Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Bod yn un o Ymddiriedolwyr Mind Sir Benfro a Chaerfyrddin

Dydd Mercher, 06 Tachwedd 2024 Awen

Ers dechrau gwirfoddoli gyda Mind Sir Benfro a Chaerfyrddin mae Awen bellach yn un o’i Ymddiriedolwyr. Gyda llawer o ganghennau Mind lleol yn awyddus i recriwtio Ymddiriedolwyr o bob math o gefndiroedd a chydag amrywiaeth eang o brofiadau, dyma Awen i rannu ei chyngor ar gyfer Wythnos yr Ymddiriedolwyr.

 

Mae Wythnos Ymddiriedolwyr yn gyfle da i fyfyrio a rhannu syniadau am fod yn ymddiriedolwr i Mind yn lleol. Dyma rai o’r pethau sy’n bwysig, yn fy marn i.

Os ydych yn meddwl am fod yn ymddiriedolwr, rwy’n credu fod bod yn angerddol am yr elusen yr ydych am fod yn gysylltiedig â hi’n hanfodol.

Roedd Mind yn ddewis amlwg i mi, am eu bod mor flaenllaw yn y maes iechyd meddwl. Mae’n faes rwyf wedi ymddiddori ynddo ers amser hir – mae gen i 20 mlynedd o brofiad mewn fferylliaeth fasnachol a chyswllt iechyd meddwl, a oedd yn cynnwys cysylltu â Byrddau Iechyd Cymru, y Senedd ac Awdurdodau Lleol ar iechyd meddwl digidol.

"Rwy’n gobeithio gallu cynnig persbectif sy’n ymdrin ag iechyd meddwl o’r safbwynt hwn. Gan fy mod yn dal i wirfoddoli, rwy'n ymwybodol o’r anawsterau mae pobl yn eu hwynebu pob dydd, yn ogystal â’r heriau sy’n wynebu’r elusen."

Un o’r pethau rwyf yn eu mwynhau fwyaf am wirfoddoli yw bod allan yn yr ardd yng nghanolfan Caerfyrddin – rydym yn defnyddio’r llysiau sy’n cael eu tyfu yn y gegin gymunedol. Mae’n braf gweld pa mor fuddiol y gall bod allan yn yr awyr agored fod i iechyd meddwl pobl.

Mae angen amrywiaeth eang o sgiliau ar fwrdd ymddiriedolwyr, felly mi ellir cyfrannu mewn nifer o ffyrdd. Roedd fy nghyfraniad cyntaf i Mind Sir Benfro a Chaerfyrddin fel gwirfoddolwr. Arweiniodd hyn at wahoddiad imi ystyried bod yn ymddiriedolwr. Mi fuaswn yn argymell hyn gan ei fod yn rhoi ymdeimlad gwirioneddol o’r sefydliad a phrofiadau’r bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth.

"Mae’n braf iawn gweld sut mae pobl yn elwa ar y gwasanaethau a ddarperir gan Mind. Ac mae’n bwysig ymddiried yn eich gallu eich hun i helpu pobl â phroblemau iechyd meddwl."

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn help o safbwynt bod yn ymddiriedolwr ac yn wirfoddolwr, gan fod yn well gan lawer o’r bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth sgwrsio yn Gymraeg.

Fy nghyngor i unrhyw ddarpar ymddiriedolwyr yw:

  • Dysgu mwy am y swydd drwy siarad ag ymddiriedolwyr a’ch gwasanaeth lleol i gael syniad sut mae Mind yn gweithio
  • Ystyried beth sydd gennych i’w gynnig i’r rôl naill ai drwy brofiad personol o ddelio ag iechyd meddwl neu ba sgiliau sydd gennych o’ch cefndir proffesiynol
  • Peidiwch byth â diystyru pwysigrwydd angerdd ac ymroddiad i rôl a’r gwahaniaeth y gall hyn ei wneud.

Mae bod yn ymddiriedolwr yn golygu llawer imi. Nid yw iechyd meddwl yn cael ei drin yn y ffordd y dylai gael ei drin ac os gallaf wneud cyfraniad, rwyf yn falch o hynny.

Get involved

There are lots of different ways that you can support us. We're a charity and we couldn't continue our work without your help.

Share your story with others

Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.

 

Related stories

arrow_upwardYn ôl i'r brig