Fy stori i: dioddef yn dawel a chael cymorth
Mae Aled yn dod o Wynedd ac yn ysgrifennu am ei brofiad o iselder ar ôl geni a’r ffordd yr aeth ati i helpu tadau eraill ar ôl gwella.
Cymerwch ofal wrth ddarllen, mae’r blog hwn yn sôn am hunanladdiad.
Wrth edrych yn ôl, dwi’n sylweddoli fy mod i wedi cael trafferth gyda fy iechyd meddwl am y rhan fwyaf o fy mywyd. Roedd yr arwyddion wastad yno - y dicter na allwn ei egluro, yr hunan niweidio roeddwn i’n trio mor galed i’w guddio, a’r pellter cynyddol rhyngof i a’r bobl oedd yn poeni fwyaf amdanaf i.
Roeddwn i wedi perswadio fy hun nad oeddwn i’n haeddu cariad, ac y byddai fy nheulu yn well eu byd hebddo fi. Roeddwn i’n meddwl mai fy nhynged oedd marw ar fy mhen fy hun.
Ym mis Hydref 2021, chwe wythnos ar ôl i fy mhlentyn ieuengaf gael ei eni, fe wnes i drio lladd fy hun.
Hyd yn oed heddiw, dydy ysgrifennu'r geiriau hynny ddim yn hawdd - ond dyna’r eiliad y bu i bopeth newid.
Diolch byth, wnes i ddim llwyddo. Yn ystod yr wythnosau a ddilynodd, bu’n rhaid i mi ddechrau ar daith anoddaf fy mywyd: gofyn am help. Gyda chariad a chefnogaeth fy ngwraig, fy mhlant ac ychydig o ffrindiau agos, llwyddais i ofyn am gymorth a chael yr help oedd ei angen arnaf. Dyna pryd y cefais wybod bod gen i iselder ar ôl geni. Doeddwn i ddim yn deall bod dynion yn gallu profi’r cyflwr.
I ddechrau, roeddwn i’n chwilio am rywle i siarad yn agored am fy mhrofiad - rhywbeth fel cyfarfod AA, lle i ddynion eistedd gyda’i gilydd a rhannu eu profiadau heb ofni na chael eu barnu. Roeddwn i eisiau rhywle i fy helpu i ddeall fy meddyliau, rhywle i wneud i mi deimlo’n llai unig. Ond doedd dim byd fel yna ar gael i dadau.
Gallai hynny fod wedi gwneud pethau’n waeth. Ond yn hytrach, roedd yn rheswm i mi ddal ati.
Yn y cyfnod anodd hwnnw, cafodd How's Dad? Sut mae Dad? ei sefydlu: menter gymdeithasol i gefnogi tadau, i godi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl dynion ac iselder ar ôl geni, ac i atal hunanladdiad.
Roeddwn i eisiau creu lle i dadau dreulio amser gwerthfawr gyda’u plant, creu cysylltiadau cryfach — ac yn bwysicach na dim — siarad yn agored am eu teimladau. Rhywle lle nad oeddent yn gorfod cymryd arnynt eu bod nhw’n iawn.
Dwi’n gryfach nag yr oeddwn i’n ei feddwl. Dwi yn ddigon. Ac mae gen i bwrpas.
Yn rhy aml o lawer, rydym ni’n edrych ar brofiadau rhieni trwy lygaid y fam yn unig. Rydym ni’n disgwyl i dadau “ymddwyn fel dyn”, bod yn gryf a dal ati - hyd yn oed os ydyn nhw’n dioddef yn dawel bach. Roeddwn i eisiau newid hynny.
Dyna pam sefydlais i How’s Dad? Sut mae Dad? Fy nod yw rhoi cyfle i bob tad gael eu gweld, eu clywed a’u cefnogi, a chreu cymuned lle gall dynion siarad yn agored am y pethau sy’n eu poeni a chael gafael ar gymorth, er mwyn sicrhau nad oes yr un dyn yn gorfod wynebu'r cyfnodau tywyllaf ar ei ben ei hun. Mae rhai wedi dweud bod y fenter hon wedi achub bywydau. Mae hynny’n golygu’r byd i mi.
Ar hyn o bryd, rwy’n ceisio ehangu darpariaeth How’s Dad? Sut mae Dad? a chynnal sesiynau yn Ynys Môn a Gwynedd. Y gobaith yw y bydd y fenter yn cyrraedd pob rhan o Gymru rhyw ddydd — ac yn llenwi’r bwlch yn y gwasanaethau iechyd meddwl i dadau.
Cyn i bopeth fynd yn ormod i mi, doeddwn i ddim yn gallu dychmygu dyfodol i mi fy hun.
Ond mae fy mhrofiadau a fy ymgais i ladd fy hun wedi dysgu rhywbeth pwysig i mi:
Dwi’n gryfach nag yr oeddwn i’n ei feddwl. Dwi yn ddigon. Ac mae gen i bwrpas.
Os ydych chi’n darllen hwn ac yn dioddef ar hyn o bryd, cofiwch: dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Gofynnwch am help. Siaradwch. Mae help ar gael ac mae gobaith i bawb - dyw fory heb ei gyffwrdd.
Aled ydw i - a dwi’n falch o’r dyn ydw i heddiw.
Related Topics
Information and support
When you’re living with a mental health problem, or supporting someone who is, having access to the right information - about a condition, treatment options, or practical issues - is vital. Visit our information pages to find out more.
Share your story with others
Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.