Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Byw gyda galar a PTSD

Dydd Mawrth, 08 Rhagfyr 2020 Anna Louise

Mae'r blog yma yn trafod marwolaeth partner a marwolaeth plentyn.

Ym mis Rhagfyr 2015, roedd Anna Louise yn dychwelyd o barti Nadolig gyda’i theulu – ei gŵr Stuart, ei mab Fraser a’i merch Elizabeth. Mewn un foment na ellir ei hamgyffred, cafodd ei bywyd ei chwyldroi am byth. Tarwyd ei gŵr a’i mab gan gar.

Bu farw Stuart yn syth, a chludwyd Fraser, oedd yn saith oed, i uned arbennig ym Mryste lle y dywedwyd wrth Anna y byddai ei anafiadau’n rhy ddifrifol iddo oroesi.

Rhoddwyd organau Fraser, gan achub bywydau pedwar person. Yng nghanol ei galar, roedd Anna Louise yn gofalu am ei merch, oedd yn dair a hanner oed.

Dyma Anna Louise yn rhannu ei stori o ofalu am blentyn sy’n delio gyda sioc a galar, wrth ddelio â PTSD ei hun.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Y diwrnod wedi i fy ngŵr a fy mab ein gadel, eisteddais i lawr gyda fy merch. Dim ond tair a hanner oedd hi. Esboniais na fyddai’r bechgyn yn dod adref. Pwyntiais at ddau aderyn mewn coeden gan ddweud wrthi “Dyna Dadi a Fraser nawr. Fyddan nhw’n gwylio drosom ni am byth.”

Roedd yn edrych fel petai hi wedi cymryd y peth i mewn, ond doeddwn i ddim yn gwybod beth roedd hi wedi’i weld neu wedi’i gofio o’r ddamwain ei hun. Doeddwn i ddim yn gallu cofio’n union beth ddigwyddodd yn ystod y munudau hynny fy hun.

Cefais gynnig meddyginiaeth gwrth-iselder, ond roedd gen i ferch tair blwydd oed i ofalu amdani, adroddiadau heddlu i’w cwblhau, ac angladd i’w drefnu. Ac roeddwn i’n benderfynol mai fy nghyfrifoldeb i oedd sicrhau y byddem ni’n ffarwelio â nhw yn iawn. Roedden nhw’n haeddu hynny.

“Rhaid i ti fod yn gryf drosdi hi” byddai pobl yn dweud wrthyf i. Ond wedyn byddai’r drws yn cau, a dim ond fi ac Elizabeth ar ôl yn y tŷ. A byddai’n rhaid i fi ddelio a’i hemosiynau hi cyn rhai fy hun. Doeddwn i ddim yn gallu cyrlio i fyny mewn pêl – roedd rhaid i fi chwarae, coginio, darllen straeon...

Mae’n rhan o reddf mam i boeni, onid yw e? Ac roeddwn i’n poeni y byddai hyn yn cael effaith hirdymor arni. Trefnais iddi gael therapi chwarae trwy 2 Wish Upon a Star yn yr ysgol.

Flwyddyn neu ddwy ar ôl i ni golli’r bechgyn, roedd Elizabeth i’w gweld yn emosiynol ac yn ofidus iawn. Doedd dim syniad gyda fi ble i droi am gefnogaeth. Gofynnais i fy meddyg teulu a doedden nhw ddim yn gwybod chwaith. Yn y diweddaf, cysylltais â Barnados, a anfonodd therapydd i ysgol Elizabeth, ac roedden nhw’n anhygoel gyda’i gilydd.

Ond mae’n hynod anodd delio gyda dy bryderon dy hun pan rwyt ti’n poeni am dy blentyn.

Ym mis Tachwedd y flwyddyn ganlynol, dioddefais bwl enbyd o orbryder. Roedd yn Noson Tân Gwyllt, ac fe enynnodd y cleciau a’r sŵn rywbeth yn fy nghof. Roedd fy nghalon i’n curo’n gyflym, roeddwn i’n crynu ac yn chwysu. Roeddwn i yn fy nagrau ond roedd yn rhaid i fi geisio rhoi wyneb dewr ymlaen iddi hi.

Es i at fy meddyg ac fe gymerodd dri asesiad i fi gael diagnosis o PTSD.

Mae rhestr hir i aros am gymorth, ond roeddwn i’n ffodus fy mod i’n gallu talu i dderbyn triniaeth yn breifat. Derbyniais therapi adolygol (revisionary therapy) am awr bob wythnos lle y byddwn i’n siarad am yr hyn a ddigwyddodd. Roeddwn i’n dioddef o orbryder difrifol ac roeddwn i’n poeni y bydden i’n cael ôl-fflach - efallai pan fyddwn i’n gyrru - a fyddai’n rhoi bywyd Elizabeth a fy un i mewn perygl. Beth fyddwn i’n cofio, a phryd?

Roedden nhw’n sesiynau dwys iawn, lle roeddwn i’n siarad am yr hyn oedd yn dod i’r cof am y digwyddiad a’r holl drawma a ddilynodd. Nid un digwyddiad trawmatig yn unig oedd hwn, ond cyfres o rai erchyll a gofidus.

Wedi’r ddamwain, es i i adnabod corff Stuart a ffarwelio ag e, es i yn yr ambiwlans gyda Fraser i’r uned ym Mryste a gorfod teithio ar hyd y ffordd y digwyddodd y ddamwain. Cefais wybod yno nad oedd gobaith iddo oroesi ac roedd rhaid i fi arwyddo ffurflen ar ôl ffurflen. Ac roedd rhaid ffarwelio â Fraser.

Ond roedd rhaid i fi roi popeth at ei gilydd yn fy meddwl fy hun. Roedd mynd trwy bopeth bob wythnos yn ofnadwy o boenus, ond erbyn diwedd y sesiynau roedd hi bron yn 3pm ac roedd rhaid i fi nôl Elizabeth o’r ysgol a bod yn fam eto.

Cymerodd ddwy flynedd i fi gael gafael ar adroddiad yr heddlu ac roedd yn gwbl erchyll. Roeddwn i bob amser wedi teimlo y gallwn i fod wedi gwneud rhywbeth mwy i’w hachub, ond cefais yr atebion roeddwn i’n chwilio amdanyn nhw. Dim fy mai i oedd e, na bai Stuart, na Fraser. Doeddwn i ddim wedi deall hynny nes i fi ddarllen y datganiadau.

Cefais ymweld â’r safle gyda therapydd. Wedi hynny, roeddwn i’n credu y bydden i’n iawn ac y byddai’r PTSD yn diflannu. Ond mae’r flwyddyn hon wedi bod yn anodd. Rwy’n credu fy mod wedi cael Covid-19, nôl ym mis Chwefror, a berodd i fi deimlo’n emosiynol ac yn flinedig tu hwnt.

Roedd e’n gwneud i fi feddwl a oedd fy nghorff  yn effeithio ar fy meddwl – neu ai’r ffordd arall o gwmpas oedd e?

Rwy’ hefyd wedi cwrdd â rhywun, ac er fy mod i’n teimlo’n eithriadol o lwcus, rwy’ hefyd wedi bod yn teimlo’n euog ynghylch priodi eto

Mae Elizabeth bellach yn wyth oed. Mae hi’n dipyn o gymeriad ac mae hi’n mwynhau actio. Mae hi’n falch droso fi ac mae hi eisiau i fi fod yn hapus – hi anogodd fi i ymgymryd â fy mherthynas newydd. Roeddwn i wedi bod yn cau fy hun i ffwrdd o bopeth heblaw am gyfeillgarwch cyn iddi hi ddweud ei dweud!

Mae hi hefyd wedi ymchwilio i bopeth ddigwyddodd. Mae hi wedi dod o hyd i luniau o’r gyrrwr ac wedi gwylio rhaglenni dogfen lle rwy’n siarad am yr hyn a ddigwyddodd. Rwy’ wedi bod yn llafar yn y cyfryngau gan fy mod i wedi dechrau elusen, Believe Organ Donor Support, i addysgu plant a phobl ifanc am roi organau.

Mae’r ysgol wedi bod yn anhygoel, maen nhw’n cadw llygad agos arni ac mae hi’n cael sesiynau unigol.

Mae hi’n sôn am Dadi a Fraser drwy’r amser. A nawr fy mod i wedi cwrdd â Zach, mae hi’n sôn am ei dau Dad a’i thri brawd, gan fod dau fab gan Zach.

Mae’n eironig fy mod i’n dweud wrthi ei fod yn “iawn peidio bod yn iawn” tra fy mod i’n gwneud fy ngorau i aros yn gryf drosi. Ac weithiau, rwy’n meddwl fy mod i’n gwneud yn iawn ond mae i gyd yn fy mwrw ac rwy’n llanast unwaith eto.

Ond fel Mam, rwyt ti’n gwthio dy emosiynau i’r naill ochr, gan wneud y gorau y gelli di a pharhau i wenu.

 

Mae Anna Louise wedi rhannu ei stori fel rhan o'n hymgyrch Sefwch Drosof I. I sicrhau mae llywodraeth nesa Cymru yn sefyll dros bob un ohonom yng Nghymru, ymunwch â'n hymgyrch Sefwch Drosof I am well iechyd meddwl.

Information and support

When you’re living with a mental health problem, or supporting someone who is, having access to the right information - about a condition, treatment options, or practical issues - is vital. Visit our information pages to find out more.

 

Share your story with others

Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.

arrow_upwardYn ôl i'r brig