Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Gofynnwch y cwestiynau hyn i’ch ymgeiswyr

Yn y cyfnod cyn yr etholiad ar 4 Gorffennaf, bydd ymgeiswyr yn cnocio ar eich drws ac yn mynd i ddigwyddiadau yn eich ardal leol. Mae’n bwysig iawn eich bod chi’n gofyn cwestiynau iddyn nhw am y pynciau sy’n bwysig i chi, fel iechyd meddwl er enghraifft. Bydd hyn eich helpu chi i ddysgu mwy am flaenoriaethau eich ymgeisydd ac yn dangos iddyn nhw fod iechyd meddwl yn fater pwysig i bobl leol.

Rydyn ni wedi llunio tri chwestiwn syml y gallwch chi eu gofyn i’ch ymgeiswyr:

1. Sut y byddwch chi’n gwella’r cymorth i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn ein hetholaeth?

2. Mae’r argyfwng costau byw’n effeithio ar iechyd meddwl pobl. Sut ydych chi’n bwriadu mynd i'r afael â hyn?

3. Mae Mind wedi anfon argymhellion atoch chi ar gyfer llywodraeth nesaf y DU. A wnewch chi edrych ar y rhain cyn yr etholiad?

Ychwanegwch y cwestiynau hyn at eich waled ddigidol

Ychwanegwch y cwestiynau hyn at waled ddigidol eich ffôn, er mwyn i chi allu cael gafael arnyn nhw’n gyflym os bydd ymgeisydd yn dod i’ch drws, neu os ydych chi mewn digwyddiad lle mae ymgeiswyr yn bresennol.

Carden waled ar gyfer Android 

Carden waled ar gyfer iPhone

Rydych chi bellach yn barod i ddal eich ymgeiswyr i gyfrif am iechyd meddwl, a gwneud yn siŵr eu bod yn meddwl am bob meddwl!

On iPhone, open this webpage in the Safari browser. Select the ‘share’ menu and tap ‘Add to Home Screen’. Click ‘add’ to confirm and the shortcut should now be on your phone’s home screen. 

Now you are ready to hold your candidates to account on mental health, and make sure there’s no mind left behind! 

Add these questions to your phone’s digital wallet, so you can quickly access them if a candidate comes to your door, or if you are out at an event with candidates. 

Add these questions to my digital wallet

arrow_upwardYn ôl i'r brig