This page is available in English here.
Mae gennym gyfle cyffrous i chi wella bywydau pobl o liw trwy ein helpu i greu gwasanaeth iechyd meddwl ar gyfer Goroeswyr Strôc.
Gwyddom fod pobl o dras Du a De Asiaidd yn fwy tebygol o gael strôc a bod eu cyfraddau gwellhad yn waeth na phobl o ethnigrwydd arall.
Yn ddiweddar rydym wedi dylunio cynnig cymorth iechyd meddwl ar gyfer Goroeswyr Strôc a’n cam nesaf yw ceisio cyllid i’w dreialu. Cyn inni wneud hynny, rydym am wneud yn siŵr bod ein cymorth iechyd meddwl yn diwallu anghenion pobl o dras Du a De Asiaidd.
Rydym am weithio gydag ymgynghoriaeth sy’n cael ei harwain gan bobl o dras Du neu Dde Asiaidd ac sydd ag arbenigedd mewn tegwch yn y gwasanaethau iechyd, i ddarparu craffu annibynnol ar ein cynllun presennol a rhoi cyngor ar sut i wella ein dyluniad i sicrhau mynediad a chanlyniadau teg ar gyfer y grŵp hwn o Oroeswyr Strôc.
Proses ymgeisio
- Ceisiadau yn agor 28 Mehefin 2024
- Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau 18 Gorffennaf 2024 (5pm)
- Llunio rhestr fer 19 Gorffennaf 2024
- Cyfweliadau 29 Gorffennaf i 1 Awst 2024
- Cynnig penodiad 2 Awst 2024
Nid oes ffurflen benodol i wneud cais arni. Gallwch ddefnyddio unrhyw fformat a ddewiswch.