Adroddiadau Mind Cymru
Adroddiadau Mind Cymru ar faterion iechyd meddwl yng Nghymru.
Mae iechyd meddwl yn hollbwysig: etholiad Senedd 2026
Mae gan bwy bynnag sy'n ffurfio Llywodraeth nesaf Cymru ddyletswydd i wneud iechyd meddwl y genedl yn flaenoriaeth.
Mae'r ddogfen hon yn tynnu sylw at bedwar argymhelliad allweddol, er mwyn creu Cymru lle mae gan bawb y cyfle i ffynnu.
Yr Adroddiad Iechyd Meddwl Mawr 2025
Mae Adroddiad Iechyd Meddwl Mawr Mind yn rhoi trosolwg blynyddol o ddata a mewnwelediadau sy'n ymwneud ag iechyd meddwl yng Nghymru a Lloegr.
Mae'r ddogfen hon yn dadansoddi'r cyflwr iechyd meddwl yng Nghymru, a'n hargymhellion ar gyfer gwella.
Byw ar yr Ymyl: Tlodi ac Iechyd Meddwl yng Nghymru
Mae'r straen y mae tlodi'n ei achosi yn gallu gwaethygu problemau iechyd meddwl, ac mae iechyd meddwl gwael yn gallu gwneud hi'n anoddach dianc rhag tlodi.
Mae'r adroddiad hwn yn egluro beth sydd ei angen i wella'r system i bobl sy'n profi tlodi neu sydd mewn perygl o dlodi.
Y Canol Coll
Mae’r 'canol coll’ yn cyfeirio at y bwlch yn y ddarpariaeth o wasanaethau iechyd meddwl ar gyfer pobl ifanc sydd ag anghenion sy’n syrthio rhwng gwasanaethau cyffredinol a chymorth arbenigol.
Mae'r adroddiad hwn yn amlinellu effaith y diffyg cymorth hwn ar bobl ifanc a'n hargymhellion i Lywodraeth Cymru.
CIMC: Blaenoriaethau i Lywodraeth nesaf Cymru
I sicrhau'r gofal gorau posibl i bawb yng Nghymru, rhaid i bartneriaid, gan gynnwys y trydydd sector a chyrff statudol, gydweithio. Mae’r ddogfen hon yn cyflwyno 9 blaenoriaeth ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru gan Gynghrair Iechyd Meddwl Cymru (CIMC); grŵp o 8 elusen sy’n gweithio ar iechyd meddwl, hunanladdiad a hunan-niweidio.
Strategaeth iechyd meddwl newydd i Gymru
Yn 2023 buom yn siarad â thua 400 o bobl i ofyn beth yw eu blaenoriaethau ar gyfer strategaeth iechyd meddwl nesaf Llywodraeth Cymru, a fydd yn cael ei chyhoeddi yn 2024. Mae’r adroddiad hwn yn archwilio pa gamau y mae angen i ni eu gweld gan y llywodraeth yn y strategaeth newydd am Gymru hapus ac iach.
Codi Safon gofal cleifion mewnol iechyd meddwl
Mae’r adroddiad hwn yn archwilio profiadau pobl mewn mannau cleifion mewnol yng Nghymru. Mae’n codi pryderon ac argymhellion ynghylch gofal a diogelwch cleifion, y defnydd o ddulliau cyfyngol, a chasglu data.
Ailadeiladu Meddyliau ar ôl strôc
Mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Strôc, buom yn gweithio gyda goroeswyr strôc i ddeall bylchau mewn cymorth iechyd meddwl. Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi eu profiadau ac yn cynnig argymhellion i Lywodraeth Cymru a’r GIG.
Gwella hawliau pobl o ran iechyd meddwl
Mae’r Mesur Iechyd Meddwl yn ddarn o ddeddfwriaeth sy’n canolbwyntio ar wella hawliau pobl i gael cymorth iechyd meddwl. Hawliau fel cael mynediad at driniaeth, ac eiriolaeth yn yr ysbyty. Mae’r adroddiad hwn yn edrych ar yr effeithiau y mae’r Mesur wedi’u cael. A beth arall y gellir ei wneud.
Amseroedd aros am therapi
Mae miloedd o bobl ledled Cymru yn aros yn hirach na'r targed o 26 wythnos i gael therapi seicolegol arbenigol. Mae cannoedd o bobl yn aros am fwy na flwyddyn.
Mae’r adroddiad hwn yn edrych ar sut y gall Llywodraeth Cymru wella dewis, cynyddu capasiti a lleihau amseroedd aros.
Effeithiau'r pandemig ar iechyd meddwl
Trwy ein hymchwil yn 2020, dywedodd mwy na 800 o bobl wrthym sut yr effeithiodd y pandemig ar eu hiechyd meddwl.
Mae'r adroddiad hwn yn archwilio profiadau'r bobl hynny.
Ymchwil ar effaith coronafeirws
Mae'r pandemig coronafeirws wedi gwaethygu'r anghydraddoldebau iechyd meddwl presennol.
Mae’r adroddiad hwn yn edrych ar yr effaith y mae coronafeirws wedi’i chael ar iechyd meddwl, yn enwedig ar gymunedau agored i niwed.
Ymgyrchoedd
Rydyn ni'n ymgyrchu i gael bargen well i'r rhai ohonom yng Nghymru sydd â phroblemau iechyd meddwl. Darganfyddwch fwy.
Byddwch yn ymgyrchydd
Mae ein hymgyrchwyr yn siarad am y problemau go iawn sy'n effeithio ar bobl â phroblemau iechyd meddwl.
Mind Cymru
Gyda'n rhwydwaith o 20 grŵp Mind lleol, ni yw'r brif elusen iechyd meddwl yng Nghymru. Darganfyddwch fwy.