Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Balchder yn Mind

Rydyn ni yma drwy gydol y flwyddyn i unrhyw un sy’n LHDTCRhA+. Ond mae digwyddiadau Balchder yn amser i ddathlu, i brotestio, i fyfyrio.

Eleni, byddwn yn chwifio’r Faner Cynnydd mewn gwahanol ddigwyddiadau Balchder ledled Cymru a Lloegr ac yn parhau i godi ymwybyddiaeth o brofiadau iechyd meddwl LHDTCRhA+.

Ni fyddwn yn rhoi'r gorau iddi nes bod pawb sy’n wynebu problem iechyd meddwl yn cael cymorth a pharch.

 

Mae'n ddrwg gennym, nid oes gennym fersiwn Gymraeg o'r dudalen hon ar hyn o bryd.

Ymunwch â ni yn y digwyddiadau Balchder!

Drwy gydol y flwyddyn byddwn yn mynd i ddigwyddiadau Balchder, a byddem wrth ein bodd yn eich gweld chi yno! Byddwn yn gorymdeithio, yn cynnal stondinau ac yn tynnu sylw at gymorth iechyd meddwl! Byddwn yn y canlynol:

  • Pride Cymru dydd Sadwrn 22 Mehefin
  • Pride Y Fflint dydd Sadwrn 22 Mehefin
  • Pride Llundain dydd Sadwrn 29 Mehefin
  • Pride Wrecsam dydd Sadwrn 27 Gorffennaf
  • UK Pride Doncaster dydd Sadwrn 10 Awst
  • UK Black Pride dydd Sul 11 Awst
  • Pride Manceinion dydd Sadwrn 24 Awst
  • Bi Pride dydd Sadwrn 31 Awst

Beth mae Balchder yn ei olygu i chi?

Fe wnaethon ni ofyn i chi beth mae Balchder yn ei olygu a sut mae’n cefnogi eich iechyd meddwl.

"Bod yn chi eich hun go iawn"

"Cymuned, cael eich derbyn a chariad"

"Lle rydych chi’n perthyn iddo"

"Dim angen profi eich hun i eraill"

"Bod yn gyfforddus ac yn hyderus o ran pwy ydych chi"

"Bod yn rhydd i fod yn fi fy hun a gwybod fy mod i’n ddigon cwiar"

"It is a cliché, but it is still true: we cannot be what we cannot see. And events like Pride have a role to play in this."

Read Ed's story

 

Read more about LGBTQIA+ experiences of mental health

Racism and homophobia damaged my mental health

Julien blogs about the discrimination he has endured while embracing his sexuality.


All we need is acceptance and support

Regan blogs about her experience of transitioning and how she struggled to find the acceptance and support she desperately needed.

Bisexuality and mental health

Jonathan, co-founder and co-chair of the London Bi Network, shares how the stigma surrounding bisexuality has impacted his mental health.

Hunanofal yn ystod mis Balchder

Mae mis Balchder yn gyfle pwysig i ddod at ein gilydd fel cymuned ac i ddathlu hunaniaethau LHDTCRhA+. Ond i rai ohonom, gall fod yn gyfnod anodd sy’n amlygu teimladau o gywilydd neu stigma y gallwn ni ein hunain eu teimlo neu eu hwynebu gan bobl eraill. Efallai na fyddwch chi’n gallu dod allan a rhannu pwy ydych chi ag eraill, neu efallai y byddwch chi’n wynebu teimladau casineb tuag at bobl LHDTCRhA+ gan bobl o’ch cwmpas.

Gall fod yn anodd teimlo’n falch o bwy ydych chi pan fydd pobl yn gwahaniaethu yn eich erbyn, a gall hyn gael effaith enfawr ar ein hiechyd meddwl. Dyma rai awgrymiadau ar gyfer gofalu amdanoch eich hun:

  • Dywedwch wrth bobl beth sy’n helpu. Rhowch wybod i bobl rydych chi’n ymddiried ynddyn nhw sut gallan nhw eich cefnogi chi pan nad ydych chi’n teimlo’n grêt. Os ydych chi’n teimlo’n gyfforddus, efallai y byddwch chi’n fodlon dweud wrthyn nhw beth sy’n sbarduno’r teimladau hyn er mwyn iddyn nhw wybod sut i’ch helpu chi.
  • Ceisiwch adnabod eich arwyddion rhybudd. Ceisiwch feddwl sut rydych chi’n teimlo dros y mis. Cadwch lygad am arwyddion y gallech chi ddechrau teimlo’n wael. Bydd hyn yn wahanol i bawb, ond gall gwybod amdanyn nhw eich helpu i gael cymorth yn gyflymach.
  • Cadwch gofnod o’ch teimladau. Mae cadw llygad ar sut rydych chi’n teimlo yn gymorth i weld patrymau o ran yr hyn sy’n gwneud i chi deimlo’n dda ac yn wael. Felly, efallai y byddwch chi’n sylwi pan fyddwch chi’n treulio mwy o amser ar y cyfryngau cymdeithasol y mis hwn, fod hyn yn gwneud i chi deimlo’n waeth. Gallwch gadw golwg gyda dyddiadur hwyliau, nodiadau ar eich ffôn, neu liwiau. Dydy hi ddim bob amser yn bosib osgoi pethau sy’n gwneud i ni deimlo’n isel, ond bydd rheoli’r hyn y gallwch yn helpu.
  • Gofalwch amdanoch chi’ch hun. Gall clywed sgyrsiau negyddol am bobl LHDTCRhA+ fod yn niweidiol, ac mae’n gallu gwneud i chi deimlo’n waeth amdanoch chi eich hun. Heriwch feddyliau angharedig sydd gennych chi amdanoch chi eich hun – a gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud pethau da i chi eich hun hefyd. Mae llawer o wybodaeth ar gael ar ein gwefan am sut i wneud hyn.

Gwahardd therapi trosi yn llwyr

Pwrpas therapi trosi yw ceisio newid neu ‘iachau’ cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth rhywun o ran rhywedd. Mae’n arfer anfoesol a niweidiol y mae’n rhaid ei wahardd. Nid oes angen i bobl LHDTCRhA+ ‘iachau’ eu cyfeiriadedd rhywiol na’u hunaniaeth o ran rhywedd.

Nid yw ‘therapi’ trosi yn therapi. Mae’n niweidiol ac mae’n rhoi pobl mewn perygl. Rydym yn galw ar Lywodraeth y DU i wahardd therapi trosi yn llwyr.

Darllenwch fwy am ein gwaith i wahardd therapi trosi (tudalen Saesneg)

Rhannwch eich cefnogaeth drwy ofyn i’ch AS lobïo Llywodraeth nesaf y DU am waharddiad ar therapi trosi sy’n cynnwys pob person LHDTCRhA+.

Defnyddiwch dempled Stonewall i ysgrifennu at eich AS

Iechyd meddwl LHDTCRhA+

Nid bod yn LHDTCRhA+ sy’n achosi problemau iechyd meddwl. Ond gall rhai profiadau rydych chi’n eu cael fel person LHDTCRhA+ eich gwneud chi’n fwy tebygol o orfod wynebu problem iechyd meddwl.

Dyma rai pethau y gallech chi fynd i’r afael â nhw os ydych chi’n LHDTCRhA:

  • Homoffobia, deuffobia a thrawsffobia
  • Profiadau o stigma a gwahaniaethu
  • Profiadau anodd o ddod allan
  • Ynysu cymdeithasol, cael eich allgáu a’ch gwrthod
  • ‘Therapi trosi’
  • Anawsterau o ran cael y gofal iechyd sydd ei angen arnoch am resymau fel gwahaniaethu, neu restrau aros hir am driniaeth ar sail rhyw os ydych chi’n berson traws

A dweud y gwir, oherwydd y materion hyn, mae pobl LHDTCRhA+ yn 2 neu 3 gwaith yn fwy tebygol o gael problem iechyd meddwl.

Ac mae llawer o bobl ifanc yn profi diffyg amgylchedd cynhwysol – yn y cartref, yr ysgol a thu hwnt. Mae bron i chwarter y bobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn ddigartref yn ystyried eu hunain yn LHDTCRhA+.

Mae’r effaith y mae gwahaniaethu ac ynysu’n ei chael ar iechyd meddwl pobl LHDTCRhA+ yn glir, ac mae modd osgoi hyn. Dyna pam mae angen i ni i gyd wneud mwy i wneud yn siŵr bod pethau’n newid – er gwell.

Cofiwch, dydych chi ddim ar eich pen eich hun.

Information and support

We’ve published new information about mental health experiences and support for people who are lesbian, gay, bi+, trans and non-binary, queer/questioning, intersex and ace/aro (LGBTQIA+), as well as guidance for friends and family of LGBTQIA+ people.

Read our LGBTQIA+ information

Sut mae cael cymorth ar gyfer iechyd meddwl

Llinell Wybodaeth Mind

Os oes angen cymorth arnoch chi, mae croeso i chi gysylltu â’n Llinell Wybodaeth dros y ffôn, dros e-bost, neu drwy’r post. Gallwn roi gwybodaeth i chi am gymorth iechyd meddwl a’ch cyfeirio at gymorth yn eich ardal.

Mae ein llinellau ar agor rhwng 9am a 6pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac eithrio ar wyliau banc.

Gallwch siarad â ni am bethau fel:

  • Problemau iechyd meddwl a llesiant
  • Sut gallwch ofalu am eich iechyd meddwl eich hun
  • Gwasanaethau cymorth sydd ar gael yn eich ardal chi
  • Dewisiadau triniaeth, fel meddyginiaeth a chwnsela
  • Gwasanaeth eirioli

Os yw’n rhywbeth na allwn ni roi cymorth ar ei gyfer, gallwn eich cyfeirio at wasanaethau a chymorth sy’n gallu helpu.

Gallwch gysylltu â’n Llinell Wybodaeth fel a ganlyn:

Ffôn: 0300 123 3393 

E-bost: [email protected] 

Post: Mind Infoline, PO Box 75225, Llundain, E15 9FS 

Side by Side 

Mae Side by Side yn gymuned gefnogol ar-lein. Mae’n rhywle lle gallwn ni siarad yn agored am ein hiechyd meddwl a chysylltu ag eraill sy’n deall yr hyn rydym ni’n ei wynebu.

Mae’n rhywle diogel i wrando, rhannu a chael eich clywed. Mae’r gymuned ar gael 24/7, ac mae croeso i bawb.

Rhagor o wybodaeth am Side by Side

Canghennau Mind lleol

Mae ein rhwydwaith o ganghennau Mind lleol yn cynnig gwybodaeth a chymorth iechyd meddwl i gymunedau lleol ledled Cymru a Lloegr. Maen nhw’n llefydd diogel i siarad â phobl sy’n deall problemau iechyd meddwl a’r heriau rydym ni’n eu hwynebu bob dydd.

Dyma rai o’r gwasanaethau y gallai eich cangen Mind leol eu cynnig:

  • Cwnsela cost isel
  • Grwpiau cefnogaeth gan unigolion
  • Mae eiriolaeth yn golygu cael cefnogaeth gan rywun arall i’ch helpu i fynegi eich barn a’ch dymuniadau, a’ch helpu i sefyll dros eich hawliau
  • Gwasanaethau cymorth eraill, yn dibynnu ar y lleoliad.

Chwiliwch y map ar ein tudalen dod o hyd i’ch Mind lleol

Local Minds with services designed for LGBTQIA+ people

Bristol Mindline Trans+ is a confidential emotional, mental health support helpline for people who identify as Transgender, Agender, Gender Fluid, Non-binary. The Mindline Trans+ provides a safe place to talk about your feelings confidentially. They don’t record calls nor ask for any personal details. Their listeners will try to understand the multitude of feelings and concerns that may be going on for you. They are there to listen and offer support.

Dorset Mind has a range of support groups for members of LGBTQ+ communities.

The group provides a sanctuary for the LGBTQ+ community, providing a safe space, free from discrimination, where you can share experiences, learn new skills and improve your quality of life.

Outcome is a client-led LGBTQ+ service that has been run by a lesbian, gay, bisexual and trans team for 15 years. They meet every Tuesday between 10:30am and 4:00pm and usually have 35 to 40 clients in each session.

Their main aim is to provide a sanctuary for LGBTQ+ people – somewhere safe where they can be themselves, socialise free from discrimination, receive therapies to improve their mental health, learn new skills and acquire knowledge to improve their quality of life.

Rainbow Mind is a service that is specifically for members of the LGBTQ+ community who have mental health problems. The service is staffed and directed by LGBTQ+ people. The service is delivered by Mind in Salford and Mind in City, Hackney and Waltham Forest.

Outminds support group is run by Solihull Mind and is open to anyone who identifies as lesbian, gay, bisexual, transgender or questioning their sexuality who live within the borough of Solihull. The group meets weekly in Solihull borough and is accessible from all areas of the borough. The group is friendly, supportive and understanding and aims to meet the needs of all who use the group.

Sut mae ymuno â Balchder ar y cyfryngau cymdeithasol

Byddwn yn siarad am bwysigrwydd Balchder ar y cyfryngau cymdeithasol drwy gydol mis Mehefin a thu hwnt. Dilynwch i gael rhagor o wybodaeth am iechyd meddwl LHDTCRhA+ a chlywed am brofiadau aelodau o’r cymunedau.

Other ways to get involved

arrow_upwardYn ôl i'r brig