Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Datgysylltiad ac anhwylderau datgysylltiol

Mae'n egluro beth yw datgysylltiad ac anhwylderau datgysylltiol, gan gynnwys achosion posibl a sut y gallwch chi gael gafael ar driniaeth a chymorth. Mae'n cynnwys cynghorion i'ch helpu chi eich hun, a chyngor i ffrindiau a theulu.

Anhwylder pyliau heb fod yn rhai epileptig (NEAD)

Mae rhai pobl ag anhwylderau datgysylltiol yn cael trawiadau. Nid oes achos corfforol i'r trawiadau hyn. Maen nhw'n cael eu galw'n drawiadau datgysylltiol neu'n byliau heb fod yn rhai epileptig. Os byddwch chi'n cael y trawiadau hyn, efallai y cewch chi ddiagnosis o anhwylder pyliau nad ydyn nhw'n rai epileptig (NEAD).

Er nad oes achos corfforol i'r trawiadau hyn, nid yw hyn yn golygu nad ydyn nhw'n real neu'ch bod chi'n actio.

Os byddwch chi'n cael trawiad datgysylltiol, efallai y byddwch chi:

  • Yn cael confylsiynau yn y breichiau, y coesau, y pen neu'r corff (ar un ochr o'r corff neu'r ddwy)
  • Yn colli rheolaeth dros eich pledren neu'ch coluddyn
  • Yn cnoi eich tafod
  • Yn edrych yn syn neu'n edrych drwy rywbeth neu rywun
  • Yn profi symptomau eraill sy'n debyg i epilepsi

Gall trawiadau datgysylltiol ddigwydd os bydd yr ymennydd yn cael ei lethu gan straen. Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am byliau heb fod yn rhai epileptig ar wefan Epilepsy Action.

Mae fy nhrawiadau fy hun nad ydyn nhw'n rhai epileptig yn debyg i drawiad epileptig
tonig – mynd yn stiff ac yn anystwyth, cael trafferth anadlu, a hynny ochr yn ochr ag
aflonyddwch gweledol.”

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Ionawr 2023. Byddwn ni'n ei diwygio yn 2026.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

Rhannu'r wybodaeth hon

arrow_upwardYn ôl i'r brig