Mynd i'r ysbyty er mwyn dy iechyd meddwl – i blant 11-18 oed
Gwybodaeth ac adnoddau i dy gefnogi os wyt ti'n mynd i'r ysbyty oherwydd dy iechyd meddwl.
Gwybodaeth i dy gefnogi
Gall mynd i'r ysbyty fod yn brofiad brawychus. Ond weithiau dyma'r ffordd orau o gael y driniaeth a'r gefnogaeth sydd ei hangen arno ti.
P'un a wyt ti'n mynd i'r ysbyty fel claf anffurfiol neu os wyt ti'n cael dy secsiynu, mae'n bwysig gwybod nad wyt ti ar dy pen dy hun.
Rydym yma i ddarparu gwybodaeth ac adnoddau i dy gefnogi.
Bod yn glaf anffurfiol
Canllaw i bobl ifanc ar yr hyn sy'n digwydd pan wyt ti'n mynd i'r ysbyty fel claf anffurfiol.
Cael dy secsiynu
Canllaw i bobl ifanc ar beth sy'n digwydd pan wyt ti'n cael dy secsiynu.
Dy hawliau yn yr ysbyty
Gwybodaeth am ba hawliau sydd gennyt yn yr ysbyty fel claf anffurfiol neu pan wyt ti'n cael dy secsiynu.
Adran geirfa triniaeth a chefnogaeth
Mae’r adran hon yn egluro’r geiriau a’r ymadroddion gallet ti clywed pan wyt ti'n cael triniaeth a chefnogaeth ar gyfer dy iechyd meddwl.
Heb y gefnogaeth a'r help gan y tîm, dydw i wir ddim yn meddwl y byddwn i wedi goresgyn fy mhroblemau. Mae mynd i'r ysbyty yn disgwyl yn frawychus iawn ond doedd e ddim mor ddrwg na mor frawychus ag yr oeddwn i'n ei feddwl.