Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Sut yr helpodd cefnogaeth PTSD fi i newid fy mywyd

Dydd Iau, 18 Tachwedd 2021 Alun

 

Dyma Alun, o Bontypridd, yn blogio ynghylch sut yr effeithiodd PTSD arno a sut y cafodd help.

Rhybudd cynnwys: sôn am ymgais hunanladdiad.

 

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Mae fy stori’n dechrau yn 2017 tra roeddwn yn gweithio fel Swyddog Diogeledd yng nghanolfan siopa fwyaf Caerdydd. Rwy’n gallu cael fy ngalw i helpu gydag unrhyw beth o fân friwiau, i rywun yn llewygu neu, weithiau, ataliad y galon.

Anghofia i fyth fy ataliad y galon gyntaf, gwraig 93 mlwydd oedd a oedd wedi llewygu ar y stryd fawr. Roedden ni’n rhoi CPR iddi nes i’r parafeddygon gyrraedd a mynd â hi i’r ysbyty am driniaeth bellach. Yn anffodus, bu farw.

Doeddwn i ddim yn gwybod sut roeddwn i’n teimlo ar ôl y digwyddiad.  Roedd yna gymaint o gwestiynau ac roeddwn i’n meddwl tybed a fyddwn i wedi gallu gwneud rhagor. Ond aeth y dydd yn ei flaen ac roeddwn i’n ôl yn gweithio fel arfer.

Roeddwn i’n meddwl taw dyna fyddai'r gwaethaf y byddai’n rhaid i mi ei wynebu. Ond, na.

Yn 2018, cawsom alwad i ddweud fod menyw wedi ceisio lladd ei hunan mewn ciwbicl toiled. Roedden ni’n brwydro am bron i awr i’w chadw’n fyw cyn i’r gwasanaeth ambiwlans gyrraedd. Rywsut, fe lwyddom ni, ac fe lwyddodd hithau gyrraedd yr ysbyty ble cafodd driniaeth ac aros mewn gofal dwys.

Roedd hyn i gyd yn ormod i mi. Roedd yn rhaid i fynd yn syth o’r fan honno at yr Heddlu i roi datganiad. Yna, rhoi datganiad arall i’m rheolwr a ffurflenni digwyddiad dirifedi i’w llewni. Doedd gen i ddim amser i ddygymod â beth oedd newydd ddigwydd. Ac yna, ar ôl hynny i gyd, paned sydyn o de a nôl i’r gwaith yn syth a dechrau glanhau’r lle.

Roeddwn i’n teimlo’n ofnadwy, doeddwn i ddim yn gallu canolbwyntio. Roeddwn i ar goll, yn bryderus ac yn dal i grynu ar ôl beth oeddwn i newydd fod trwyddo. Disgwyliais nes fy mod adre, yn syth at fy rhieni, a doeddwn i erioed wedi’u hangen cymaint. Wrth i mi gerdded trwy’r drws, a chael cwtsh gan Mam, fe dorrais i lawr.

Ar ôl cyrraedd adref ar ôl treulio amser gyda’m rhieni, torrais i lawr unwaith eto. Dyna pryd roeddwn yn gwybod nad oeddwn i’n oce.

Roeddwn i’n cael nosweithiau digwsg, hunllefau, ymosodiadau o bryder a phanig.

Roedden nhw wedi dweud wrthym yn ystod ein hyfforddiant y byddai pob un ohonom yn cael un alwad a fyddai’n sefyll gyda ni, a honno oedd fy un i.

Ar ôl wythnos o beidio â theimlo’n iawn, doedd gen i ddim dewis ond siarad lan. Dywedais wrth fy mos yn gyntaf fy mod i ofn mynd i’r gwaith a bod yn yr un fan ble digwyddodd y cyfan. Rhoddodd fi mewn cysylltiad â’r Gwasanaeth Ambiwlans a wnaeth fy  nghyfeirio at y tîm Rheoli Digwyddiad Trawma. Roeddwn i’n teimlo fy mod yn wan, ac nad oeddwn yn ddigon da i’r swydd. Roeddwn i hefyd yn teimlo’n euog ac y gallwn i fod wedi gwneud rhagor neu fod yn gryfach.

Ar ôl ychydig o ddyddiau cefais fy sesiwn Trawma gyntaf. Gadawais y sesiwn yn teimlo ychydig yn fwy positif ar ôl siarad gyda rhywun a oedd yn deall ac yr oedd wedi bod mewn galwad tebyg. Fodd bynnag, wrth i’r misoedd fynd heibio, dirywiodd fy iechyd meddwl eto. Roeddwn i’n llefain wrth feddwl am yr alwad. Fe fyddwn i’n cuddio yng nghefn coridorau'r gwaith a llefain yn afreolus wrth feddwl y gallai diwrnod arall fel y diwrnod hwnnw fod o’m blaen eto.

Roedd fy nheulu’n anhygoel ac mor gydymdeimladol pan siaradais lan ac ymestyn allan am help.

Nhw roddodd fi mewn cysylltiad â Mind, a chefais fy nghyfeirio at un o’u cwnselwyr a oedd yn byw yn weddol agos.

Cefais tua 10 sesiwn gyda’r cwnselydd ac roedd yn wirioneddol anhygoel! Roeddwn i’n teimlo fy mod i wedi cael gwared ar gymaint o emosiwn a theimladau yn y sesiwn gyntaf y gallwn i fod wedi cysgu am wythnosau. Wrth i weddill y sesiynau fynd yn eu blaen, roeddwn i’n gallu teimlo fy hun yn gwella.

Roeddwn i’n sôn wrthi am y meddyliau oedd yn codi ac yn fy nychryn, y pryder a’r ymosodiadau o banig, nosweithiau digwsg a’r hunllefau, popeth.

Fe ddysgodd hi i mi sut i ddod i delerau gyda beth oedd wedi digwydd.  Dysgodd i mi sut i ddeall fy nheimladau a’m hemosiynau a sut i ymdopi â nhw.

Fe aethon ni trwy rywfaint o ymwybyddiaeth ofalgar sydd wedi fy helpu i ymlacio ar adegau anodd. Yn bennaf oll, fe helpodd fi i dderbyn fy mod wedi bod yn dioddef gyda PTSD a sut i reoli’r cyfan.

Fe es i at fy meddyg teulu am ddiagnosis a chadarnhaodd, gyda’m cwnselydd, fod gennyf PTSD.

Mae hwn yn rhywbeth sydd wedi ac a fydd yn aros gyda mi am dipyn, ac ar adegau, rwy’n dal i fynd yn bryderus neu bod rhai pethau rwy’n eu gweld eu harogli neu’n eu gwneud yn codi ymosodiad o banig. Ond, rwy’n gallu defnyddio’r hyn rwy wedi’i ddysgu oddi wrth fy nghwnselydd i dawelu a rheoli fy nheimladau’n llawer gwell.

Wn i ddim ble byddwn i heddiw oni bai am Mind a’r cymorth gefais.

Ers hynny, rwyf wedi gadael fy swydd fel swyddog diogeled ar ôl bron i naw mlynedd ac erbyn hyn yn gweithio i fy nghangen leol o Mind, yn y gobaith o helpu rhywun arall sy'n cael problem debyg neu o leiaf annog pobl i siarad a derbyn help.

Diolch am gymryd yr amser i ddarllen fy stori.

 

Daw Alun o Bontypridd ac mae’n byw gyda’i Labrador, Hugo. Mae’n hoffi rygbi, ffotograffiaeth a chael amser da a gwerthfawr gyda’i deulu a’i ffrindiau.

Information and support

When you’re living with a mental health problem, or supporting someone who is, having access to the right information - about a condition, treatment options, or practical issues - is vital. Visit our information pages to find out more.

 

Share your story with others

Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.

arrow_upwardYn ôl i'r brig