Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd - 10 Hydref 2022
Ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd eleni, rydyn ni’n defnyddio geiriau llafar i ddangos y gwahanol ffyrdd y mae pobl yn siarad am eu profiadau, gyda’n hymgyrch ymwybyddiaeth, ‘Os yw hyn yn berthnasol i chi, siaradwch â ni’.
Stori Gethin, wedi'i llefaru gan Adwaith
Stori Haleem, wedi'i llefaru gan Lola
Stori Rohan, wedi'i llefaru gan Jords
Stori Mel, wedi'i llefaru gan James
Os yw hyn yn berthnasol i chi, siaradwch â Mind
Weithiau, mae hi’n anodd dod o hyd i’r geiriau i ddweud sut rydyn ni’n teimlo. Weithiau, mae fel siarad iaith arall – iaith nad oes neb arall yn ei deall.
Ond rydyn ni’n deall.
Dyna pam, ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd eleni, rydyn ni’n dangos y gwahanol ffyrdd mae pobl yn siarad am eu profiadau.
Maen nhw’n fy ngharu i ond doedden nhw ddim yn deall. Dweud celwydd fyddai dweud mod i ddim yn cael pethau’n anodd.
Siaradwch â ni
Eisiau cymorth iechyd meddwl? Ffoniwch ein llinell wybodaeth gyfrinachol i siarad ag ymgynghorydd cyfeillgar, neu edrychwch ar ein tudalennau gwybodaeth.
Ein cymunedau ar-lein
Mae Ochr-yn-Ochr yn gymuned ar-lein gefnogol lle gallwch deimlo’n gartrefol wrth siarad am eich iechyd meddwl a chysylltu â phobl eraill sy’n deall beth rydych chi’n mynd drwyddo.
Cefnogaeth ar gael yn lleol
Mae gwasanaethau Mind Lleol yn elusennau annibynnol sy’n gweithio ledled Cymru a Lloegr. Maent yn darparu gwasanaethau sydd wedi’u teilwra i’w cymuned leol.
Pan fydd mam a dad wedi mynd allan, a dim byd ar ôl i dynnu fy sylw, dyna pryd mae’r meddyliau yn fy mhen yn creu twrw, nes na allaf anwybyddu’r meddyliau hynny ddim mwy.
Byddwch y rheswm pam mae rhywun yn troi am gymorth
Mae angen cefnogaeth ar bob un ohonom ar ein siwrne iechyd meddwl. Ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd eleni, gallwch helpu i wneud hynny’n bosibl. Lawrlwythwch ein deunyddiau ar gyfer Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd, a rhowch wybod i’ch ffrindiau a’ch teulu: “Os yw hyn yn berthnasol i chi, siaradwch â Mind”.
Lawrlwytho ein deunyddiau ar gyfer Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd
Bod yn ymgyrchydd
Gweithiwch gyda ni er mwyn ymgyrchu ar ran pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl.
Codi arian
O rodd fisol i redeg marathon, mae cymaint o wahanol ffyrdd o wneud gwahaniaeth.
Doeddwn i ddim eisiau bod yma, doeddwn i ddim yn gallu meddwl am reswm. Nes i mi ddod o hyd i reswm.
Creu’r ffilmiau
Dysgwch fwy am greu ein ffilmiau ar gyfer ‘Os yw hyn yn berthnasol i chi, siaradwch â ni’. Darllenwch fwy am straeon Mel a Rohan a sut beth oedd gweithio gyda Jords a James. A chlywed gan Jords a James pam eu bod wedi cymryd rhan a sut brofiad oedd hynny iddyn nhw.