Iselder ôl-enedigol ac iechyd meddwl amenedigol
Yn egluro iselder ôl-enedigol a phroblemau iechyd meddwl amenedigol eraill, gan gynnwys achosion posibl, triniaethau ac opsiynau ar gyfer cefnogaeth. Hefyd yn cynnwys gwybodaeth i ffrindiau a theulu, gan gynnwys cefnogaeth a chyngor i bartneriaid.
PTSD ôl-enedigol a thrawma genedigaeth
Mae anhwylder straen wedi trawma (PTSD) yn fath o anhwylder gorbryder. Mae hefyd yn cael ei alw yn drawma genedigaeth.
Gallech ddatblygu PTSD ôl-enedigol os ydych yn cael digwyddiadau trawmatig cyn neu yn ystod genedigaeth eich plentyn.
Mae’r dudalen hon yn ymdrin â’r canlynol:
Achosion PTSD ôl-enedigol
Mae’r enghreifftiau o ddigwyddiadau trawmatig a allai achosi PTSD ôl-enedigol yn cynnwys:
- cyfnod esgor anodd a genedigaeth hir a phoenus
- toriad Cesaraidd heb ei gynllunio
- triniaeth frys
- profiadau ysgytwol, annisgwyl a thrawmatig eraill yn ystod yr enedigaeth.
Mae rhai pobl yn teimlo bod cael babi newydd yn gwneud iawn am unrhyw brofiadau trawmatig. Neu efallai y byddant yn meddwl bod mwynhau bod yn rhiant newydd yn golygu y byddant yn anghofio am y trawma yn fuan.
Ond gall y profiadau trawmatig hyn gael effaith negyddol ar eich perthynas gyda’ch babi a’r bobl o’ch cwmpas.
Efallai y byddwch yn teimlo’n siomedig nad oedd y profiad o eni plentyn yn debyg i’r hyn roeddech wedi ei obeithio. Neu efallai y byddwch yn teimlo’n flin gyda’r staff meddygol os oeddech yn teimlo na chawsoch eich trin yn dda iawn.
Gallai eich profiadau hefyd wneud i chi deimlo’n bryderus iawn ynglŷn â chael babi arall yn y dyfodol, rhag ofn i chi orfod mynd drwy brofiad tebyg yn ystod yr enedigaeth.
Cefais enedigaeth drawmatig. Roedd gen i gymaint o ofn y byddai fy mab yn marw, ac yn fy mhen ro’n i’n teimlo ei bod hi’n haws i mi beidio ei garu rhag ofn i mi ei golli.
Ail-fyw agweddau ar y trawma
Gallai hyn gynnwys:
- ôl-fflachiadau byw (teimlo bod y trawma yn digwydd yr eiliad hon)
- meddyliau a delweddau ymwthiol
- hunllefau
- gofid dwys o ganlyniad i bethau real neu symbolaidd sy’n eich atgoffa o’r trawma
- synwyriadau corfforol, er enghraifft poen, chwysu, cyfog neu grynu.
Bod ar eich gwyliadwriaeth neu deimlo ar bigau
Gallai hyn gynnwys:
- cynhyrfu pan fyddwch yn cael eich atgoffa o’r trawma
- cael eich cynhyrfu neu eich digio’n hawdd
- gwyliadwriaeth eithafol, sydd weithiau’n cael ei alw’n ‘or-wyliadwriaeth’ (hypervigilance)
- methu cysgu, hyd yn oed pan fyddwch yn cael cyfle
- natur flin neu ymddygiad ymosodol
- methu canolbwyntio, gan gynnwys canolbwyntio ar dasgau syml rydych yn eu gwneud bob dydd
- bod ar binnau neu’n hawdd eich dychryn
- ymddygiad hunanddinistriol neu ddiofal
- symptomau eraill gorbryder.
Osgoi teimladau neu atgofion
Gallai hyn gynnwys y canlynol:
- teimlo bod yn rhaid i chi gadw’n brysur
- osgoi sefyllfaoedd sy’n eich atgoffa o’r trawma
- methu cofio manylion rhywbeth sydd wedi digwydd
- teimlo’n emosiynol ddideimlad, neu wedi eich datgysylltu oddi wrth eich teimladau
- teimlo’n gorfforol ddideimlad, neu wedi eich datgysylltu oddi wrth eich corff
- methu mynegi hoffter
- defnyddio alcohol neu gyffuriau hamdden i osgoi atgofion.
Syniadau a theimladau anodd
Gallai’r rhain gynnwys:
- teimlo eich bod yn methu trystio neb
- teimlo nad oes unman yn ddiogel
- teimlo bod neb yn deall
- beio eich hun am rywbeth sydd wedi digwydd
- teimladau llethol o ddicter, tristwch, euogrwydd neu gywilydd.
Therapi siarad
Y prif driniaethau ar gyfer PTSD yw mathau penodol o therapi siarad:
- Therapi ymddygiadol gwybyddol sy’n canolbwyntio ar drawma - math o therapi ymddygiadol gwybyddol (CBT) sydd wedi’i gynllunio’n benodol i drin PTSD. Edrychwch ar ein tudalennau am CBT i gael mwy o wybodaeth.
- Dadsensitieddio ac ailbrosesu symudiadau’r llygad (EMDR). Yn y driniaeth hon mae therapydd yn eich arwain i symud y llygad yn rhythmig wrth gofio’r digwyddiad trawmatig. Bwriad y symudiadau llygaid yw ysgogi’r system brosesu gwybodaeth yn yr ymennydd. Nod y driniaeth yw eich helpu i brosesu’r digwyddiadau trawmatig, ac ailaddasu a gwella’n gyflymach.
Meddyginiaeth
Ni chaiff meddyginiaeth ei chynnig i drin y PTSD ei hun fel arfer. Ond gallai eich meddyg gynnig meddyginiaeth i chi mewn rhai amgylchiadau:
- Yn aml iawn mae pobl yn profi gorbryder ac iselder yn ogystal â PTSD. Efallai y bydd eich meddyg yn cynnig meddyginiaeth i chi i drin y symptomau hynny.
- Efallai y bydd eich meddyg yn cynnig meddyginiaeth i chi i’ch helpu i deimlo’n fwy sefydlog a gallu gofalu am eich babi.
- Weithiau mae rhestrau aros hir am therapïau siarad yn eich ardal. Efallai y bydd eich meddyg yn cynnig meddyginiaeth i chi i’ch helpu tra rydych yn aros am therapi.
Edrychwn ar ein tudalen am driniaethau ar gyfer PTSD i gael mwy o wybodaeth.
Dod i wybod beth yw’r ffactorau sy’n sbarduno’r teimladau
Efallai y byddwch yn gweld bod rhai profiadau, sefyllfaoedd neu bobl yn sbarduno ôl-fflachiadau neu symptomau eraill. Gallai’r rhain gynnwys pethau penodol sy’n eich atgoffa am drawma yn y gorffennol, fel arogleuon, synau, geiriau, lleoedd neu fathau arbennig o lyfrau neu ffilmiau.
Mae rhai pobl yn cael pethau’n arbennig o anodd ar ddyddiadau arwyddocaol, er enghraifft dyddiad profiad trawmatig, fel pen-blwydd plentyn.
Ymddiried yn rhywun
Os ydych yn profi PTSD ôl-enedigol, efallai y byddwch yn teimlo ei bod yn anodd i chi rannu pethau gyda phobl eraill. Gallai hyn fod oherwydd eich bod yn teimlo eich bod yn methu â siarad am y pethau sydd wedi digwydd i chi. Ond does dim angen i chi allu disgrifio’r trawma er mwyn dweud wrth rywun sut rydych yn teimlo ar hyn o bryd.
Gallai siarad gyda ffrind neu aelod o’r teulu helpu. Neu efallai y byddech yn hoffi siarad gyda gweithiwr proffesiynol, er enghraifft meddyg teulu neu wrandäwr hyfforddedig ar linell gymorth. Edrychwch ar ein tudalennau am linellau cymorth a gwasanaethau gwrando i gael mwy o wybodaeth.
Rhoi amser i chi eich hun
Mae pawb yn ymateb i drawma yn ei ffordd ei hun, ac mae’n bwysig cymryd pethau ar gyflymder sy’n addas i chi. Er enghraifft, efallai nad oes diben i chi siarad am eich profiadau nes byddwch yn teimlo eich bod yn barod.
Ceisiwch fod yn amyneddgar gyda chi eich hun. Peidiwch â barnu eich hun am fod eisiau amser a chefnogaeth i wella o PTSD ôl-enedigol.
Trio cefnogaeth gan gymheiriaid
Mae cefnogaeth gan gymheiriaid yn dod â phobl sydd â phrofiadau tebyg at ei gilydd, i rannu a gwrando ar brofiadau ei gilydd. Mae hyn yn cynnwys cyfarfod wyneb yn wyneb mewn grŵp cefnogaeth gan gymheiriaid lleol, neu ymuno â chymuned ar-lein fel Elefriends Mind.
Edrychwch ar ein tudalennau am gefnogaeth gan gymheiriaid er mwyn cael mwy o wybodaeth.
Dod o hyd i gymorth arbenigol
Mae rhai sefydliadau’n arbenigo mewn cyngor a chefnogaeth ar gyfer PTSD ôl-enedigol, er enghraifft y Gymdeithas Trawma Genedigaeth.
Edrychwch ar ein tudalen cysylltiadau defnyddiol i gael manylion am fwy o sefydliadau a allai helpu.
Gofalu am eich iechyd corfforol
Gall ymdopi â PTSD ôl-enedigol fod yn flinedig iawn. Efallai y byddwch yn teimlo nad oes gennych chi ddim egni i ofalu amdanoch eich hun. Ond os yw’n bosibl, gall gofalu am eich iechyd corfforol wneud gwahaniaeth i’r ffordd rydych yn teimlo o safbwynt emosiynol. Er enghraifft, gall treulio amser yn yr awyr agored, cadw llygad ar eich deiet, a gwneud ychydig o ymarfer corff helpu.
I gael mwy o syniadau, edrychwch ar ein tudalen am ffyrdd o ofalu am eich iechyd meddwl pan fyddwch yn dod yn rhiant.
Diweddarwyd y wybodaeth hon ddiwethaf yn Ebrill 2020. Byddwn yn ei diwygio yn 2023.
Mae cyfeirnodau ar gael. Os dymunwch atgynhyrchu'r wybodaeth hon, ewch i'n tudalen ar ganiatâd a thrwydded.