Codi arian i fy Mind Lleol: Morloi yn gwneud tonnau ym Mae Colwyn
Nicola Jones, swyddog codi arian, sy'n rhannu ei stori am sefydlu dip môr 'Seal Splash' fel ffordd unigryw o godi arian i Mind Conwy.
Ymunais â Mind Conwy ym mis Ionawr 2023 fel swyddog codi arian ac roeddwn yn awyddus i ddod o hyd i ffordd hwyliog o godi arian, fel y gallwn barhau i gefnogi iechyd meddwl pobl leol yn ein rhan ni o ogledd Cymru.
Gan fod ein traeth lleol ym Mae Colwyn yn llawn pobl sy’n mwynhau nofio mewn dŵr oer drwy gydol y flwyddyn waeth beth fo’r tywydd, roedd yn leoliad delfrydol. Ar ôl gweld bod nofio mewn dŵr oer yn dod yn fwy ac yn fwy poblogaidd, ac er nad oeddwn yn ddigon dewr fy hun, roeddwn yn cydnabod ei botensial fel cyfle i godi arian.
Rydyn ni hefyd yn ffodus iawn o gael Morloi ar garreg ein drws, a dyna pam mai Seren y Morlo yw ein masgot. Roedd cael morlo yn fasgot yn gweddu’n berffaith, a dyna ddechrau Seal Splash!
Roedd y niferoedd a gofrestrodd yn dda iawn, ac ar ôl hyrwyddo’r digwyddiad drwy ddim ond defnyddio taflenni a chyfryngau cymdeithasol, roedd 85 wedi cofrestru ar gyfer y diwrnod. Dim ond £5 oedd y ffi gofrestru, ond i gymell pobl i godi arian, byddai unrhyw un a gododd £50 neu fwy yn cael tegan meddal Seren y Morlo wedi’i grosio, wedi’i greu gan gydweithiwr. Bu hyn yn llwyddiannus gan fod cynifer o bobl wedi creu Tudalennau Just Giving! I wneud y diwrnod hyd yn oed yn fwy o hwyl, fe wnaethom hefyd annog pobl i wisgo gwisg ffansi a chael gwobr am y wisg orau.
Er gwaethaf gwyntoedd cryf heriol ar y dydd, gwnaethom sicrhau cymeradwyaeth gan achubwr bywyd lleol ar y traeth i barhau â’r digwyddiad. Ar ôl i’r amser cofrestru agor, dechreuodd ein cyfranogwyr gyrraedd, gan wisgo gwisgoedd ffansi anhygoel! Doedd y gwyntoedd cryf ddim yn difetha hwyliau pobl, a hyd yn oed os nad oedd pobl yn awyddus i fynd i'r dŵr, roedden nhw’n cefnogi pawb oedd yno! Roedd y rheini a oedd yn cymryd rhan a’r rheini a ddaeth i wylio wedi cyfrannu rhoddion hael ac wedi prynu tocynnau raffl ac roedd hyn yn gyfraniad mawr at lwyddiant y digwyddiad.
Am 1pm, buom i gyd yn cyfri lawr o 10 a gwneud ein ffordd at y môr! Er gwaethaf pa mor oer oedd y dŵr, roedd pawb yn gwenu ac yn chwerthin yn braf! Ar ôl rhyw 10 munud, roedd pawb allan o’r môr yn ddiogel ac yn sychu eu hunain! Er mwyn cynhesu, cafodd y rhai a oedd yn bresennol 50% o ostyngiad haeddiannol ar ddiodydd poeth yn y caffi traeth lleol.
Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol, gan godi swm anhygoel o £7,500 drwy’r ffioedd cofrestru, codi arian, tocynnau raffl, a rhoddion.
O ystyried y ffi gofrestru fechan o £5, roedd y disgwyliadau cychwynnol ar gyfer uchafswm o £2,000. Ond diolch i’n cymuned wych a gododd arian hefyd, fe wnaethon ni godi swm anhygoel – cefais fy syfrdanu’n llwyr!
Mae’r arian a godwyd drwy Seal Splash wedi golygu bod modd ehangu ein gwasanaeth plant a phobl ifanc yn sylweddol, gan ymestyn y cymorth i unigolion 11 oed a hŷn. Mae’r datblygiad hwn wedi cael effaith ddofn, gan ddarparu cymorth iechyd meddwl hanfodol i fwy o bobl ifanc. Mae’n dangos pwysigrwydd digwyddiadau codi arian a’r gwahaniaeth gallant ei wneud.
Yn ogystal â chreu cymorth ariannol, gwnaeth y digwyddiad godi proffil cyhoeddus Mind Conwy a chynyddu ymwybyddiaeth o’n gwasanaethau. Ar ben hyn, roedd yn meithrin perthnasoedd gwerthfawr gyda chodwyr arian sydd wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau eraill rwyf wedi’u trefnu.
Gall cefnogi #EichMindLleol trwy ddigwyddiadau codi arian fod yn ffordd hwyliog a gwerth chweil i gyfrannu at eich cymuned. Trwy gymryd rhan, rydych chi'n dod yn gefnogwr gwerthfawr i'ch Mind lleol. I ni, mae pob ffi gofrestru, rhodd a thocyn raffl a brynwyd yn helpu bywydau plant a phobl ifanc lleol sy’n wynebu heriau iechyd meddwl. Mae eich cefnogaeth yn dangos y dylanwad cryf y gall unigolion ei gael pan fyddant yn dod at ei gilydd i gefnogi eu Mind lleol.
Information and support
When you’re living with a mental health problem, or supporting someone who is, having access to the right information - about a condition, treatment options, or practical issues - is vital. Visit our information pages to find out more.
Share your story with others
Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.