Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Sut wnaeth hunan-gymorth â chefnogaeth fy helpu i ddod yn hyrwyddwr fy hunan

Dydd Iau, 21 Gorffennaf 2022 Cassie

Mae Cassie yn esbonio sut wnaeth mynediad i Hunan-gymorth â chefnogaeth, gyda chymorth Mind Torfaen, ei helpu i gael ei hunan-barch yn ôl.

Mae hunan-gymorth â chefnogaeth ar gael i unrhywun dros 18 oed yng Nghymru. Mae'n rhad ac am ddim, ac wedi'i gynllunio i'ch helpu i ddeall a rheoli eich teimladau. Dysgwch fwy a chofrestrwch yma.

Roeddwn yn meddwl fod hunan gasineb yn normal. Mae pawb yn deffro pob dydd ac yn edrych yn y drych ac yn meddwl ‘ie, rwy’n casáu'r darn yna amdanaf’, iawn? Mae’n siŵr, pob tro mae rhywun yn cael cip ar eu hadlewyrchiad, maen nhw’n meddwl am filiwn o resymau pan ddylen nhw gasáu eu hunain? Mae'n siŵr, pob tro mae rhywun arall yn edrych arnoch eu bod nhw hefyd yn meddwl y pethau hyn?

Roedd fy ymennydd wedi’i llenwi cymaint gyda’r meddyliau hyn nes eu bod wedi’u gwreiddio yn fy meddwl pob dydd. Doedd yr un diwrnod yn mynd heibio pan nad oeddwn i’n meddwl am o leiaf un peth negyddol amdanaf fy hunan. Roedd y rhain yn cael eu cadarnhau’n barhaus gan y sawl o’m cwmpas. Roedd pob beirniadaeth yn chwalu fy meddwl toredig gan wneud y darnau hyd yn oed yn llai. Dim ond darn bach pob hyn a hyn nes y daeth fy meddwl mor fregus mi dorrodd.

"Doedd gen i ddim syniad ble i ddechrau, felly anwybyddais e."

Pan oeddwn i’n gweld rhywun arall ychydig yn doredig, ar unwaith roeddwn yn teimlo'n gyfrifol. Roeddwn yn arllwys pob owns o egni oedd gen i i helpu pobl eraill; i ddatrys problemau y gallen nhw fod wedi’u datrys eu hunain. Doeddwn i ddim eisiau canolbwyntio arna  i fy hun, roedd yn ormod o dasg. Doedd gen i ddim syniad ble i ddechrau, felly anwybyddais e.

Yna, digwyddodd rhywbeth. Camais i fyny pan nad oedd neb arall yn fodlon.  Fe wnes i bopeth, fe newidiais i bopeth, rhois i’r gorau i bopeth ac mi oeddwn yn falch ohonof fy hunan. Roeddwn yn gwybod fy mod wedi gwneud beth oedd yn iawn ac mi wyddwn y dylwn fod yn falch ohonof fy hunan, ond doeddwn i ddim yn gallu. Pob tro yr oeddwn yn ceisio rhoi clod i fi fy hun, roeddwn yn teimlo fy mod wedi fy sarnu gyda’r holl hunan amheuaeth a’r hunan casineb sydd wedi bod yno gydol fy oes.  Dyna pryd y sylweddolais efallai fy mod i angen help.

Felly, dyna pryd y dechreuais ar Hunan-gymorth â chefnogaeth. Pan ofynnwyd i mi ddewis un cwrs allan o chwech, roeddwn i’n teimlo mai gyda hunan barch oeddwn angen yr help mwyaf.  Wrth gwblhau’r holiadur cychwynnol, gallwn glywed y meddyliau negyddol yn cael eu torri mewn i’r papur. Dydw i ddim yn cofio’r cwestiynau’n iawn, ond rwy’n cofio fy ymatebion yr holl amser, y rhan fwyaf o'r amser, yr holl amser, ac ymlaen ac ymlaen yr aeth. Roedd fel petai fy mod yn clywed fy hun am y tro cyntaf a dechreuais amau ‘pam wyt ti’n credu hynny?’. Mae gen i ŵr cariadus, dau fachgen anhygoel, ffrindiau a theulu anhygoel a swydd rwy’n ei charu. Roedd fel petawn i’n deffro, fel fy mod rhyw fodd wedi bod mewn breuddwyd ac yn methu â gweld y gwir. Am y tro cyntaf meddyliais nad oedd yn bosibl fod yr holl bethau negyddol yn gallu bod yn wir gyda chymaint o bobl yn fy mywyd sy’n fy ngharu am bwy ydwyf.

"Yr unig berson nad oedd yn fy ngharu am bwy ydwyf, yw fi."

Yn araf deg, helpodd Hunan-gymorth â chefnogaeth i mi ddechrau gweld nad oedd fy meddwl wedi'i dorri'n llwyr. Dim ond cwmwl trwchus o lwch oedd yna nad oeddwn yn gallu gweld trwyddo. Defnyddiais yr awgrymiadau a’r strategaethau yr oeddwn wedi’u dysgu i glirio’r llwch ac fe oeddwn yn gallu gweld y darnau sylfaenol o bwy ydwyf. Rwy'n dosturiol, weithiau i’r eithaf, rwy’n caru’n ddwfn ac yn gyfnewid rwy’n cael fy ngharu’n enfawr. Yr unig berson nad oedd yn fy ngharu am bwy ydwyf, yw fi.

Yn hytrach na chanolbwyntio fy egni i drwsio’r rhai nad oedd eisiau fy help, canolbwyntiais fy egni arna i fy hun. Dechreuais edrych yn y drych a meddwl am y pethau y gallaf fod yn falch ohonynt, y dylwn i fod yn falch ohonynt. Cymerodd hyn amser. Yn aml, byddwn yn edrych yn y drych ac yn meddwl am y pethau yr oeddwn i’n falch ohonynt mewn eraill, ond yn methu wedyn â chanolbwyntio arna i fy hun. Gyda chymorth Mind a’r person a oedd yn siarad gyda fi yn ystod fy holl sesiynau, yn araf bach dechreuais feistroli’r sgil hwn. Po fwyaf yr oeddwn yn ei wneud yr hawsaf y daeth.

Roeddwn i’n caniatáu ychydig o le ar gyfer y pethau negyddol, oherwydd bydd pethau negyddol yno pob amser. Fodd bynnag, roeddwn i’n caniatáu mwy o le ar gyfer y pethau positif. Pan oedd fy meddwl yn crwydro ac yn ceisio mynd yn ôl i'w hen ffyrdd, roedd yn rhaid i mi feddwl yn galed er mwyn ei gadw ar drac. Dros amser roedd hyn yn cymryd llai o waith a dechreuais sylweddoli bod corneli fy ngheg yn codi. Tarodd fi nad oedd teimlo’n hapus yn stad naturiol i mi ers cymaint o amser. Roedd gen i gymaint o bethau yn fy mywyd i fod yn hapus amdanynt, felly daeth fel sioc i mi nad oeddwn yn berson naturiol o hapus. Fodd bynnag, wrth sylweddoli hyn, sylweddolais os oeddwn wedi cyflyru fy hunan i feddwl un ffordd, y gallaf gyflyru fy hunan i feddwl ffordd arall.

"Nid wyf yn berffaith ond does dim rhaid i mi fod yn berffaith."

Fe ddeuais yn hyrwyddwr fy hunan, yn nerthu fy hun i fod yn hapus, i fod yn rhydd o ansicrwydd pobl eraill. Doedd dim angen i mi fod wedi fy nghaethiwo bellach. Mae cymryd balchder yn fy llwyddiant fy hunan yn rhywbeth i’w annog.

Does ddim rhaid i mi edrych yn drych i weld fy hunan. Rwy’n ei deimlo pob dydd. Mae bron iawn fel cwtsh meddal, yn fy atgoffa fy mod gwerth cymaint yn fwy nag yr oeddwn erioed wedi meddwl. Rwy’n cymryd balchder yn y pethau yr oeddwn ar un adeg yn eu beirniadu. Nid yw heneiddio’n foethusrwydd mae pob un yn ei gael. Mae pob rhych ar fy wyneb wedi’i ennill yn dda. Mae’n gymysgedd o amser, harddwch a symudiadau i’w trysori. Mae’n filoedd o atgofion arbennig wedi’u hysgythru i mewn i’m croen i ddangos i’r byd pwy ydwyf a pham y dylwn gael fy nathlu. Mae pob blewyn gwyn yn gyfansoddiad o’r pethau anhygoel rwyf wedi’u cyflawni. Erbyn hyn mae fy enaid yn canu’n ddyddiol (dim ond yn uchel os oes neb yn gwrando oherwydd, yn anffodus, mae fy llais yn swnio fel cathod yn cael eu tagu!). Rwy’n hapus ac rwy'n dawel gyda fi fy hun. Nid wyf yn berffaith ond does dim rhaid i mi fod yn berffaith. Rwy’n gwneud camgymeriadau ond mae pob methiant yn gyfle wrth i mi ddysgu ac rwy’n gwybod erbyn hyn sut i godi i bob her. Rwyf hyd yn oed wedi dechrau ysgrifennu eto ac fe lifodd y geiriau canlynol allan.

Peidiwch â bod yn ofn y nadroedd yn y glaswellt, y rhai sy’n chwydu celwyddau a sibrydion maleisus.

Eu celwyddau gwenwynig yn troi’r gwirionedd onest a’u hunion natur yn tagu’r bywyd ohonoch.

Yn hytrach, cofiwch am yr eryr sy’n codi uwch y cyfan yn gadael y mân ffraeo ar y ddaear yn lledaenu’i adenydd mawreddog ac yn mentro i’r uchelderau na allai’r neidr byth ei gyrraedd.

Ceisiaist mor galed docio fy adenydd i’m cadw ar y ddaear gyda thi ond doedd gen ti mo’r gallu i weld heibio blaen dy dafod poerllyd ond rwy'n rhydd o'th gasineb ac rwy'n rhydd o'th gelwyddau.  Rwyf wedi lledaenu fy adenydd ac rwy’n saethu i fyny.  Yma rwy’n rhydd, ni allaf bellach glywed dy sibrydion gwenwynig.  Nid oes ots gen i bellach os rwyt yn dal i'w chwydu oherwydd nawr rwyt yn ddim, yn gysgod pitw ar y ddaear, ceisiaist yn galed i’m dinistrio ond methaist.

Fi yw’r eryr ac fe fyddaf yn codi’n uwch oherwydd dyna ble rwyf i fod, i fyny fan hyn yn yr awyr yn codi'n fawreddog ac yn rhydd.

 

 

 

 

Information and support

When you’re living with a mental health problem, or supporting someone who is, having access to the right information - about a condition, treatment options, or practical issues - is vital. Visit our information pages to find out more.

 

Share your story with others

Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.

Related stories

arrow_upwardYn ôl i'r brig