Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2025

Dydy iechyd meddwl ddim yn cymryd diwrnod o wyliau. Nid ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd nac ar unrhyw ddiwrnod arall o’r flwyddyn. Ymunwch â’n hymgyrch i frwydro dros iechyd meddwl heddiw i ysbrydoli dyfodol gwell.

Cyfrannwch at Mind heddiw

Brwydrwch dros iechyd meddwl bob dydd

Brwydrwch dros iechyd meddwl heddiw a bob dydd.

Mae iechyd meddwl yn rhan bwysig o’n bywydau - mae’n bob eiliad o bob dydd. Mae’n ddiwrnod caled o waith ac yn baned gyda ffrindiau. Pan fyddwch chi’n dod yn rhiant a’r diwrnod pan fyddwch chi’n colli rhywun arbennig. Yr adegau rydych chi’n gofyn am gymorth a’r blynyddoedd rydych chi’n eu treulio ar restr aros. Y frwydr dros system iechyd meddwl sy’n gweithio ac ysbytai sy’n ddiogel.

Mae iechyd meddwl yn bwysig ar y dyddiau pan fydd popeth yn digwydd a’r dyddiau pan na fydd dim byd yn digwydd. Pan fydd bywyd yn brysur ac yn anrhagweladwy a phan fydd hi’n dawel ac yn gyffredin hefyd. Dyna pam rydyn ni’n brwydro bob dydd, i gefnogi mwy o bobl yfory.

Mae’n Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd heddiw, ond rydyn ni eisiau i bawb ddeall bod iechyd meddwl yn bwysig bob dydd. Gyda’n gilydd, gallwn wneud yn siŵr bod pawb yn gwybod hynny.

Rhannwch yr ymgyrch

Mae iechyd meddwl yn bwysig bob dydd - rhowch rodd heddiw er mwyn i Mind allu cefnogi mwy o bobl yfory.

Cyfrannwch at Mind heddiw

Gwyliwch ein fideo ymgyrch

Rhannwch asedau ein hymgyrch

Lawrlwythwch yr asedau hyn i gymryd rhan yn ein hymgyrch. Helpwch ni i ledaenu’r neges fod iechyd meddwl yn bwysig bob dydd.

Ein gwybodaeth

Mae ein gwybodaeth yn grymuso pobl i wneud dewisiadau gwybodus am eu hiechyd meddwl. Mae'n helpu pobl i fyw gyda phroblemau iechyd meddwl ac adfer ohonynt.

Ffeindiwch ein gwybodaeth

Grwpiau Mind lleol

Mae ein rhwydwaith anhygoel o grwpiau Mind lleol ledled Cymru a Lloegr yn cynnig gwasanaethau iechyd meddwl sy'n mynd i'r afael â'r heriau y mae eu cymunedau'n eu hwynebu.

Ffeindiwch eich Mind lleol

Siaradwch â ni

Mae gennym ni 4 llinell gymorth sy'n diwallu gwahanol anghenion iechyd meddwl neu lesiant. Rydyn ni'n gwybod bod iechyd meddwl yn gysylltiedig â phopeth, ac rydyn ni yma i'ch cefnogi chi.

Llinellau cymorth

Ni fyddai llawer ohonom yn medru rhannu ein straeon oni bai am Mind. 

Mae Francesca yn blogio am ddamwain cwch a sbardunodd ei phroblemau iechyd meddwl, a sut y gwnaeth tudalennau gwybodaeth Mind ei helpu i eiriol dros ei hawliau.

Darllenwch stori Francesca

arrow_upwardYn ôl i'r brig