Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Trefnu eich arian

Mae pethau y gallwch chi eu gwneud i'ch helpu i deimlo bod mwy o reolaeth gennych o'ch arian. Mae'r awgrymiadau ar y dudalen hon yma i'ch helpu i ddechrau arni.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Awgrymiadau ar gyfer trefnu eich arian

Dyma rai awgrymiadau y gallech chi roi cynnig arnynt i'ch helpu i drefnu eich arian:

  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn hawlio unrhyw arian neu gymorth ychwanegol y mae gennych hawl iddo.
  • Rhowch eich holl ddogfennau pwysig mewn un lle fel y gallwch chi ddod o hyd iddynt yn hawdd. Gallai hyn gynnwys llythyrau, cyfriflenni banc, slipiau cyflog, biliau a derbynebau.
  • Edrychwch ar falans eich cyfrif banc ar amser penodol rheolaidd fel eich bod yn gwybod ar beth rydych chi'n gwario eich arian a faint sydd gennych chi ar ôl.
  • Dylech gynnwys tasgau ariannol yn eich trefn ddyddiol neu wythnosol. Gallech chi neilltuo cyfnod penodol o amser rheolaidd i feddwl am unrhyw dasgau y mae angen i chi eu gwneud mewn perthynas ag arian, er enghraifft, talu biliau. Gallech chi gynllunio gweithgaredd sy'n eich ymlacio i'w wneud ar ôl i chi orffen. Gallech chi ddechrau drwy ddefnyddio'r pecyn cymorth arian ac iechyd meddwl hwn o wefan Cyngor Iechyd Meddwl ac Arian.
  • Lluniwch gynllun ar gyfer ffyrdd o dynnu eich sylw, os byddwch chi'n sylwi ar newidiadau yn eich hwyliau a allai effeithio ar eich gwariant.
  • Os yn bosibl, defnyddiwch arian parod yn lle cardiau. Dylech ond dynnu allan swm o arian y gallwch chi fforddio ei wario, er enghraifft, ar gyfer siopa bwyd wythnosol.
  • Lluniwch gyllideb. Mae cyngor cyllidebu ar wefan Helpwr Arian i bobl sy'n hunangyflogedig, sydd ar gontract dim oriau, neu sy'n hawlio Credyd Cynhwysol.
  • Gwnewch restr o'r holl bethau hanfodol y mae angen i chi wario arian arnyn nhw bob mis. Gallai hyn fod yn bethau fel taliadau rhent neu forgais, biliau ynni, biliau ffôn a siopa am fwyd. Mae gan wefan Cyngor Iechyd Meddwl ac Arian gynllun cyllideb am ddim a allai helpu.
  • Rheolwch eich dyledion os gallwch chi fforddio gwneud hynny. Gallech chi sefydlu archeb sefydlog i dalu eich dyledion bob mis. Neu gallech chi ddefnyddio adnodd dyled ar-lein. Defnyddiwch yr adnodd dyled am ddim hwn o StepChange.
  • Os byddwch chi'n cael trafferth talu eich dyledion, dylech geisio cyngor am ddyledion. Gallai fod yn ddefnyddiol i chi gysylltu ag un o'r sefydliadau dyledion hyn.
  • Os byddwch chi'n cael trafferth talu eich dyledion, gallech chi ofyn am seibiant o dalu llog ar eich dyledion. Mae hyn yn bosibl o dan gynllun y Llywodraeth o'r enw lle i anadlu. Mae gan wefan y Llinell Ddyled Genedlaethol fwy o wybodaeth am y cynllun lle i anadlu.
  • Defnyddiwch gyfrifon banc sy'n eich galluogi i roi arian i un ochr mewn cronfeydd gwahanol. Gall hyn eich stopio rhag gwario'r arian sydd ei angen arnoch ar gyfer rhent neu filiau. Mae gan Money Saving Expert fwy o wybodaeth am apiau bancio gwahanol.
  • Sefydlwch ddebydau uniongyrchol ar gyfer eich biliau a thaliadau rheolaidd eraill fel nad ydynt yn cynyddu. Darllenwch ein gwybodaeth am beth i'w wneud os na allwch chi fforddio talu biliau.

Rheoli arian a bod yn garedig wrthych chi eich hun

Mae'n rhaid fy mod i wedi llunio cannoedd o gyllidebau yn fy mywyd.

Os na allwch chi fforddio biliau neu fwyd

Os na allwch chi fforddio'r pethau sydd eu hangen arnoch, mae help ar gael. Cofiwch, mae gan bawb yr hawl i hanfodion fel bwyd a thai. Os bydd angen cymorth arnoch chi, gall y pethau canlynol helpu:

  • Hawliwch fudd-daliadau i helpu gyda'ch costau byw.
  • Defnyddiwch fanc bwyd lleol.
  • Mae Oergelloedd Cymunedol yn cynnig bwyd am ddim a'r rhan fwyaf o'r amser nid oes angen taleb banc bwyd arnoch i'w defnyddio.
  • Cadarnhewch a ddylech chi fod yn cael gofal cymdeithasol.
  • Os ydych chi ar incwm isel ac mae angen addasu eich cartref oherwydd anabledd, gallwch chi wneud cais am Grant Cyfleusterau i'r Anabl.
  • Siaradwch â'ch cyflenwr ynni. Mae gan y rhan fwyaf o gyflenwyr ynni gynlluniau ar gyfer pobl sy'n cael trafferth talu eu biliau.
  • Mae'r elusen anabledd Scope yn rhedeg gwasanaeth cyngor ynni lle y gall roi cyngor i chi ar reoli biliau ynni a newid cyflenwyr.
  • Mae gan Ofgem wybodaeth am gael help os na allwch chi fforddio eich biliau ynni.
  • Mae gan rai cynghorau gynllun cymorth lleol. Gallwch chi wneud cais ar gyfer y cynllun hwn os ydych chi ar incwm isel ac mae angen help arnoch chi gyda chost frys na allwch chi ei fforddio

Roeddwn i'n teimlo cywilydd am y ffordd y byddai pobl eraill yn fy ngweld petaen nhw'n meddwl nad oeddwn i'n sefydlog yn ariannol. Peidiwch â theimlo cywilydd. Mewn cymdeithas, dydyn ni ddim yn cael ein haddysgu'n dda mewn perthynas â rheoli arian.

Cynllunio ymlaen llaw rhag ofn y byddwch chi'n mynd yn fwy sâl

Gall fod yn ddefnyddiol llunio cynllun ar gyfer beth fydd yn digwydd i'ch arian os byddwch chi'n mynd yn fwy sâl. Er enghraifft, os bydd angen i chi fynd i'r ysbyty neu os bydd angen rhywun arall i wneud penderfyniadau am arian ar eich rhan. Gallai cael cynllun wneud i chi deimlo'n fwy sicr a bod mwy o reolaeth gennych. Dyma rai pethau y gallech chi eu gwneud i gynllunio ymlaen llaw:

  • Gall cyfrifianellau cyllidebu a chynilo eich helpu i gadw llygad ar eich gwariant. Neu gallent eich helpu i arbed arian rhag ofn y bydd rhywbeth yn digwydd yn y dyfodol, fel gorfod mynd i'r ysbyty. Defnyddiwch un o'r cyfrifianellau hyn o wefan Helpwr Arian.
  • Gallwch chi roi rheolaeth gyfreithiol o'ch arian i rywun arall, rhag ofn na fyddwch chi'n gallu gwneud penderfyniadau yn y dyfodol. Mae hyn yn cael ei alw'n atwrneiaeth arhosol.
  • Gwnewch restr o'r holl bethau hanfodol rydych chi'n gwario arian arnyn nhw bob mis. Gallai hyn fod yn bethau fel taliadau rhent neu forgais, biliau ynni, biliau ffôn a siopa am fwyd. Hefyd, gwnewch restr o unrhyw fudd-daliadau neu grantiau rydych chi'n eu cael.
  • Mae gan Rethink Mental Illness daflen ffeithiau am reoli eich arian os byddwch chi'n mynd i'r ysbyty.

Dw i wedi bod yn meddwl am ble y gallwn i arbed arian. Roedd edrych ymlaen at yr adeg pan fyddai fy alldaliadau yn gostwng yn fy helpu i ganolbwyntio ar ddyfodol posibl.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon fis Awst 2021. Byddwn yn ei diwygio yn 2024.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

arrow_upwardYn ôl i'r brig