Yr hyn rydym ni’n galw amdano
Mae nifer o bobl ifanc yn dioddef gyda’u hiechyd meddwl ar eu pen eu hunain; maent yn syrthio i’r canol coll gan nad yw’r gwasanaethau cyffredinol yn diwallu eu hanghenion, ac nad oes cymorth ychwanegol ar gael ar eu cyfer chwaith oni bai eu bod yn ceisio cael mynediad at wasanaethau Iechyd Meddwl Arbenigol i Blant a’r Glasoed (SCAMHS).
Yn ein hymchwil diweddar, dywedodd pobl ifanc wrthym fod hyn yn gwneud iddynt deimlo’n unig, wedi’u stigmateiddio ac yn eu gwneud yn fwy cyndyn o ofyn am help.
"Doeddwn i ddim yn teimlo fy mod yn ddigon sâl i gael yr help oedd ei angen arnaf, ond ar yr un pryd roeddwn i’n rhy sâl i gael y cymorth cyffredinol oedd ar gael. Roeddwn i’n unig iawn ac yn teimlo fel baich. Ar ben hynny, dwi’n meddwl bod y ffaith nad oeddwn i’n gymwys i gael yr help oedd ei angen arnaf wedi gwaethygu’r gorbryder ac wedi gwneud i mi deimlo fy mod i’n gwneud môr a mynydd o bethau."
Gwelsom hefyd bod angen gwella’r gefnogaeth sydd ar gael yn ein hysgolion, a bod angen sicrhau bod canllawiau Llywodraeth Cymru’n gliriach.
Dyna pam ein bod ni’n galw ar Lywodraeth Cymru i wneud y canlynol:
- Rhoi cyfle i bobl ifanc lunio gwasanaethau iechyd meddwl newydd, fel y nodwyd yn y Strategaeth Iechyd Meddwl newydd (Mynediad Agored at ofal).
- Datblygu rhaglen sy’n canolbwyntio ar stigma iechyd meddwl mewn ysgolion.
- Gwella’r gwasanaethau sydd ar gael mewn ysgolion er mwyn sicrhau eu bod yn diwallu anghenion pobl ifanc ac yn ffurfio pecyn ehangach o ofal.
- Datblygu ymateb strategol clir i’r galw cynyddol am wasanaethau iechyd meddwl ymysg plant a phobl ifanc drwy flaenoriaethu anghenion.
"Des i ar draws cynnwys oedd ddim yn helpu fy iechyd meddwl, ac yn y pen draw gwnaeth y cynnwys hwnnw bethau’n waeth. Fe drïais i fy ngorau i helpu fy hun, ond roedd hynny’n gwneud mwy o ddrwg nag o les.”
Hunan-gymorth â chefnogaeth ar gyfer y ‘canol coll’
Mae gwasanaeth Canol Coll Mind, a ddarparwyd gan rwydweithiau Mind lleol, wedi cefnogi dros 600 o bobl ifanc rhwng 11 a 18 oed sydd ag anghenion iechyd meddwl ysgafn i gymedrol, gan ddarparu sesiynau cwnsela y tu allan i’r ysgol.
Mae’r rhaglen hon yn wasanaeth hunangymorth chwe wythnos o hyd sy’n arfogi pobl ifanc â’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i reoli eu hiechyd meddwl a chreu pecyn cymorth llesiant sydd wedi ei deilwra ar eu cyfer.
“Heb eich help chi, byddwn i’n dal i gwestiynu pam fy mod i yma? Rydych chi wedi gwneud i mi sylweddoli fy mod i’n bwysig, a bod dim o’i le â gofyn am help pan fyddwch chi ei angen.”
Mae’r gwasanaeth yn helpu pobl ifanc i ddygymod â theimladau sy’n achosi straen a gorbryder, hwyliau isel, llais mewnol cadarnhaol, tymer, galar a theimlo’n unig.
Wrth werthuso'r prosiect Canol Coll, canfuwyd y byddai nifer o bobl ifanc wedi ceisio rheoli eu symptomau eu hunain oni bai am y gwasanaeth hwn. Yn wahanol i’r system gwnsela a gynigir ar hyn o bryd yn ein hysgolion, mae’r gwasanaeth yn rhoi mwy o gyfle i bobl ifanc ddewis sut maen nhw eisiau cymryd rhan. Er enghraifft, gallwch chi ddewis gwneud y gwaith o gartref neu gael sesiwn wyneb yn wyneb.
Yr effaith ar bobl ifanc:
71% o welliant mewn lefelau lles
Dywedodd 100% o bobl ifanc y byddent yn argymell y gwasanaeth i deulu neu ffrindiau
63% o welliant mewn lefelau iechyd emosiynol ac ymddygiadol
Rhwng 2023 a 2025, mae tair o ganghennau Mind lleol wedi peilota’r gwasanaeth, sef Mind Cwm Taf Morgannwg, Mind Castell Nedd Port Talbot a Mind Abertawe. Mind Cwm Taf Morgannwg, Mind Castell Nedd Port Talbot a Mind Abertawe.
Darllenwch yr adroddiad (Saesneg yn unig)
I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen anfonwch e-bost i [email protected]