Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Pam mae cefnogaeth yn y Gymraeg yn hanfodol

Dydd Llun, 03 Mawrth 2025 Elen

Mae Elen, o Ynys Môn, yn esbonio sut wnaeth mynediad at gymorth yn y Gymraeg ei helpu i ddeall ei hiechyd meddwl.

Haiaaa, Elen ydw i, dwi’n 24 oed ac yn byw yn Abertawe. Yn wreiddiol o Ynys Môn, symudais yma yn 2020 ar gyfer prifysgol ac wedi penderfynu aros ers hynny.

Yn 16 oed nes i ddechrau profi ambell i symptom o iselder a gorbryder. Ar yr adeg, roeddwn yn astudio ar gyfer fy TGAU yn yr ysgol uwchradd, felly roedd hi’n gyfnod eithaf prysur gyda llawer o straen. Roedd hi’n haf heriol, a doeddwn i ddim yn sicr iawn beth oedd y teimladau/meddyliau roeddwn yn ei brofi i ddechrau. Ar yr adeg honno, doedd e ddim yn rhywbeth cyffredin i sgwrsio amdano ac roedd llawer iawn o dabŵ o gwmpas iechyd meddwl.

Yn y diwedd, nes i benderfynu rhannu’r hyn roeddwn i’n ei brofi gyda rhywun, ac yn sicr roedd e’n bwysau enfawr wedi ei dynnu oddi am fy ‘sgwyddau i! Dywedais i wrth fy nghariad ar y pryd cyn derbyn ei anogaeth i fynd i weld meddyg. Dyna pryd ges i fy rhoi ar dabledi antidepressants a dwi wedi bod arnyn nhw ers hynny – fi’n credu ei bod nhw’n help mawr ynghyd a phopeth arall.

Ar ôl y gwyliau haf, dechreuais fy nghyfnod yn y chweched. Er mod i wedi gwneud y cam cyntaf i gael cymorth, roeddwn dal i ddioddef gyda fy iechyd meddwl. Roedd yr athrawon yn yr ysgol yn anhygoel gan fy helpu i gael cymorth yn yr ysgol gan y cwnselydd ysgol. Er bod y rhestr aros yn un hir, gwthiodd nhw i mi gael gweld y cwnselydd cyn gynted â phosib. Roedd y sesiynau cwnsela wythnosol yma mor fuddiol, a dyna pryd y sylweddolais fod siarad am yr hyn sy’n fy nghael i lawr yn rili helpu fi, a hynny ar ôl i mi gadw fo mewn a theimlo cywilydd am mor hir.

Ond dim ots pa mor brysur ydych chi, mae blaenoriaethu eich iechyd meddwl yn allweddol!

Ers hynny, mai wedi bod yn gyfnod hir o ddysgu sut i fyw gydag iselder a gorbryder. Dwi wedi cael sawl cyfnod heriol, yn enwedig os oes newidiadau yn fy mywyd i. Roedd fy nghyfnod yn y brifysgol yn gallu bod yn heriol, dyma’r tro gyntaf i mi fyw o adra ac roedd llawer o bwysau i fynd allan i yfed a chymdeithasu. Sylweddolais bryd hynny, nad oedd fy mherthynas gydag alcohol yn un da iawn… ond stori arall yw hynny! Tra yn y brifysgol cefais sesiynau cwnsela i fy helpu, a dyna pryd y dechreuais i redeg hefyd… ac yn sicr, mae rhedeg wedi newid fy mywyd i…!

Dros yr 8 mlynedd diwethaf dwi wedi sylweddoli pa mor bwysig yw estyn allan a siarad am eich teimladau. Gallwn weld dros y blynyddoedd diwethaf bod trafod ein hiechyd meddwl wedi dod yn rhywbeth mwy arferol o ddydd i ddydd yn enwedig ymysg pobl ifanc – sy’n rili da! Mae gallu bod gymaint o bwysau ar bobl weithiau, gan fod bywyd yn gallu bod yn heriol a phrysur. Ond dim ots pa mor brysur ydych chi, mae blaenoriaethu eich iechyd meddwl yn allweddol!

Fel Cymraes sydd wedi cael ei magu drwy’r Gymraeg mae derbyn cymorth yn y Gymraeg yn bwysig iawn i mi.

Darllenais i bwt ar-lein yn ddiweddar yn dweud gall 12 munud o sgwrs gyda ffrind newid eich diwrnod a’ch meddylfryd chi. Mae hwn yn dangos pŵer siarad ac ymddiried mewn pobl. Cofiwch fod gymaint o gefnogaeth ar gael, ac mae pawb yn ymdrin ag iechyd meddwl yn wahanol, felly mae ffeindio pa ffordd syn helpu chi orau yn hollbwysig – ond cofiwch gall hyn gymryd amser. Dwi wedi gwneud lot o waith ar fy hunan dros y blynyddoedd diwethaf, a dwi’n hynod ymwybodol o fy ‘triggers’ a’r sydd angen arnai.

Dwi’n credu bod derbyn cefnogaeth iechyd meddwl yn eich iaith frodorol yn bwysig iawn. Fel Cymraes sydd wedi cael ei magu drwy’r Gymraeg mae derbyn cymorth yn y Gymraeg yn bwysig iawn i mi. Mae derbyn cymorth yn eich iaith eich hunain yn fwy naturiol – fi’n meddwl yn y Gymraeg, felly byddai ceisio cyfleu fy mhroblemau yn y Saesneg yn cymryd dwywaith yr egni, ac mae trafod eich iechyd meddwl yn gallu bod yn flinedig iawn. Dwi wedi derbyn sesiynau cwnsela yn y ddwy iaith, Cymraeg a Saesneg, a gallaf ddweud doeddwn i ddim yn elwa llawer drwy dderbyn cwnsela yn Saesneg i gymharu â’r Gymraeg – felly mae’n bwysig i ni gael y dewis ym mha iaith ni eisiau'r cymorth.

Mae gwastad golau ar ddiwedd y twnnel.

Erbyn nawr, dwi dal i gal gyfnodau gwael, ond fel y soniais ynghynt yn y blog, dwi’n gallu rheoli fy symptomau yn well ac rwy’ fwy ymwybodol o’r ‘triggers’. Mae rhedeg, ymarfer corff, treulio amser yn yr awyr agored, cymdeithasu a siarad gyda ffrindiau yn fy helpu i. Nid yn unig hynny, mae’n bwysig weithiau i jest gymryd saib. Gall bywyd fod yn ofnadwy o brysur, felly cymerwch saib ac anadlwch.

Os yw popeth yn teimlo’n lot ar hyn o bryd, jest “take it day by day”, ac os yw hynny’n ormod i chi, jest ffocyswch ar y munudau a’r awr nesaf. Mae gwastad golau ar ddiwedd y twnnel.

Information and support

When you’re living with a mental health problem, or supporting someone who is, having access to the right information - about a condition, treatment options, or practical issues - is vital. Visit our information pages to find out more.

 

Share your story with others

Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.

 

Related stories

arrow_upwardYn ôl i'r brig