Get help now Make a donation

Mae nifer y bobl sy’n aros am gymorth seicolegol arbenigol yng Nghymru’n dal i godi

Thursday, 02 July 2026 Mind

Mae nifer y bobl sy’n aros am therapïau seicolegol arbenigol yng Nghymru’n dal i godi – gyda’r nifer ar ei lefel uchaf ers y pandemig Covid-19. 

Roedd tua 9,000 o bobl â chyflyrau iechyd meddwl cymedrol i ddifrifol yn aros am therapïau ym mis Rhagfyr 2025, yn ôl ystadegau a grynhowyd gan Mind Cymru drwy Geisiadau Rhyddid Gwybodaeth a wnaed i bob un o’r 7 Bwrdd Iechyd Lleol. 

Ac yn yr un mis cyrhaeddodd cyfanswm y nifer a oedd yn aros mwy na 26 wythnos – chwe mis a hanner – am therapïau seicolegol arbenigol dros 4,300. Ym mhob achos, dyma’r set uchaf o ffigurau misol a gafwyd gan yr elusen mewn cyfnod o chwe blynedd.

Mewn ymateb, mae Mind Cymru yn galw ar Lywodraeth newydd Cymru i sicrhau bod cwtogi amseroedd aros ac ymrwymo i drawsnewid y system iechyd meddwl yn flaenoriaeth, i helpu i wella mynediad cynnar at gymorth iechyd meddwl i bawb yn ystod tymor nesaf y Senedd. 

Ar ôl gwneud cais am yr un set data i Fyrddau Iechyd Lleol ledled Cymru am y trydydd tro ers 2020, mae Mind Cymru wedi ymrwymo i frwydro i wella mynediad at therapïau seicolegol arbenigol i bawb yng Nghymru.

Mae’r data diweddaraf am y cyfnod rhwng Ebrill 2024 a Rhagfyr 2025 yn dangos bod nifer y bobl sy’n aros mwy na 26 wythnos i gael therapïau seicolegol arbenigol wedi codi i 4,300 yn ystod y cyfnod hwnnw – sy’n bron ddwywaith y nifer ym mis Mawrth 2024 (2,305).

Roedd adroddiad gwreiddiol Mind Cymru yn galw am fuddsoddi mwy mewn therapïau seicolegol arbenigol, llywodraethu mwy cadarn yn y ffordd mae Byrddau Iechyd Lleol yn coladu ac yn cyflwyno data ar amseroedd aros, ac i’r cyhoedd gael gwybod am y ffigurau hyn hefyd. 

Ac er bod hyn yr un mor berthnasol yn awr ag yr oedd ar adeg cyhoeddi’r adroddiad y tro cyntaf, mae’r elusen yn awr yn galw am waith brys i drawsnewid y system iechyd meddwl i ddarparu gofal iechyd meddwl mynediad agored yn gynharach hefyd.

Dywedodd Simon Jones, Pennaeth Polisi ac Ymgyrchoedd Mind Cymru, fod y canfyddiadau’n dangos yn glir bod yn rhaid i fynediad at gymorth iechyd meddwl fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, yn arbennig gan fod lleihau rhestrau aros yn rhan o’r 6 blaenoriaeth allweddol i’r llywodraeth yn ystod tymor nesaf y Senedd.

“Mae’n amlwg bod angen gwirioneddol a chynyddol ymhlith nifer cynyddol o bobl am gymorth seicolegol arbenigol at eu hiechyd meddwl yng Nghymru. Mae’r bobl hyn yn byw â chyflyrau iechyd meddwl cymedrol, difrifol a pharhaus, a hwy sydd â’r angen mwyaf am gymorth.

“Mae’r ffaith bod cymaint yn aros yn rhy hir am therapïau yn rhoi mwy o bwysau ar system sydd eisoes dan straen, ac mae angen buddsoddiad sylweddol ar bob lefel i helpu pobl i gael y cymorth sydd ei angen, pan fydd ei angen.

“Gyda chynlluniau eisoes ar waith i drawsnewid system iechyd meddwl Cymru ac i helpu i ddarparu gofal mynediad agored, rhaid inni’n awr sicrhau bod y cynlluniau hyn yn cael blaenoriaeth ac y buddsoddir ynddynt fel y byddwn yn dechrau gweld effaith bositif hynny cyn gynted â phosibl.

“Ni ddylai neb fod yn aros yn hwy na chwe mis am gymorth at broblem iechyd meddwl ddifrifol. Gyda golwg ar hyn, mae Mind Cymru yn galw ar Lywodraeth newydd Cymru i gyflawni drwy wneud iechyd meddwl yn flaenoriaeth yn ystod tymor nesaf y Senedd."

 

Ways to get involved

Back To Top arrow_upward