Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Mae Mind wedi bod yn achubiaeth

Dydd Mercher, 01 Mai 2024 India

Yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, mae India yn blogio ynglŷn â sut y gwnaethom ddarparu lle diogel iddi, ac yn gobeithio am ddyfodol lle mae gwasanaethau iechyd meddwl yn canolbwyntio mwy ar yr unigolyn ac yn gefnogol, fel ein bod yn meddwl am bob meddwl.

Mor bell yn ôl ag y medraf gofio rydw i bob amser wedi teimlo'n wahanol, a doeddwn i ddim yn gwybod pam. Doeddwn i ddim yn ffitio i mewn gyda phobl ac yn teimlo fel alltud.

Rydw i wedi cael trafferth gyda fy iechyd meddwl ers 2007 pan oeddwn yn 14 oed, a chefais fy nghadw yn yr ysbyty dan y Ddeddf Iechyd Meddwl yn 18 oed yn dilyn gorddos.

Mae fy mhrofiadau o wasanaethau iechyd meddwl wedi bod yn negyddol i raddau helaeth, felly mae’r gefnogaeth a gefais gan Mind wedi bod yn achubiaeth, gan greu lle diogel i mi siarad am fy heriau a’m helpu i ddeall fy symptomau.

“Pan gyrchais i wefan Mind, roeddwn i wir yn gallu uniaethu ag ef. Fe wnaeth i mi ddeall pwy ydw i, oherwydd doeddwn i ddim o'r blaen.”

Rydw i'n cofio ymgysylltu â Mind am y tro cyntaf pan oedd hi’n gyfyng arna i. Doeddwn i ddim yn gwybod llawer amdano bryd hynny. Pan gyrchais i'r wefan, a'r holl wybodaeth a thaflenni gwaith ar wahanol gyflyrau, roeddwn i wir yn gallu uniaethu ag ef. Fe wnaeth i mi ddeall pwy ydw i, oherwydd doeddwn i ddim o'r blaen.

O'r sylwadau ar wahanol erthyglau a rannodd Mind, mi wnes i ddarganfod am grwpiau cymorth. Mi wnes i ymuno â grŵp ar gyfer pobl ag Anhwylder Straen Ôl-drawmatig (PTSD) ac un ar gyfer pobl ag anhwylderau personoliaeth. Fe wnaeth dim ond gweld pethau y gallwch chi uniaethu â nhw wneud i mi sylweddoli nad fi yw'r unig un.

“Mi allwch chi ffonio'ch teulu ac efallai na fydd ganddyn nhw unrhyw ddiddordeb. Ond o leiaf rydych chi bob amser yn gwybod y gallwch chi ffonio Mind.”

Y peth gorau am Mind yw gallu ffonio'r Llinell Wybodaeth a siarad â nhw pan fydd angen. Mae gallu codi’r ffôn a siarad pan fyddwch mewn lle drwg iawn yn achubiaeth. Roedd y galwadau ffôn yn hollbwysig i mi. Gallwch chi ffonio ffrindiau ac efallai na fyddan nhw'n ateb, neu'ch teulu ac efallai na fydd ganddyn nhw unrhyw ddiddordeb. Ond o leiaf rydych chi bob amser yn gwybod y gallwch chi ffonio Mind. Fyddan nhw ddim yn eich galw chi'n 'wallgof' nac yn eich siomi, maen nhw'n mynd i wrando arnoch chi go iawn.

Helpodd Mind fi i ddeall beth oedd yn digwydd i mi. Dyna'r peth mwyaf pwerus y gallwch chi ei roi i rywun. Nawr dwi ddim yn teimlo embaras am bwy ydw i. Rydw i’n fodlon gyda phwy ydw i.

Rydw i’n teimlo’n flin bod cymaint o bobl yn aros am wasanaethau iechyd meddwl. Rydw i'n meddwl ei bod yn warthus ein bod yn dal yn y fan hon yn 2024. Dylai pethau fod wedi symud ymlaen. Dylai pethau fod yn haws. Dydw i ddim yn deall pam na fu unrhyw gynnydd.

“Heb Mind, byddai fy iechyd meddwl wedi mynd yn waeth ac yn waeth. Mind a chael fy mab achubodd fi.”

Rydw i wedi bod ar restrau aros ers dyddiau’r gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed (CAMHS). Nid oes dim ohono wedi bod yn gyflym. Rydw i wedi newid cyfeiriad ac mae'n fwy o aros, aros ac aros. Rydych chi'n meddwl y byddai mwy o flaenoriaeth, ond na. Rydw i'n teimlo’n ddrwg dros bobl sy'n llai gwydn na mi oherwydd fe allai eich gwthio dros y dibyn.

Heb Mind, byddai fy iechyd meddwl wedi mynd yn waeth ac yn waeth. Mind a chael fy mab achubodd fi. Bob pen-blwydd nawr, dwi'n ei weld yn fendith, oherwydd efallai na fyddwn i wedi bod yma.

Mae angen Mind arnom nawr yn fwy nag erioed. Hebddo, yr unig beth fyddai gennym fyddai rhestrau aros y GIG, pobl yn aros am therapi a meddyginiaeth. Tynnwch Mind oddi yna, a dyna'r cyfan sydd gennych ar ôl. Rydych chi'n cael eich gadael heb ddim.

Mi fyddwn i wrth fy modd yn byw mewn byd lle mae salwch meddwl mor normal â thorri eich braich. Rydw i’n dyheu am ddyfodol lle mae gwasanaethau iechyd meddwl yn canolbwyntio mwy ar yr unigolyn ac yn fwy cefnogol. Ond mae stigma ofnadwy o hyd yn gysylltiedig â chyflyrau fel sgitsoffrenia ac anhwylder deubegynol. Mae'n fy mhoeni bod y byd fel hyn, ac nid yw newid yn digwydd mor gyflym ag y dylai. Pe bai rhywun yn cael llawdriniaeth yn yr ysbyty, mae'n debyg y byddech chi'n mynd â blodau a grawnwin iddyn nhw. Pam nad yw hynny'n digwydd pan fydd pobl yn cael eu traddodi i'r ysbyty?

Related Topics

Information and support

When you’re living with a mental health problem, or supporting someone who is, having access to the right information - about a condition, treatment options, or practical issues - is vital. Visit our information pages to find out more.

 

Share your story with others

Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.

arrow_upwardYn ôl i'r brig