Rydyn ni wedi llunio tri chwestiwn syml y gallwch chi eu gofyn i’ch ymgeiswyr:
1. Sut y byddwch chi’n gwella’r cymorth i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn ein hetholaeth?
2. Mae’r argyfwng costau byw’n effeithio ar iechyd meddwl pobl. Sut ydych chi’n bwriadu mynd i'r afael â hyn?
3. Mae Mind wedi anfon argymhellion atoch chi ar gyfer llywodraeth nesaf y DU. A wnewch chi edrych ar y rhain cyn yr etholiad?
Ychwanegwch y cwestiynau hyn at eich waled ddigidol
Ychwanegwch y cwestiynau hyn at waled ddigidol eich ffôn, er mwyn i chi allu cael gafael arnyn nhw’n gyflym os bydd ymgeisydd yn dod i’ch drws, neu os ydych chi mewn digwyddiad lle mae ymgeiswyr yn bresennol.
Rydych chi bellach yn barod i ddal eich ymgeiswyr i gyfrif am iechyd meddwl, a gwneud yn siŵr eu bod yn meddwl am bob meddwl!