Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Mae iechyd meddwl yn hollbwysig: Senedd 2026

Ymunwch â'r frwydr dros system iechyd meddwl sy'n gweithio.

Galwch ar lywodraeth newydd Cymru i wneud iechyd meddwl yn flaenoriaeth.

Ychwanegwch eich llais

Brwydrwch dros iechyd meddwl heddiw, a bob dydd.

Mae iechyd meddwl yn rhan hollbwysig o’n bywydau. Mae'n rhan o’n perthnasoedd, ein gwaith, ein sefyllfa ariannol a'n diogelwch.

Mae'n rhan o bob eiliad o bob dydd.

Gall Llywodraeth nesaf Cymru drawsnewid cymorth iechyd meddwl yn y wlad hon, ond mae angen eich help chi arnom i wneud yn siŵr eu bod yn gwneud hynny.

Dywedwch wrth eich ymgeisydd: mae iechyd meddwl yn hollbwysig.

Rydyn ni’n galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i gyflawni.

Ar hyn o bryd, mae gormod o bobl yng Nghymru yn aros yn rhy hir, yn syrthio drwy'r rhwyd, neu'n wynebu stigma pan fyddan nhw’n gofyn am help. Rydyn ni wedi gwrando ar filoedd o leisiau o bob cwr o Gymru ac mae'r neges yn glir.

Mae angen:

  • Mynediad cyflymach a thecach at gymorth
  • Gofal gwell i blant a phobl ifanc
  • Gweithredu i roi terfyn ar anghydraddoldeb iechyd meddwl
  • Cefnogaeth sy'n ystyried profiad bywyd ac yn ymateb iddo
  • Partneriaethau cryfach ar draws y GIG, cymunedau a'r Trydydd Sector.

Darllenwch ein blaenoriaethau llawn ar gyfer y llywodraeth

Dywedwch wrth eich ymgeisydd: mae iechyd meddwl yn hollbwysig.

Peidiwch â diystyru pŵer un llais i newid system. Gall llywodraeth nesaf Cymru drawsnewid iechyd meddwl. A gallwch chi helpu i wneud i hynny ddigwydd.

Rhannwch eich cefnogaeth ar y cyfryngau cymdeithasol. Helpwch ni i wneud iechyd meddwl yn flaenoriaeth yn etholiadau'r Senedd yn 2026, oherwydd mae angen meddwl am bob meddwl.

Lawrlwythwch yr asedau cyfryngau cymdeithasol

Ffeindiwch ni ar:

Instagram

LinkedIn

Facebook

Threads

Eisiau gwneud mwy?

Cofrestrwch i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am hynt yr ymgyrch, a ffyrdd eraill o gymryd rhan.

Dod yn ymgyrchydd

arrow_upwardYn ôl i'r brig