Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 

11-17 Mai 2026

Mae gofal iechyd meddwl gwych yn ddynol. Yn Mind, rydym ni’n gweld y person, nid y claf.

Mae gofal iechyd meddwl gwych yn ddynol 

Y cynghorwr hyfforddedig sy’n dy helpu pan rwyt ti’n rhy sâl i weithio ac yn poeni am dalu rhent. Y therapydd sy’n gofyn “Beth sydd wedi digwydd i ti?” yn hytrach na “Beth sy’n bod arnat ti?”. Y llais caredig ar ben arall y ffôn. 

Yn Mind, rydym ni’n gweld y person, nid y claf.

Ymunwch â ni yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl (11-17 Mai). 

Gyda’n gilydd, gallwn ni sicrhau ein bod yn meddwl am bob meddwl.

Lledaenu'r gair 

Mae gennym lawer o adnoddau i’ch helpu chi i rannu pam rydych chi’n brwydro dros iechyd meddwl, o bosteri i waith graffeg cymdeithasol, sydd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Baner e-bost 

Post ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol 

Poster bol gwag

Poster i brintio 

 

Ein gwybodaeth

 

Mae ein gwybodaeth yn grymuso pobl i wneud dewisiadau gwybodus am eu hiechyd meddwl. Mae’n helpu pobl i fyw gyda phroblemau iechyd meddwl a gwella ohonynt.

 

Cymorth lleol

 

Mae iechyd meddwl yn cyffwrdd â phawb ym mhob man – felly dylai’r cymorth gyrraedd pawb hefyd. Mae ein rhwydwaith anhygoel o wasanaethau Mind lleol ar hyd a lled Cymru a Lloegr yn cynnig gwasanaethau iechyd meddwl wedi'u teilwra i'w cymunedau.

Siaradwch â ni

 

Mae gennym 4 llinell gymorth sy’n diwallu gwahanol anghenion llesiant neu iechyd meddwl – o gyngor cyfreithiol i gymorth emosiynol. Rydyn ni’n gwybod bod iechyd meddwl yn gysylltiedig â phopeth, ac rydyn ni yma i’ch cefnogi chi.

Pan oeddwn i’n teimlo bod popeth yn cael ei rwygo oddi wrtha i, rhoddodd Mind obaith, eglurder a dealltwriaeth i mi.

Dyma flog Francesca am ddamwain hwylio a sbardunodd ei phroblemau iechyd meddwl, a sut mae tudalennau gwybodaeth Mind wedi ei helpu i eirioli dros ei hawliau.

Darllenwch am brofiad Francesca

Back To Top arrow_upward