabled neu gonsol gemau
- Rhywbeth i wrando ar gerddoriaeth neu bodlediadau arno
- Rhestrau o rifau ffôn pwysig, rhag ofn y bydd adegau pan na elli di gael dy ffôn
- Meddyginiaeth gan dy feddyg, y gallai fod angen i staff yr ysbyty ofalu amdani
Pan es i i mewn, doeddwn i ddim yn gwybod beth i fynd gyda fi na sut beth fyddai hynny.
Beth nad ydw i’n cael mynd ag ef i’r ysbyty?
Mae gan bob ward ei rheolau ei hun ynghylch yr hyn y gallwn ac na allwn fynd gyda ni.
Fel arfer, nid ydym yn cael unrhyw beth y gallem ei ddefnyddio i niweidio ein hunain na rhywun arall. Gallai hyn gynnwys gwrthrychau bob dydd nad ydyn ni’n eu hystyried yn niweidiol.
Hyd yn oed os nad wyt yn siŵr pam na fydd staff yn caniatáu rhai pethau, ceisio gofio mai'r nod yw cadw pawb yn ddiogel. Efallai y byddan nhw hefyd yn mynd â dy ddyfeisiau trydanol i ffwrdd yn gyntaf i’w profi am ddiogelwch.
Elli di ddim mynd â rhai pethau ar y ward o gwbl, fel:
- Alcohol
- Cyffuriau anghyfreithlon
- Meddyginiaeth nad yw gan dy feddyg
- Sigarennau neu fêps
- Unrhyw beth gyda llafn miniog
Os nad wyt ti'n siŵr ynghylch dod â rhywbeth, gelli geisio ffonio ymlaen llaw i ofyn. Efallai y bydd staff yn gallu awgrymu opsiynau eraill i ti.
Mae’n mynd i fod yn anodd, dim ots os wyt ti ar ward dda iawn neu ward wael iawn. Gallet fod ar y ward orau yn y byd ond bydd pethau’n anodd ac allan o dy reolaeth – Martha
Beth fydd yn digwydd pan fyddaf yn mynd i’r ysbyty?
Ar ôl i’r penderfyniad gael ei wneud dy fod yn mynd i’r ysbyty, dylet gael cynnig lle ar ward iechyd meddwl gyda phobl ifanc eraill.
Ond mewn rhai achosion, efallai y bydd yn rhaid i ti aros ar ward iechyd meddwl i oedolion. Gallai hyn ddigwydd os:
- Mae angen i ti fynd i’r ysbyty’n gyflym ond nid oes gwelyau ar y ward pobl ifanc.
- Mae bod ar ward oedolion yn well ar gyfer dy driniaeth a gofal. Fel os wyt ti bron yn 18 oed a ddim eisiau newid wardiau pan fydd hyn yn digwydd, neu os oes gen ti fabi.
Roeddwn i’n glaf anffurfiol pan oeddwn i’n 17 oed, ond cefais fy rhoi ar ward oedolion... Roedden nhw’n dweud y byddai am uchafswm o 72 awr, ond roeddwn i yno am bron i 2 fis – Martha
Pan fyddi yn cyrraedd y ward am y tro cyntaf fel claf anffurfiol, dylai aelod o staff dreulio peth amser yn dy helpu i setlo. Bydd nyrs neu feddyg hefyd yn holi am dy hanes meddygol ac yn gwirio dy iechyd corfforol.
Gallai hwn fod yn amser da i ofyn cwestiynau neu i gael gwybod am unrhyw beth sy’n dy boeni. Efallai yr hoffet ti ofyn:
- Alla i gael ffôn yn yr ysbyty?
- Pryd mae'n amser bwyd?
- Pryd alla i gael ymwelwyr yn yr ysbyty?
- Pa fath o weithgareddau alla i eu gwneud ar y ward?
- Sut alla i olchi fy nillad?
Cefais fy ngweld gan nyrs gyfeillgar iawn a ddangosodd i mi fy ystafell ac aeth ati i chwilio drwy fy magiau. Cymerodd fanylion fel fy nhaldra, fy mhwysau a’m pwysedd gwaed. Yna dangosodd i mi o amgylch y ward, ac i mewn i’r lolfa, lle cwrddais â rhai o’r cleifion eraill.
A fydd yn rhaid i mi ddilyn rheolau yn yr ysbyty?
Mae gan ysbytai reolau ynghylch yr hyn y gallwn ei wneud a’r hyn na allwn ei wneud ar y ward, a bydd staff yn disgwyl i bob un ohonom eu dilyn.
Er enghraifft, efallai y bydd yn rhaid i ni ddilyn rheolau ynghylch:
- Faint o’r gloch y gallwn ni fwyta ein prydau
- Beth y caniateir i ni ddod i’r ward
- Sut y dylem ymddwyn yn gyffredinol
Efallai y bydd yn rhaid i ni ddilyn rhai rheolau sy’n wahanol i bobl eraill ar y ward. Gallai hyn ddibynnu ar pam rydyn ni yn yr ysbyty, a sut mae ein triniaeth a’n cymorth yn mynd.
Er enghraifft, os ydyn ni wedi bod ar y ward ers tro ac rydyn ni’n ymateb yn dda i driniaeth, efallai y byddwn ni’n cael seibiant yn amlach na chlaf anffurfiol mwy newydd.
Roedd anffurfiol yn llawer gwell i mi. Roedd fy arsylwadau meddygol ar lefelau tebyg, ond pe bawn i eisiau gwneud rhywbeth fel mynd i redeg, fydden nhw ddim yn dweud na mewn gwirionedd – Sarah
Pa driniaeth a chymorth fydda i’n eu cael yn yr ysbyty?
Bydd llawer o wahanol bobl sydd â swyddi gwahanol yn gofalu amdanom ni yn yr ysbyty. Mae hyn yn cynnwys nyrsys, meddygon a gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol.
Ein tîm gofal yw’r prif bobl sy’n gofalu amdanom ni. Gwaith ein tîm gofal yw cael y driniaeth a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnom i wella. Gallai hyn gynnwys pethau fel:
- Therapi siarad, fel cwnsela
- Therapi grŵp
- Therapi teulu
- Therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT)
- Therapïau creadigol
- Therapi symud, fel ioga
- Therapi galwedigaethol, fel cael help gyda choginio, mynd ar drafnidiaeth gyhoeddus a siopa bwyd
- Meddyginiaeth
- Gweithgareddau eraill, yn dibynnu ar yr hyn sy’n gweithio i ni
Os wyt ti ar ward CAMHS, mae rhagor o wybodaeth am rolau rhai aelodau o staff ar ein tudalen am bwy sy’n gweithio yn CAMHS.
Roedd gan y ward roeddwn i arni raglen therapi eithaf strwythuredig, a oedd ychydig yn debyg i amserlen ysgol. Roedd yn cynnwys cylch wythnosol o lwyth o wahanol grwpiau, fel CBT, therapi celf, ioga, pobi, garddio, yn ogystal ag amser un i un gyda therapyddion.
Ydw i’n gallu penderfynu pa driniaeth a chymorth rydw i’n eu cael?
Dylai dy dîm gofal bob amser geisio dy gynnwys mewn penderfyniadau am dy driniaeth a chefnogaeth. Dy gynllun gofal yw’r enw ar hyn.
Fel claf anffurfiol, ni all dy dîm gofal fel arfer roi triniaeth i ti oni bai dy fod yn cytuno i hynny. Gelwir hyn yn roi cydsyniad.
Ond mewn ychydig o sefyllfaoedd, gallet gael triniaeth heb dy gydsyniad. Er enghraifft, os wyt ti'n rhy sâl i wneud dy benderfyniadau dy hun:
- Gall dy riant, gofalwr neu warcheidwad benderfynu ar dy ran weithiau
- Efallai y bydd dy dîm gofal yn penderfynu bod cael y driniaeth dy les pennaf
Gofalu am dy les
Mae treulio amser yn yr ysbyty yn gallu bod yn anodd ac yn frawychus iawn. Mae'n bwysig dod o hyd i ffyrdd o ofalu amdanat dy hun.
Fe wnaethom siarad â phobl ifanc a oedd eisiau rhannu eu hawgrymiadau lles eu hunain yn yr ysbyty:
- Ceisia gadw’n brysur a dal i fod â diddordebau. Os medri di, gwna yr un pethau roeddet ti’n hoffi eu gwneud cyn mynd i’r ysbyty.
- Gelli wneud ffrindiau yn yr ysbyty a allai dy helpu drwy gyfnodau anodd iawn.
- Efallai y byddi yn cael trafodaethau gwych gyda phobl ifanc eraill ac yn dechrau deall eich gilydd yn iawn.
- Gelli wneud gweithgareddau gyda phobl ifanc eraill. Gall ysbyty fod yn hwyl weithiau hyd yn oed!
Mae yna gymuned o bobl ifanc, dwyt ti ddim ar dy ben dy hun – Polly
Beth yw fy hawliau fel claf anffurfiol?
Mae gan gleifion anffurfiol hawliau penodol yn yr ysbyty. Gall gwybod ein hawliau ein helpu i wneud yn siŵr bod staff yn ein trin yn deg ac yn darparu’r pethau sydd eu hangen arnom.
Dy hawliau yn yr ysbyty
Mae ein tudalen hawliau ysbyty yn egluro’r hawliau sydd gennym fel cleifion anffurfiol, a beth allwn ni ei wneud os nad ydyn ni’n cael yr hyn rydyn ni’n ei haeddu.
Beth fydd yn digwydd pan fyddaf yn gadael yr ysbyty?
Gall gadael yr ysbyty ar ôl bod yn glaf anffurfiol deimlo fel cam mawr iawn. Efallai y byddwn yn clywed hyn yn cael ei alw’n ‘rhyddhau’ o’r ysbyty.
Cyn i ni fynd, bydd ein tîm gofal eisiau gwneud yn siŵr:
- Rydyn ni’n ddigon iach i adael
- Mae cefnogaeth ar gael i ni ar ôl i ni adael
Os wyt ti eisiau gadael cyn i dy dîm gofal feddwl dy fod yn barod, dylen nhw geisio egluro pam nad ydyn nhw’n meddwl dy fod yn barod. Fel claf anffurfiol, allan nhw ddim gwneud i ti aros.
Ond, os ydyn nhw’n poeni y gallet ti fod yn risg i ti dy hun neu i eraill, efallai y byddan nhw’n dy secsiynu i gael mwy o wybodaeth, cer i'n tudalen ar cael dy secsiynu.
Os nad wyt ti’n teimlo’n barod i adael yr ysbyty, dylet siarad â dy dîm gofal er mwyn i ti allu trafod dy bryderon gyda’ch gilydd.
Nod yr ysbyty yw gadael yn teimlo’n gryfach na phan wnest ti gyrraedd, a theimlo dy fod yn gallu ymdopi gartref, felly os nad wyt ti’n teimlo dy fod wedi cyrraedd y pwynt hwnnw eto, yna coda dy lais!
Pan fyddi’n gadael, dylai dy dîm gofal roi’r canlynol i ti:
- Crynodeb rhyddhau, sy’n egluro faint o amser rwyt ti wedi’i dreulio yn yr ysbyty fel claf anffurfiol a sut aeth dy driniaeth.
- Cynllun gofal, sy’n esbonio ychydig amdana ti, a’r gofal a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnat. Gallai hyn gynnwys cyngor ar beth ddylai ddigwydd os wyt ti mewn argyfwng.
- Manylion cyswllt rhywun i siarad â nhw os wyt ti'n meddwl bod dy iechyd meddwl yn gwaethygu ar ôl i ti adael yr ysbyty.
Efallai y bydd dy dîm gofal yn gofyn i ti fynd yn ôl i’r ysbyty am apwyntiadau, neu gael archwiliadau gyda CAMHS neu dy feddyg.
Heb y gefnogaeth a’r cymorth gan y tîm, dydw i ddim yn meddwl y byddwn i’n fyw heddiw ac wedi goresgyn fy mhroblemau. Mae’r ysbyty’n frawychus iawn, ond doedd hi ddim yn agos at fod mor ddrwg nac mor frawychus ag yr oeddwn i’n ei feddwl.
Cyhoeddwyd: Rhagfyr 2024
Adolygiad nesaf wedi'i gynllunio: Rhagfyr 2027
Gwnaethom siarad â phobl ifanc a gytunodd i roi dyfyniadau ar gyfer y dudalen hon. Nid yw eu profiadau yn gysylltiedig â'r bobl a ddangosir yn y lluniau.
Mae cyfeiriadau ar gael ar gais. Os ydych chi am atgynhyrchu'r cynnwys hwn, gweler ein tudalennau caniatâd a thrwyddedu.