Beth yw’r Diwrnod Amser i Siarad?
Diwrnod Amser i Siarad yw sgwrs fwyaf y genedl am iechyd meddwl. Gall pob un ohonom ddod at ein gilydd ar y diwrnod hwn i siarad, i wrando ac i newid bywydau.
Pam mae siarad yn bwysig?
Gall siarad yn agored ac yn onest fod yn gam cyntaf tuag at iechyd meddwl gwell i bawb. Gall leihau stigma a helpu pobl i deimlo'n ddigon cyfforddus i ofyn am help pan fydd ei angen arnynt.
Mae cryn bŵer mewn gallu siarad am eich profiadau eich hun a'u troi'n rhywbeth cadarnhaol.
Dechreuwch sgwrs yn eich cymuned
Beth am rannu neges ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #TimeToTalk #AmserISiarad, trefnu gweithgaredd yn eich gweithle, neu gael sgwrs gyda ffrind neu aelod o'r teulu i holi amdanynt. Mae sawl ffordd o gymryd rhan ar Ddiwrnod Amser i Siarad.
Dyma rai syniadau i’ch helpu i gychwyn arni.
Anfon neges destun at ffrind i ofyn sut mae pethau.
Mynd am dro gyda chymydog i gael sgwrs.
Gwahodd cydweithiwr draw am baned a sgwrs.
Cyflwyno neges yn y gwasanaeth ysgol boreol ar iechyd meddwl.
Cynnal sesiwn dysgu dros ginio yn eich gweithle.
Rhannu neges ar y cyfryngau cymdeithasol.
Rydych chi’n helpu chi eich hun a'r bobl o'ch cwmpas i gael y sgwrs gychwynnol honno ac rydych chi hefyd yn helpu i chwalu rhwystrau fel bod pobl eraill yn teimlo'n fwy cyfforddus yn siarad am eu hiechyd meddwl.
Syniadau siarad
Er nad oes ffordd gywir nac anghywir o siarad am iechyd meddwl, gall ein syniadau siarad eich helpu i gael y sgyrsiau hollbwysig hynny.
Ac os ydych chi'n chwilio am hyd yn oed mwy o arweiniad ar sut mae cefnogi pobl eraill, edrychwch ar hyfforddiant Sgyrsiau yn y Gymuned Mind.
Syniadau ar gyfer cefnogi rhywun arall
Bydd sylwadau bach ar lafar fel ‘Dwi'n gweld’ neu ‘beth ddigwyddodd nesaf?’ yn rhoi gwybod iddyn nhw eich bod chi'n rhoi sylw iddyn nhw ac yn gwrando arnyn nhw.
Ceisiwch osgoi’r awydd i gynnig atebion cyflym i'r hyn y mae rhywun yn mynd drwyddo. Mae siarad yn unig yn gallu bod yn bwerus iawn, felly oni bai eu bod nhw wedi gofyn yn benodol am gyngor, efallai y byddai'n well gwrando yn unig.
Mae problemau iechyd meddwl yn fwy cyffredin nag y mae pobl yn ei feddwl. Gallant effeithio ar unrhyw un ar unrhyw adeg. Nid yw sylwadau fel ‘Paid â bod yn wirion’ neu ‘Rwyt ti’n cael diwrnod gwael’ ddim yn ddefnyddiol.
Dim ots pa mor galed rydych chi'n ymdrechu, efallai na fydd rhai pobl yn barod i siarad am yr hyn maen nhw'n mynd drwyddo. Mae hynny'n iawn - efallai y bydd y ffaith eich bod wedi ceisio siarad â nhw am y peth yn ei gwneud yn haws iddyn nhw siarad rywbryd eto. Mae'n bwysig gadael iddyn nhw benderfynu dros eu hunain pa mor gyflym maen nhw eisiau gofyn am gymorth.
Awgrymiadau ar gyfer rhannu eich teimladau eich hun
I gael rhagor o arweiniad, edrychwch ar ein tudalennau ar helpu rhywun arall i ofyn am help a siarad am eich iechyd meddwl.