Beth sydd ei angen arnon ni i greu Cymru hapus ac iach?
Fis Chwefror 2024, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei drafft newydd o’r Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol.
Dyma foment bwysig i adnewyddu gofal a chymorth yn y maes iechyd meddwl yng Nghymru, a hynny am y tro cyntaf mewn 12 mlynedd.
Mewn adolygiad annibynnol o’r strategaeth flaenorol, Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, canmolwyd ei chyfeiriad. Ond gan fod llawer o’r un problemau’n cael sylw yn y strategaeth newydd, mae’n dangos nad oes cynnydd cystal â’r disgwyl wedi’i wneud.
Gan hynny, mae angen rhagor o fanylion arnon ni ynghylch sut y bydd y strategaeth newydd yn cael ei rhoi ar waith a’i monitro. Ac ystyried yr hinsawdd ariannol presennol, mae’n arbennig o bwysig bod pob buddsoddiad yn arwain at yr effaith fwyaf bosibl.
Mae llawer o’r strategaeth ddrafft iechyd meddwl yn gadarnhaol. Er enghraifft:
- Mae’n mynd i’r afael â’r ffactorau cymdeithasol sy’n effeithio ar iechyd meddwl ac sy’n cyfrannu at anghydraddoldeb
- Mae’n parhau i herio stigma ynghylch iechyd meddwl
- Mae’n gwella ansawdd gofal a’r broses o gynllunio triniaethau, ynghyd â chyfraniad pobl at hynny
- Mae’n gwella sut y bydd pobl ifanc yn pontio o wasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed i wasanaethau iechyd meddwl oedolion.
Serch hynny, mae angen mwy o ffocws, mwy o flaenoriaethu a mwy o weithredu mewn rhai meysydd.
Cefnogi plant a phobl ifanc
Mae angen gweledigaeth glir yn y strategaeth ar gyfer system iechyd meddwl plant a phobl ifanc.
Dull gwrth-hiliol o weithio
Rhaid i'r strategaeth gynnwys camau i sicrhau dull gwrth-hiliol yn ei chynlluniau cyflawni.
Data
Rhaid i holl fyrddau iechyd Cymru gasglu data ar gyfer Set Ddata Iechyd Meddwl Graidd.
Cefnogi plant a phobl ifanc
Mae tua 1 ym mhob 6 o blant a phobl ifanc yng Nghymru yn byw gyda phroblem iechyd meddwl y gellir rhoi diagnosis iddi.
Rhaid i Lywodraeth Cymru ddiffinio’n glir y weledigaeth, yr egwyddorion a’r amcanion ar gyfer plant a phobl ifanc yn y strategaeth a’r cynlluniau cyflawni.
Dylai’r strategaeth wneud y canlynol:
- Cynnwys gweledigaeth benodol sy’n dangos sut fath o system fydd yr holl system iechyd meddwl i blant a phobl ifanc.
- Enwi plant a phobl ifanc fel grŵp blaenoriaeth penodol ar gyfer datblygu strategol.
- Cynnwys camau gweithredu i wella profiadau pobl ifanc sy’n symud rhwng gwasanaethau pobl ifanc a gwasanaethau oedolion, a hynny fel rhan hollbwysig o’r cynllun cyflawni cyntaf.
Dull gwrth-hiliol o weithio
Rhaid i’r strategaeth a’r cynlluniau cyflawni gynnwys camau gweithredu clir i wreiddio dull gwrth-hiliol o weithio. Er bod yr ymrwymiad i wneud hyn i’w groesawu, mae siwrnai hir eto i’w throedio er mwyn sicrhau bod gennyn ni ofal iechyd meddwl sy’n wirioneddol wrth-hiliol yng Nghymru. I gyflawni hyn, rhaid i ni gydnabod sut y mae’r system bresennol wedi methu â chyflawni dros gymunedau hil-ddiffiniedig, a rhaid cydweithio i greu gwasanaethau sy’n fwy ymatebol i ddiwylliannau, gan ddechrau o’r cyrion.
Dylai’r strategaeth wneud y canlynol:
- Yn ei chynlluniau cyflawni, cynnwys adran benodol ac ynddi gamau gweithredu ar gyfer cryfhau’r dull gwrth-hiliol o weithio.
- Ymrwymo i ddatblygu Fframwaith Cydraddoldeb Hil gorfodol ar gyfer Cleifion a Gofalwyr, er mwyn rhoi ffocws a llywio camau gweithredu i wella cydraddoldeb hiliol yn y gwasanaethau a ddarperir ac yn y profiadau a gaiff pobl.
- Cynnwys egwyddor ychwanegol ar gyfer cael gwybodaeth am amrywiaeth eang o brofiadau bywyd ac ar gyfer ymwneud â’r profiadau hynny.
Data
Mae angen y data cywir i fynd ati’n effeithiol i ddatrys anghydraddoldebau yn y system iechyd meddwl. Heb y data hynny, mae’n fwy anodd canfod anghydraddoldebau mewn gwasanaethau, a gall hynny gyfyngu ar allu’r bobl sydd wir angen gofal i’w gael.
Dylai’r strategaeth wneud y canlynol:
- Cyd-fynd ag ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i’w gwneud hi’n orfodol i holl Fyrddau Iechyd Cymru gasglu data ar gyfer Set Ddata Iechyd Meddwl Graidd.
- Ymrwymo i gyhoeddi a dadansoddi data’n rheolaidd er mwyn dangos cynnydd ac effeithiolrwydd y strategaeth.
- Ymrwymo i gyhoeddi data am amseroedd aros a thargedau, a’u hadolygu i’w cwtogi dros amser, gan roi diweddariadau yng nghynlluniau’r dyfodol.
Mynd i’r afael â stigma
Er y bu cynnydd sylweddol wrth fynd i’r afael â stigma dros y 10 mlynedd ddiwethaf, rydyn ni’n gwybod bod llawer o waith o hyd i’w wneud, yn enwedig o ran salwch difrifol a pharhaus ac wrth weithio gyda chymunedau amrywiol. Mae gwaith Amser i Newid Cymru yn hyn o beth wedi bod yn amhrisiadwy.
Dylai’r strategaeth wneud y canlynol:
- Cyd-fynd ag ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i ariannu Amser i Newid Cymru y tu hwnt i ddiwedd mis Mawrth 2025.
Cydnabod rôl y sector gwirfoddol
Mae’r tirlun iechyd meddwl wedi newid yn sylweddol dros y 10 mlynedd ddiwethaf, ac yn enwedig ers y pandemig, wrth i anghenion iechyd meddwl newid a dod yn fwy cymhleth. Dros y flwyddyn ddiwethaf yn unig (23/24), mae Mind mewn ardaloedd lleol wedi gweld cynnydd o 27% mewn atgyfeiriadau.
Serch hynny, mae llawer o waith sefydliadau cymunedol yn wirfoddol, gydag opsiynau cyllido cyfyngedig. Dylai’r strategaeth ymrwymo i ariannu amrywiaeth ehangach o sefydliadau gwirfoddol a chymunedol.
Dylai’r strategaeth wneud y canlynol:
- Cydnabod yn well rôl y sector gwirfoddol yn y maes iechyd meddwl wrth gefnogi’r rheini sydd ag anghenion, a dangos sut y bydd y sector hwnnw’n cael ei ariannu a’i gefnogi.
Cyd-fynd ag ailgyflwyno cyllid cenedlaethol Adran 64 i ysgogi arloesi drwy roi cymorth i’r sector gwirfoddol y gellir ei gynyddu drwy drefniadau comisiynu’r Bwrdd Iechyd lleol. - Amlygu rôl y sector gwirfoddol wrth ddangos profiadau bywyd, datblygu atebion, a chadw golwg ar bob lefel.
Eich straeon chi
“Gyda llaw ar fy nghalon, gallaf ddweud bod fy Mind lleol wedi fy nghadw i’n fyw, ond yn fwy na hynny, wedi fy nghadw i’n fyw ac yn fy nghartref gyda fy mhlant.”
“Ar hyn o bryd, byddwn i’n dweud nad yw’r cymorth yn bodoli, ac mae hyn yn fy mhryderu, gan fod cynifer o bobl ifanc yn ei chael hi’n anodd ymdopi.”
Amser i Newid Cymru yw’r ymgyrch genedlaethol gyntaf sy’n ceisio rhoi diwedd ar y stigma a’r gwahaniaethu sy’n wynebu pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl.
Yn ganolog i’n holl waith yn Mind Cymru, mae lleisiau pobl Cymru sydd â phrofiad bywyd o iechyd meddwl a’r system iechyd meddwl.
Rydyn ni wedi cyhoeddi amryw o adroddiadau ac mae ein hymateb a’n hargymhellion wedi’u seilio ar y rheini i gyd.
Rydyn ni hefyd wedi gweithio gyda’n rhwydwaith Mind yn lleol, er mwyn deall yn well y profiad o ddarparu cymorth iechyd meddwl o safbwynt y sector iechyd meddwl gwirfoddol. Mae’r ymateb terfynol wedi’i lofnodi ar y cyd gan 12 o ganghennau lleol Mind.
Yn olaf, wrth baratoi ein hymateb, fe gynhalion ni grwpiau ffocws ac arolwg, a thrwy hynny rhannodd dros 400 o bobl eu barn a’u profiadau.