Dyma Cruella, fy anhwylder bwyta
Mae Georgia, o Dde Cymru, yn disgrifio ei thaith gyda'i hanhwylder bwyta.
Fy enw i yw Georgia, rwy'n 18 oed ac yn dod o dde Cymru. Rwy’n astudio Seicoleg yn y brifysgol ac yn breuddwydio am fod yn seicolegydd a theithio’r byd. Ond, am y pum mlynedd diwethaf, ryw wedi bod yn bwy o dan gysgod anhwylder bwyta, Cruella (wedi'i enwi ar ôl Cruella de vil gan fy mam).
Mae Cruella, yn araf bach, wedi llwyddo i reoli fy mywyd, gymaint felly nes fy mod i’n ysgrifennu hwn o Uned Anhwylder Bwyta ymhell o gartref. Yn sicr, nid dyma oeddwn i’n ddisgwyl fyddai fy mywyd yn 18 oed.
Pan oeddwn i’n 14 oed, gosodais nod i fi fy hunan, gydag un o’m ffrindiau ysgol, o fwyta’n iachach a cholli ychydig o bwysau. Rwy’n meddwl fy mod i'r oedran pan fyddwch chi'n poeni am sut ydych chi'n edrych ac yn cymharu eich hunan gyda phobl eraill. Rwy’n cofio, pan bwysais i fy hun gyntaf, a gweld y rhif ar y glorian. Dydw i erioed, yn fy oes, wedi teimlo cymaint o gywilydd, roeddwn i wir yn teimlo'n afiach. Trwy waith caled, roeddwn i'n gallu rhoi'r gorau i'r cyfan o'm hoff fwydydd "drwg" ac ymarfer corff cymaint â phosibl. Ar y cychwyn, roedd pobl yn eiddigeddus o’m gallu i gadw at y diet ac yn fy nghanmol am golli pwysau. Roedd yn mynd yn haws, a dydw i erioed wedi mynd yn ôl at fy hen arferion bwyta. Yn lle hynny, roeddwn i’n dal i fwyta llai ac yn ymarfer corff mwy. Dyma pryd yr oedd i’w weld mai fi oedd yr unig berson oedd yn teimlo’n bositif am y newid. Roedd pawb arall yn mynegi pryder fy mod i’n colli pwysau mor gyflym a’i fod wedi mynd yn “rhy bell”. Ond doeddwn i ddim eisiau stopio. Roedd gweld y rhifau ar y glorian yn gostwng a gallu peidio bwyta cymaint o fwydydd yn rhoi teimlad rhyfeddol i mi nad oeddwn er erioed wedi'i deimlo o'r blaen. Roedd bron yn gwneud i mi deimlo’n uwch ddynol, gyda sgil arbennig mewn gwneud dilyn diet yn hawdd ac mewn gwirionedd .... yn caethiwo. Roeddwn i’n meddwl fy mod i’n dod yn iachach ond prin y gwyddwn i mai dyma pryd oedd Cruella'n cael ei geni a'i bod hi'n mynd yn gynyddol gryfach a minnau'n wannach.
Dechreuais gael triniaeth am fy anhwylder bwyta yn 15 oed pam ddechreuodd un o’m hathrawon yn yr ysgol amau fod gen i anhwylder bwyta a chysylltu â'm mam. Roeddwn i eisoes ar restr aros CAHMS i dderbyn triniaeth am orbryder ar ôl profi trawmas yn fy mhlentyndod. Wrth ddisgwyl am gefnogaeth, gwaethygodd fy ngorbryder a daeth fy ymosodiadau panig yn amlach. Fe sylweddolais, pe byddwn i’n bwyta llai, y byddai hynny’n tawelu fy emosiynau ac y byddai fy ngorbryder yn gwella. Felly, er fy mod i, ar y cychwyn yn cymryd rhan yn y driniaeth am fy anhwylder bwyta, yn fuan iawn roeddwn i’n ôl lle roeddwn i fwyaf cyfforddus, yn gwrando ar Cruella. Aeth y cylch ymlaen am rai blynyddoedd, ar rai adegau fe fyddwn i’n gwneud yn dda iawn ac eisiau gwella, ar adegau eraill fe fyddai rhywbeth yn digwydd ac mi fyddwn yn llithro’n ôl. Roedd i’w weld yn anorfod y byddwn i'n dal i lithro'n ôl, roeddwn i'n teimlo fod gen i angen Cruella yn fy mywyd a'i bod yn amhosibl i mi ddychmygu fy hunan hebddi hi.
Roedd Cruella’n dal i fynd yn gryfach, gan achosi i’m corff fynd mor ddi-faeth a gwan nes fy mod i bron â marw. Dim ond yn yr ychydig wythnosau diwethaf ar ôl cael fy nerbyn fel claf mewnol y sylweddolais nad yw Cruella'n ffrind i mi. Roedd wedi addo gwneud pethau'n well, ond gwneud pethau'n waeth wnaeth hi. Diolch i Cruella, roedd yn rhaid i mi adael y brifysgol, rhoi'r gorau i yrru, colli cyfleoedd i wirfoddoli, ac yn waethaf oll, colli cyfleoedd i greu cymaint o atgofion gyda’r bobl rwy’n eu caru. Byddaf yn edrych yn ôl ar y cyfnod hwn yn fy mywyd ac yn cofio pa mor anhapus a pha mor unig oeddwn i ac wedi llyncu'r holl gelwyddau roedd Cruella wedi'u dweud wrthyf i. Doedd neb na dim arall yn cyfrif. Roeddwn i’n meddwl y noson o’r blaen am yr adegau pam oedd fy mam yn llefain ac yn crefu arnaf i wneud i hyn stopio ac mae'n torri fy nghalon.
Nid arnaf i yn unig roedd Cruella'n effeithio, ond ar gymaint o bobl o'm hamgylch hefyd.
Felly, erbyn hyn, rwy yn y broses o gychwyn ar fy nhaith o wella unwaith eto. Am y tro olaf.
Rwy wedi sylweddoli fy mod i ofn, ofn colli rhywbeth roeddwn i'n meddwl oedd yn fy ysgogi i wella fy hunan. Ond, ni fydd anhwylder bwyta byth yn gadael llonydd i chi, bydd yn eich gwthio ymhellach. Mwy o reolau, mwy o gyfyngiadau, mwy o euogrwydd. Rydych chi’n colli pob brwydr pob tro. Ond, mae gennym ni i gyd y gallu i wrthdroi arferion annefnyddiol. A does neb arall sy’n gallu gwneud hynny, dim ond chi. Rwy’n gorfod brwydro trwy pob pryd, byrbryd, diod, pob un diwrnod ac mae'n llethol. Ond rwy’n gwneud hynny oherwydd fy mod i’n credu fod yna fywyd gwell allan yna i mi i'w fyw. Byddai dal ati i fyw fel hyn yn golygu bywyd o ofid, ymweliadau di-ddiwedd â’r ysbyty, teimlo’n flinedig yn barhaus, bod i ffwrdd oddi wrth fy nheulu a gwylio'r byd yn mynd yn ei flaen hebddo fi. Rwy’n gallu ac rwy angen gollwng gafael ar Cruella. Os ydych chi’n credu y gallwch chi, fe allwch chi.
Gall pobl o bob rhyw, o bob oed a maint, ddioddef o Anhwylder Bwyta ond ychydig o sôn sydd amdano. Mae hynny’n bryder.
Ychydig o bobl sy’n deall peryglon anhwylder bwyta, sut i sylweddoli efallai eu bod yn dioddef o anmhwylder bwyta neu ddim yn gwybod sut i ymestyn allan a gofyn am help. Ar hyd fy nhaith i o adfer, rwy wedi dechrau gwirfoddoli gyda sawl elusen iechyd meddwl, gan obeithio y bydd fy mhrofiad i yn helpu pobl eraill. Rwy wedi bod yn gwirfoddoli gyda Mind am y ddwy flynedd ddiwethaf ac wedi cael llwyfan i adrodd fy stori ac helpu i ffurfio’r gwaith y mae Mind yn ei wneud i helpu pobl ifanc eraill sy’n cael trafferth. Mae’n hynod o bwysig nad yw unrhyw un sy’n dioddef o anhwylder bwyta’n cyrraedd pwynt o argyfwng a bod triniaeth ar gael cyn hynny. Gall salwch meddwl adael canlyniadau difrifol a hir dymor ar fywydau pobl; dyna pam fod ymyrraeth gynnar yn hanfodol. Byddai hyn yn golygu rhannu rhagor o ymwybyddiaeth ynghylch anhwylderau bwyta mewn mannau megis meddygfeydd teulu, prifysgolion, ysgolion a gweithleoedd a chael triniaeth ynghynt. Dim ond rhai o’r pethau yw'r rhain sy'n rhaid newid i helpu cymdeithas mewn argyfwng iechyd meddwl.
Mae wedi bod mor rhyfeddol troi rhywbeth sydd wedi effeithio mor negyddol arna i yn rhywbeth positif trwy ddefnyddio fy mhrofiad i helpu pobl eraill. Rwy’n edrych ymlaen at ddal ati i wirfoddoli pan fydda i’n well, ar ben yr holl uchelgeisiau cyffrous eraill sydd gen i am y dyfodol heb fy anhwylder bwyta. Teithio, prifysgol, teulu, ffrindiau ac atgofion di-ddiwedd. Weithiau, does yna’r un ffordd well, dim ond y ffordd galed a gwaith caled sydd, yn y pen draw yn arwain at lwyddiant. Rwy wedi sylwi, y mwyaf y bydda i’n herio fy anhwylder bwyta, fod pob pryd bwyd yn dod ychydig bach yn haws. Er fod meddwl am adfer yn llwyr yn ddychrynllyd, rwy'n chwilio bob dydd am y goleuni sy'n tywynnu mor ddisglair yn fy nyfodol wrth i mi fyw fy mywyd, heb Cruella.
Mae Georgia yn 18 ac yn byw mewn pentref bychan yn Ne Cymru. Mae ganddi ddiddordeb mawr mewn iechyd meddwl ac mae'n mwynhau gwirfoddoli yn ei hamser rhydd.
Information and support
When you’re living with a mental health problem, or supporting someone who is, having access to the right information - about a condition, treatment options, or practical issues - is vital. Visit our information pages to find out more.
Share your story with others
Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.