Brwydrwch dros iechyd meddwl heddiw, a bob dydd.
Mae iechyd meddwl yn rhan hollbwysig o’n bywydau. Mae'n rhan o’n perthnasoedd, ein gwaith, ein sefyllfa ariannol a'n diogelwch.
Mae'n rhan o bob eiliad o bob dydd.
Gall Llywodraeth nesaf Cymru drawsnewid cymorth iechyd meddwl yn y wlad hon, ond mae angen eich help chi arnom i wneud yn siŵr eu bod yn gwneud hynny.
Dywedwch wrth eich ymgeisydd: mae iechyd meddwl yn hollbwysig.
Rydyn ni’n galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i gyflawni.
Ar hyn o bryd, mae gormod o bobl yng Nghymru yn aros yn rhy hir, yn syrthio drwy'r rhwyd, neu'n wynebu stigma pan fyddan nhw’n gofyn am help. Rydyn ni wedi gwrando ar filoedd o leisiau o bob cwr o Gymru ac mae'r neges yn glir.
Mae angen:
- Mynediad cyflymach a thecach at gymorth
- Gofal gwell i blant a phobl ifanc
- Gweithredu i roi terfyn ar anghydraddoldeb iechyd meddwl
- Cefnogaeth sy'n ystyried profiad bywyd ac yn ymateb iddo
- Partneriaethau cryfach ar draws y GIG, cymunedau a'r Trydydd Sector.
Eisiau gwneud mwy?
Cofrestrwch i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am hynt yr ymgyrch, a ffyrdd eraill o gymryd rhan.