Diolch i Mind, roeddwn i'n gallu gwerthfawrogi’r gefnogaeth oedd ar gael i mi yn y cyfnod y cefais fy anfon i Ysbyty’r Iechyd Meddwl.
Yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, mae Francesca yn datgelu sut gwnaeth ein tudalennau gwybodaeth ei helpu i ddeall ei hawliau.
Roeddwn i'n un ar ddeg neu’n ddeuddeg oed pan ddechreuais i hwylio, ac fe dyfais i fod wrth fy modd yn gwneud hynny. Rydych chi'n disgyn i’r dŵr trwy'r amser, ond un tro fe aeth fy ffêr yn sownd yn y rhaff. Doeddwn i ddim yn sownd yn y dŵr am amser hir, ond roedd yn teimlo fel oes cyn i'r cychod achub fy helpu. Dau ddiwrnod yn ddiweddarach, es i mewn i'r ysgol a cheisiais fynd i nofio. Doeddwn i ddim yn gallu rhoi fy nhroed yn y dŵr a doeddwn i ddim yn deall pam. Yna trodd fy mywyd wyneb i waered.
Fe wnaeth y ddamwain effeithio yn ddrwg ar fy iechyd meddwl. Fe wnes i droi’n gyflym iawn tuag at wahanol fathau o hunan-niweidio. Roeddwn i yn yr ysbyty ar ôl yr hunan-niweidio, ond doedd neb yn gallu deall pam. Roeddwn i'n ceisio gwisgo mwgwd ac esgus fod popeth yn iawn.
Fe wnaeth fy ysgol fy nghyfeirio i gael apwyntiad brys gyda CAMHS (Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed), a ches i fy rhoi mewn ysbyty fel claf mewnol am y tro cyntaf. Roedd hyn bedair wythnos cyn i mi droi'n ddeunaw. Cefais fy rhyddhau ar ddiwrnod fy mhen-blwydd yn ddeunaw oed.
Ar ôl hynny fe ges i fy anfon i’r ysbyty nifer o weithiau. Cefais gefnogaeth gan y gwasanaethau iechyd meddwl i oedolion, ond nid oedd yn addas ar gyfer fy anghenion mewn gwirionedd. Roeddwn yn glaf a oedd yn dychwelyd yn gyson.
Cefais fy rhyddhau o’u gofal yn 2019. Yn anffodus, daeth Covid a doedd pethau ddim yn wych. Bu farw ffrind da i mi bythefnos cyn i ni fynd i mewn i'r cyfnod clo. Anfonais neges destun at fy nyrs flaenorol yn dweud, 'Mae hyn wedi digwydd, mi fyddwn i wir yn gwerthfawrogi cael siarad â rhywun'. Siaradais â’m nyrs flaenorol a'i geiriau oedd, 'O wel, rwyt ti wedi bod trwy hyn o'r blaen.' 'Na, dydw i ddim’, meddyliais, ‘Dydw i erioed wedi bod trwy bandemig o’r blaen. Does gen i ddim syniad ble i fynd na beth i'w wneud.'
“Datblygais anhwylder bwyta a gymerodd reolaeth yn yr un modd ag y gwnaeth yr hunan-niweidio, a chefais fy anfon i ysbyty’r iechyd meddwl eto yn y pen draw.”
Roeddwn i'n flin iawn, oherwydd am unwaith roeddwn i wedi gofyn am help. Trodd fy mywyd wyneb i waered eto, ac roedd yn teimlo fel mynd yn fy ôl ddwy flynedd. Datblygais anhwylder bwyta a gymerodd reolaeth yn yr un modd ag y gwnaeth yr hunan-niweidio, a chefais fy anfon i ysbyty’r iechyd meddwl eto yn y pen draw.
Chwiliais am help drwy Google, ac adnoddau Mind oedd y peth cyntaf i ymddangos. Helpodd hyn fi i ddeall beth oedd ystyr yr holl dermau meddygol, byrfoddau ac acronymau gwahanol. Deallais hefyd y gallwn ddefnyddio eiriolwr iechyd meddwl, a oedd yn hynod ddefnyddiol. Ysgrifennais bopeth roeddwn i'n ei feddwl, ond na allwn i fyth ei ddweud ar lafar. Yna byddai'r eiriolwr yn ei ddweud drosof.
“Ni fyddai llawer ohonom yn medru rhannu ein straeon oni bai am Mind. Wrth gefnogi Mind, rydych chi'n helpu miloedd o bobl."
Rhoddodd hyn ychydig o hyder i mi, a dechreuais sylweddoli mai nid fi oedd yr unig un oedd wedi mynd trwy hyn. Ni fyddai llawer ohonom yn medru rhannu ein straeon oni bai am Mind. Wrth gefnogi Mind, nid dim ond un neu ddau o bobl rydych chi'n eu helpu. Rydych chi'n helpu miloedd o bobl yng Nghymru a Lloegr sydd, yn anffodus, yn teimlo nad oedd y cymorth yr oedden nhw ei angen ar gael gan deulu a ffrindiau, neu efallai nad oedden nhw’n barod i siarad am eu hiechyd meddwl.
Cymerodd amser hir i mi fedru siarad am fy iechyd meddwl. Ond mae gwneud hynny wedi fy helpu'n aruthrol ac, yn fy marn i, wedi helpu eraill hefyd. Ond peidiwch byth â theimlo cywilydd wrth siarad am eich profiadau, oherwydd dydych chi byth yn gwybod pwy all hyn ei helpu.
Information and support
When you’re living with a mental health problem, or supporting someone who is, having access to the right information - about a condition, treatment options, or practical issues - is vital. Visit our information pages to find out more.
Share your story with others
Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.