Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Pam ddylai myfyrwyr derbyn cymorth iechyd meddwl ym mhrifysgol

Dydd Gwener, 23 Hydref 2020 Anna

Dyma flog gan Anna, o Gymru, am ei phrofiad o iechyd meddwl yn fyfyriwr, a sut y dylid cefnogi myfyrwyr yn y brifysgol i reoli’r heriau o adael cartref, dod yn annibynnol a phwysau bywyd prifysgol. 

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Roeddwn i’n ddeunaw pan gyrhaeddais y brifysgol. Dyma beth oeddwn i wedi bod yn aros amdano. Tynnais bopeth o fy magiau, es i i gwrdd â fy nghyfoedion newydd, a pharatoi am noson allan. Es i gyn belled ag Undeb y Myfyrwyr cyn i mi orfod bod yn onest â fi fy hun. Doeddwn i ddim yn iawn. Roeddwn i eisiau mynd adref a chyrlio lan yn y gwely.

Roedd hyn yn teimlo’n rhyfedd ac yn ddryslyd. Roeddwn i’n barod i orffen y chweched dosbarth a gadael yr ysgol. Roedd y ffaith fy mod i wedi penderfynu astudio filltiroedd i ffwrdd yn rhan o’r apêl. Roeddwn i eisiau bod rhywle newydd – roedd e’n rhywbeth cyffrous.

Ond cyn gynted ag y cyrhaeddais i, dechreuodd fy iechyd meddwl ddioddef. Roeddwn i’n byw dan gwmwl du, ac roeddwn i’n teimlo’n hynod o isel, drwy’r amser. Doeddwn i ddim yn gallu bwyta, roeddwn i wedi fy llethu, wedi blino’n lân. Cefais fy annog gan fy mam i wneud apwyntiad gyda gwasanaeth cwnsela’r brifysgol.

Cyrhaeddais yr apwyntiad i glywed y dylwn i fynd adref os nad oeddwn i’n hapus. Disgrifiodd y cwnselydd fy rhieni fel pobl ‘didostur’ am fy annog i roi tro arni. Ac fe gefais i CD o gerddoriaeth i ymlacio iddo! Am wastraff amser llwyr.

Ond erbyn y Nadolig, roeddwn i wedi dechrau teimlo’n well ac yn dechrau ymdopi â phethau. Roeddwn i wedi gwneud ambell i ffrind agos ac roedd sôn am gael tŷ gyda’n gilydd. Ond nawr fy mod i mewn lle da yn feddyliol, roeddwn i’n gallu gweld yn glir nad oedd y cwrs yn iawn i fi.

Roeddwn i wedi dewis astudio seicoleg, ond roedd y cwrs yn wyddonol iawn. Felly ym mis Medi’r flwyddyn ganlynol, penderfynais gychwyn astudio ar gwrs prifysgol nôl adref – ac fe gododd y baich trwm o fy ysgwyddau.

Roeddwn i’n poeni a fyddai astudio adref yn ddiflas neu’n undonog. A fydden i’n cyfri fel methiant am beidio mentro’n bellach i ffwrdd? Roeddwn i eisiau rhywfaint o annibyniaeth, felly es i i fyw mewn neuadd breswyl. Dim ond deng munud i ffwrdd oedd fy rhieni, ond doeddwn i ddim yn mynd adref yn rhy aml a dweud y gwir. Ond o wybod fy mod i’n gallu mynd adref, roedd gen i sicrwydd ac roedd hyn yn gwneud fy mywyd gryn dipyn yn haws. Ac a dweud y gwir, doedd bywyd prifysgol ddim byd tebyg i fy hen fywyd adref. Es i i nifer o lefydd gwahanol ac roeddwn i’n mwynhau nosweithiau allan. Gwnes i lawer o ffrindiau newydd, ac yn y cyfamser, roedd y cwrs yn cydweddu’n llawer gwell i’r hyn roeddwn i wedi eisiau gwneud.

Doeddwn i ddim wedi dechrau teimlo’n flinedig eto nes fy ail flwyddyn. Roeddwn i’n gorfod perswadio fy hun i fynd i ddarlithoedd.

Roedd y pwysau’n cynyddu ac roedd y cwmwl du cyfarwydd hwnnw’n dechrau cronni uwch fy mhen unwaith eto.

Yn fy nhrydedd flwyddyn, roedd y pwysau ar fy ysgwyddau’n tyfu. Byddwn i’n aros yn y gwely drwy’r prynhawn er mwyn ceisio anghofio am y gwaith oedd yn pentyrru. Penderfynais fod rhaid i fi roi tro arall ar gwnsela.

Yn y diwedd, cefais gymorth wrth y brifysgol. Roedd rhaid i fi aros chwe wythnos am apwyntiad gan fod y rhestr aros mor hir, sy’n gryn dipyn o amser pan nad wyt ti’n ymdopi’n dda. Fodd bynnag, roedd y gwasanaeth yn wych ac yn fy helpu i. Yn ogystal â’r cwnsela, derbyniais help gyda fy astudiaethau gan fy rhoi i nôl ar y llwybr cywir.

Ond pam fod cymaint o fyfyrwyr yn ei chael yn dioddef o lefelau mor uchel o orbryder yn y brifysgol? Myfyrwyr nad ydyn nhw wedi dioddef gyda phroblemau iechyd meddwl yn y gorffennol? Yn bersonol, des i i adnabod cymaint o bobl oedd wedi mynd i dderbyn cwnsela.

Roedd fy nhiwtoriaid yn gefnogol, roedden nhw eisiau’r gorau i ni, ac roedd y rhan fwyaf ohonyn nhw’n wych – ond doedd y pwysau i gael graddau da ac i gael profiad gwaith yn yr haf byth yn diflannu. A nawr fy mod i’n edrych yn ôl, gallaf weld na fyddai wedi bod yn ddiwedd y byd petawn i heb gael y lleoliadau profiad gwaith oedd i’w gweld mor hollbwysig ar y pryd.

Credaf y dylid hyfforddi darlithwyr mewn iechyd meddwl mewn iechyd meddwl i fod yn ymwybodol o’r pwysau maen nhw’n eu rhoi ar fyfyrwyr heb iddyn nhw sylweddoli.

Rhaid gwneud mwy i ddeall pam fod gymaint o alw ar wasanaethau iechyd meddwl gan gyfran mor helaeth o fyfyrwyr.

Cwblheais fy ngradd, diolch i wasanaeth cwnsela’r brifysgol, ac fe ddatblygais fy strategaethau ymdopi fy hun hefyd. Cofrestrais i wneud hanner marathon ar ddechrau fy ail flwyddyn, roedd yr hyfforddi’n fy ngalluogi i ffocysu ar rywbeth arall. Roedd cael mynd allan yn ychwanegu rhywbeth cadarnhaol at rythm y dydd. Dechreuais weithio mewn tafarn, i ffwrdd o fywyd myfyrwyr, oedd yn rhoi rhyw fath o rwtîn i fi. Ces i gyfle i ddod i adnabod ffrindiau newydd y tu allan i’r swigen bywyd myfyrwyr a rhoddodd fwy o bersbectif i fi nad cael gradd oedd popeth.

Mae profiad prifysgol yn cael ei bortreadu i fod yn rhywbeth arbennig. Felly pan doedd y profiad ddim yn anhygoel, roeddwn i’n teimlo ar goll. Rhaid ystyried sut rydyn ni’n paratoi myfyrwyr i fynd i’r brifysgol. Rhaid peidio rhoi cymaint o bwysau ar fyfyrwyr i ymdopi â heriau gadael cartref, cwrdd â phobl newydd, dod yn oedolyn, cael lleoliadau profiad gwaith – heb anghofio, wrth gwrs, cael gradd dosbarth cyntaf. Rhaid ystyried sut y gall prifysgolion ddarparu mwy o gefnogaeth i’w myfyrwyr.  

Related Topics

Information and support

When you’re living with a mental health problem, or supporting someone who is, having access to the right information - about a condition, treatment options, or practical issues - is vital. Visit our information pages to find out more.

 

Share your story with others

Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.

arrow_upwardYn ôl i'r brig