Aelodau Pwyllgor
Mae Mind Cymru yn cael ei lywodraethu gan Bwyllgor, pwyllgor o wirfoddolwyr sy'n helpu i lunio ein cyfeiriad a sicrhau ein bod ar y trywydd iawn. Darllenwch am aelodau ein pwyllgor ar y dudalen hon.
Pwyllgor members
Emrys Elias
Cadair
Yn wreiddiol yn nyrs iechyd meddwl, mae Emrys wedi gweithio ym maes polisi iechyd meddwl, comisiynu a darparu gwasanaethau, yn cynnwys fel cyfarwyddwr Uned Gyflwyno yn y GIC. Mae Emrys wedi cyfarwyddo a chydlynu adolygiadau perfformiad cenedlaethol a lleol o wasanaethau iechyd meddwl i oedolion a phlant yng Nghymru, yn cynnwys adolygiadau o gyflwyno gwasanaethau a modelau mynediad at wasanaethau.
Valerie Harrison
Aelod Pwyllgor
Mae Valerie Harrison wedi cael gyrfa hir yn y Gwasanaeth Iechyd fel prif weithredwr ymddiriedolaeth gymunedol ac iechyd meddwl ac ymddiriedolaeth gofal dwys. Mae hefyd wedi gweithio fel ymgynghorydd mewn cwmni ymgynghorol rhyngwladol ac fel cyfarwyddwr ymchwiliadau yn Swyddfa’r Ombwdsmon Seneddol a’r Gwasanaeth Iechyd ble roedd yn canolbwyntio ar wasanaethau iechyd meddwl. Am yr wyth mlynedd diwethaf o’i gyrfa roedd yn brif weithredwr elusen eirioli fawr yn cefnogi pobl i gael eu lleisiau wedi’u clywed. Mae wedi dal nifer o swyddi anweithredol yn y Gwasanaeth Iechyd, gan gynnwys mewn Ymddiriedolaeth Iechyd Meddwl ac mewn dau Grŵp Comisiynu Clinigol. Mae’n ymddiriedolwr Cyngor ar Bopeth lleol ac roedd yn gadeirydd Mind lleol ac yn is-gadeirydd Mind Cenedlaethol. Yn ddiweddar, ail ymunodd â Bwrdd cenedlaethol Mind.
Tracey Price
Aelod Pwyllgor
Mae Tracey wedi bod yn Brif Weithredwr ar Mind Sir Benfro ers 2000 a Mind Caerfyrddin ers 2007. Wrth iddi ddechrau ei gyrfa fel nyrs seicolegol dan hyfforddiant, cafodd ei hysgogi i ddod o hyd i ffyrdd eraill o hybu gwelliant pobl â phroblemau iechyd meddwl. Ers hynny mae Tracey wedi gwneud gwaith cymdeithasol mewn ysgolion statudol ac ysgolion preswyl preifat ac yn y sector gwirfoddol gyda'r Groes Goch ac Age Concern Sir Benfro.
Mary Griffiths
Aelod Pwyllgor
Mae Mary Griffiths wedi bod yn Gyd-Brif Swyddog Gweithredol Mind Canolbarth a Gogledd Powys ers naw mlynedd. Mae hi wedi gweithio ym maes darparu gwasanaethau iechyd meddwl rheng flaen ers blynyddoedd lawer, wedi cyflawni swyddi rheoli mewn elusen anabledd dysgu a bu hefyd yn gweithio i Lywodraeth Cymru a’r CGS lleol. Mae Mary yn angerddol am iechyd meddwl, y rhwydwaith Mind lleol, darparu gwasanaethau sy’n ystyriol o drawma ac yn ei hamser hamdden, mae hi wrth ei bodd yn treulio amser gyda’i theulu a bod yn yr awyr agored.
Elin Roberts
Aelod Pwyllgor
Mae gan Elin gefndir mewn gwleidyddiaeth a chyfathrebu strategol. Ar ôl gweithio yn Nhŷ’r Cyffredin am nifer o flynyddoedd, mae hi nawr yn gweithio fel Clerc i’r Bwrdd Gweithredol yn y Senedd. Mae hi’n siaradwr Cymraeg iaith gyntaf ac yn frwd dros sicrhau bod pawb yn gallu cael cymorth iechyd meddwl o safon yn eu dewis iaith. Mae Elin yn gerddor brwd ac yn ei hamser hamdden mae’n mwynhau canu’r piano a’r ffliwt, darllen a phobi.
Sara Moseley
Aelod Pwyllgor
Mae Sara yn eiriolwr angerddol dros gymorth mwy tosturiol, mwy gwybodus a thecach ar gyfer iechyd meddwl ac am ddeall sut y gall amgylchiadau bywyd effeithio ar iechyd a lles. Yn Aelod Annibynnol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, mae’n gyn-gyfarwyddwr Gweithredol Mind Cymru a Phrif Swyddog Gweithredol Menter Canser Moondance. Mae ei chefndir proffesiynol ym maes cyfathrebu ac ymgysylltu, gan gynnwys ar lefel Cyfarwyddwr ar gyfer Llywodraeth Cymru a’r GIG yn Llundain. Magwyd Sara yn Aberystwyth a chafodd ei magu a’i haddysgu yn y Gymraeg. Mae ganddi ferch a mab, sy'n fyddar ac yn astudio meddygaeth. Mae ei pharch dwfn at Mind Cymru, y rhwydwaith o grwpiau Mind lleol yng Nghymru a’r holl bobl y maent yn eu cefnogi ac yn gweithio gyda nhw yn golygu ei bod wrth ei bodd yn gallu bod yn rhan o Bwyllgor Cymru.
Phill Chick
Aelod Pwyllgor
Hyfforddodd Phill fel gweithiwr cymdeithasol yn arbenigo mewn gofal plant ac iechyd meddwl. Mae ganddo 40 mlynedd o brofiad o weithio ym maes gwasanaethau cyhoeddus mewn awdurdodau lleol, y GIG a Llywodraeth Cymru. Fe'i penodwyd yn Gyfarwyddwr Cenedlaethol cyntaf Iechyd Meddwl Cymru. Mae ganddo brofiad o gynllunio, comisiynu, rheoli a darparu gwasanaethau iechyd meddwl. Mae ganddo hefyd brofiad sylweddol fel Ymddiriedolwr ar ôl gwasanaethu Bwrdd Cymdeithas Plant Dewi Sant am naw mlynedd ac mae’n parhau i’w wneud fel Cadeirydd.
Dr Stephen Barrattshaw
Aelod Pwyllgor
Mae Dr Stephen Barrattshaw yn seiciatrydd ymgynghorol tosturiol gyda phrofiad sy’n cwmpasu lleoliadau cleifion mewnol a chymunedol ac mae’n dod â chymysgedd prin o fewnwelediad clinigol rheng flaen, arweinyddiaeth academaidd, a phrofiad bywyd i’w waith mewn iechyd meddwl. Ef yw Cyfarwyddwr y Rhaglen Hyfforddiant Seiciatreg Graidd yng Ngogledd a Gorllewin Cymru gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC). Mae ei gefndir arweinyddiaeth yn cynnwys rolau yn y gorffennol fel Cyfarwyddwr Clinigol ar iechyd meddwl acíwt ar gyfer Bwrdd Iechyd Cymreig a Chyfarwyddwr Addysg Feddygol Ôl-raddedig ar gyfer un o’r Ymddiriedolaeth GIG iechyd meddwl mwyaf yn Lloegr. Mae wedi ysbrydoli a hyfforddi gweithwyr proffesiynol gofal iechyd y dyfodol ledled De Cymru, fel darlithydd clinigol yn Ysgol Feddygol Prifysgol Caerdydd ac fel arweinydd seiciatreg ar gyfer y cwrs Cydymaith Meddygol ym Mhrifysgol Abertawe. Mae Dr Barrattshaw yn eiriolwr brwdfrydig dros degwch, urddas, a newid ar draws y system, gan sicrhau bod hyd yn oed y lleisiau sydd fwyaf ar y cyrion yn cael eu clywed. Mae’n falch o ymuno â Mind Cymru a chefnogi ei rôl ganolog mewn llywio dyfodol gofal iechyd meddwl yng Nghymru.
Salah Rasool
Aelod Pwyllgor
Ar ôl dianc rhag y gwrthdaro a’r rhyfel cartref yn Cwrdistan, rhoddwyd lloches i Salah yn y DU yn 2002. Mae Salah yn rhugl mewn Sorani Cwrdaidd a Kurmanji Cwrdaidd, Ffarsi, Arabeg, a Thyrceg, a dechreuodd wirfoddoli gyda Chyngor Ffoaduriaid Cymru yn Abertawe i helpu eraill yn y cymunedau Cwrdaidd a ffoaduriaid. Gwnaeth ei awydd i ddysgu am gyfraith mewnfudo, lles a thai wedi’i gyfuno â’r brwdfrydedd i helpu a grymuso’r rheini mewn angen arwain at ei ddatblygiad o weithio mewn derbynfa i fod yn weithiwr achos, ac o fod yn rheolwr gwasanaeth i’w rôl bresennol fel Pennaeth Gwasanaeth. Yma mae’n hyrwyddo gwella a datblygu gwasanaethau - yn enwedig o gwmpas cyflogaeth a chydlyniant cymunedol, gan eirioli dros newid systematig, a datblygu partneriaethau. Bu’n gadeirydd ar Glymblaid Ffoaduriaid Cymru am ddwy flynedd yn olynol, yn 2022 a 2023. Y tu allan i’r gwaith, mae yr un mor weithredol - mae’n rhedeg Cymdeithas Cwrdaidd Cymru Gyfan, ac ysgol, chwaraeon, a gweithgareddau cymdeithasol Cwrdaidd. Mae’n aelod o grŵp llywio Clore Social Leaders Cymru - i ddatblygu cyrsiau ac arweinwyr cymunedol yng Nghymru yn y dyfodol. Mae hefyd yn Aelod o’r Grŵp Cynghori Annibynnol ar Gyfer Heddlu De Cymru.
Dr Asma Khan
Aelod Pwyllgor
Mae Dr Asma Shahin Khan yn ymchwilydd gwyddorau cymdeithasol sy’n canolbwyntio ar anghydraddoldebau moesol a chrefyddol mewn iechyd, a’r farchnad lafur. Mae ei gwaith blaenorol yn cynnwys arwain ar ddatblygiad y cwrs RCPsych achrededig ‘Deall Iechyd Meddwl mewn Cymunedau Mwslimiaid’ yn y Ganolfan Astudiaethau Islam yn y DU ym Mhrifysgol Caerdydd. Ar hyn o bryd, mae Asma’n gweithio yn Health Data Research UK, yn gwerthuso mentrau sy’n anelu at wella cyfranogiad y cyhoedd mewn ymchwil ‘data mawr’. Mae Asma’n mwynhau gweithio gyda chymunedau a sefydliadau trydydd sector i gynnal ymchwil a gynhyrchir ar y cyd sy’n helpu pobl i fyw bywydau iach, hapus a chynhyrchiol.
Dr Mohammad Alhadj Ali
Aelod Pwyllgor
Mae Dr Mohammad Alhadj Ali yn Feddyg Ymgynghorol yn Ysbyty Prifysgol Cymru ac yn Uwch Ddarlithydd yn Ysgol Feddygol Prifysgol Caerdydd. Cwblhaodd ei PhD mewn imiwnotherapi ar gyfer Diabetes Math 1 ym Mhrifysgol Bryste ac ers hynny mae wedi arwain nifer o dreialon clinigol ac wedi cyfrannu atynt, yn amrywio o Gam 1 i Gam 3, gan ganolbwyntio ar therapïau arloesol ar gyfer diabetes. Mae ei ragoriaeth academaidd wedi’i gydnabod drwy nifer o wobrwyon clodfawr gan gynnwys y wobr hyfforddiant glodfawr gan Gymdeithas Diabetolegwyr Clinigol Prydain yn 2018. Mae’n addysgwr ac yn llefarydd meddygol ymrwymedig, ac mae wedi addysgu cyrsiau datblygiad proffesiynol parhaus yn genedlaethol a rhyngwladol. Cyd-sefydlodd a chadeiriodd y Fforwm Diabetolegwyr ac Endocrinolegwyr Ifanc yng Nghymru ac mae’n aelod o fwrdd golygyddol yr European Journal of Diabetes. Y tu hwnt i’r rolau clinigol ac academaidd, mae Dr Alhadj Ali yn ymwneud yn fawr â gwaith cyhoeddus ac elusennol. Sefydlodd Gymdeithas Syriaid Cymru i gefnogi ffoaduriaid o Syria yng Nghymru, mae’n ymddiriedolwr i Hand in Hand for Aid and Development (HIHFAD) ac mae’n Gadeirydd ar Gyngor Ffoaduriaid Cymru a’r Syrian Charities and Associations Network yn y DU (SCAN UK). Mae ei waith yn parhau i ganolbwyntio ar hyrwyddo iechyd corfforol a meddwl ymysg ffoaduriaid a chymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol, meithrin prosiectau cymunedol cynhwysol, a hyrwyddo symudedd cymdeithasol ledled Cymru.