Pam dwi’n meddwl y dylai dynion siarad mwy am eu hiechyd meddwl
Rhybudd: Mae’r blog hon yn cynnwys cyfeiriadau at hunanladdiad.
Ar ôl profi cyfnodau anodd a cholli ei frawd drwy hunanladdiad, mae Callum yn annog dynion ifanc eraill i siarad yn ystod y Mis Iechyd Dynion hwn.
Mi gollais fy mrawd heb unrhyw arwyddion i ddangos bod rhywbeth yn bod. Mi wnaeth fy llorio. Mi wnaeth imi sylweddoli bod yn rhaid imi siarad â rhywun am fy iechyd meddwl fy hun, ac arweiniodd hynny at ddiagnosis o anhwylder personoliaeth ansefydlog yn emosiynol (EUPD). Roeddwn yn cael help gan fy Meddyg Teulu ac roeddwn yn cael help drwy gwnsela. Ar ôl symud i Gymru o Gaint, doeddwn i ddim yn adnabod llawer o bobl ac roeddwn yn teimlo braidd yn ynysig. Wyddwn i ddim ble i droi ac mi wnes gyrraedd y gwaelodion.
Wedyn, mi es at fy Mind lleol, Mind Aberhonddu a'r Cylch, ac mae wedi gwneud cymaint o wahaniaeth.
Roedd eu cymorth lles yn gam enfawr ymlaen i mi. Rwyf yn teimlo ei fod yn gweithio am fod gennych rywun y gallwch eistedd i lawr gydag ac agor fyny iddynt. Does neb yn eich beirniadu. Does gen i ddim llawer o bobl y gallaf siarad ag yn y byd y tu allan ac mae hyn yn helpu i ysgafnhau’r baich.
Mi all cael y sgyrsiau hyn ddod â phethau’n ôl i chi, ond ar ôl i mi fod yno ac wedyn yn prosesu pethau, mae’n tynnu peth o’r baich oddi ar fy ysgwyddau. Os na fyddai gen i’r person yma i siarad â hwy, mi fyddai fy mwced yn dechrau gorlenwi eto. Alla i ddim argymell gormod arnyn nhw.
"Dwi’n credu bod llawer o bobl yn ofni siarad am sut maent yn teimlo oherwydd y stigma, yn enwedig dynion ifanc. Dim ond yn ddiweddar, a hynny oherwydd yr ystadegau ynglŷn â chyfraddau hunanladdiad, y mae pobl yn dechrau cymryd sylw ac mae dynion yn araf bach yn dod allan o’u cregyn a dechrau siarad."
Roedd colli fy mrawd yn sioc anferth imi. Doeddwn i ddim hyd yn oed yn gwybod bod ganddo broblemau iechyd meddwl. Wnaeth o ddim sôn o gwbl am y peth. Mi wnaeth y cyfan ddigwydd yn gwbl annisgwyl. Yn ôl y nodiadau a adawodd ar ôl, roedd yn ymddangos ei fod yn teimlo’n ynysig iawn. Roedd yn amlwg nad oedd ganddo neb i droi ato am help, felly mae’n amlwg bod pethau wedi bod yn anodd iawn iddo fynd drwy bopeth ar ei ben ei hun. Ac mae hynny’n wir am lawer o bobl.
Roedd cael help yn bendant yn hwb imi. Rwyf wedi sylweddoli ers hynny bod gen i broblemau ac mae hynny’n iawn. Rwyf wedi cael diagnosis o EUPD. Ond rwyf wedi dod drwy’r broses honno ac mae’n deimlad braf gwybod bod gen i bobl y gallaf droi atyn nhw. Weithiau mi fyddaf yn meddwl, oni bai ei fod wedi marw, a fuaswn i’n dal i geisio dyfalu beth sy’n bod arna i?
Mae’n braf clywed storïau pobl eraill. Mae’n bwysig gweld pobl eraill sy’n mynd drwy gyfnodau anodd hefyd, a gweld eu bod yn dod drwyddynt. Rwyf yn byw ar fy mhen fy hun a phan nad oedd gen i bartner, mi oedd yn gallu bod yn unig iawn. Rydych yn teimlo mai chi yw’r unig un yn y byd sy’n mynd drwy hyn. Pan ddechreuais alw i mewn i ganolfan Mind, mae siarad, gwrando a gwybod nad chi yw’r unig un sy’n mynd drwy’r peth yn tynnu peth o’r pwysau oddi ar eich ysgwyddau.
Mae Mind yn wych am fod y pobl sy'n gweithio yno yn gwneud hynny gan eu bod wedi ymroddi i'r gwaith. Maent yn ei wneud oherwydd angerdd at eu swydd.
Roeddwn yn ei chael yn anodd siarad a chysylltu â seicolegydd, ond roeddwn yn gallu siarad â George, ymarferydd llesiant gyda Mind Aberhonddu a’r Cylch. Rwy’n teimlo bod gwahaniaeth, os ydych wedi profi trawma. Mi ydych yn gwybod os yw rhywun yn eich deall neu eu bod yn uniaethu â chi. Yn wahanol i leoliad clinigol lle’r ydych yn teimlo eu bod yn eich categoreiddio. Maent yn ei wneud ar sail yr hyn maent wedi’i ddysgu, nid yw hyn maent wedi’i brofi. Ac mae hynny mor bwysig.
Rwy'n teimlo mai fy mrawd oedd y symbyliad i mi i ddechrau ceisio helpu pobl eraill hefyd. Mi fu farw ym mis Tachwedd, felly dyna pam fod rhannu fy stori yn ystod Mis Iechyd Dynion yn teimlo mor bwysig. Nawr, rwy'n gwirfoddoli gyda Mind Aberhonddu a’r Cylch am fy mod yn hoffi siarad, rwy’n hoffi gwrando ac rwyf eisiau helpu pobl. Mi hoffwn weithio yn y maes llesiant neu wneud cyrsiau fel cwnsela.
“Y cyngor pwysicaf y gallwn ei roi i rywun sy’n mynd drwy amser anodd yw - cymerwch bethau’n araf.”
Yn aml, pan fydd rhywbeth yn digwydd i bobl nad ydynt erioed wedi profi problemau iechyd meddwl o’r blaen, mae’n bosibl y byddant yn rhuthro i weld eu meddyg, at Mind neu gymryd meddyginiaeth gan feddwl y bydd hynny’n gwella popeth. Mi ges i fy llorio pan wnes i sylweddoli nad oedd dim a oedd yn mynd i ddatrys pethau ar unwaith. Ond mae unrhyw fath o wella’n cymryd amser ac mae cymaint o bobl sydd mor bryderus, nid ydynt yn cymryd munud i eistedd gyda’u hemosiynau.
Mae angen i bobl oresgyn y rhan yna yn gyntaf, deall ei bod yn mynd i gymryd amser a sylweddoli y gallai fod yn broses hir. Gydag ychydig o amynedd, mi allwch gael help i wella.
Ar ôl cymryd rhan yn y rhaglen cymorth lles, sy’n cael eu cynnig gan ei gangen Mind leol, mae Callum yn awr yn gallu talu’n ôl – helpu pobl yn ei gymuned drwy wirfoddoli. Chwiliwch am eich Mind lleol i weld pa help sydd ar gael, neu sut y gallwch eu helpu hwy.
Get involved
There are lots of different ways that you can support us. We're a charity and we couldn't continue our work without your help.
Share your story with others
Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.