Dyma'r ail flwyddyn i ni rannu ein cipolwg blynyddol ar iechyd meddwl yng Nghymru a Lloegr. Mae'r adroddiad yn dangos i ni sut mae pobl yn gwneud, sut mae gwasanaethau'n gweithio, a beth sydd angen ei newid o hyd. Gyda chymorth y Ganolfan Iechyd Meddwl a’n partneriaid ymchwil, rydyn ni wedi creu’r darlun cliriaf hyd yma o iechyd meddwl ar hyn o bryd.
Rydyn ni wedi casglu’r canfyddiadau allweddol ar y dudalen hon.
Neidiwch i:
Pennod 1: Cyflwr iechyd meddwl ar hyn o bryd
1. Gwella mynediad amserol at gymorth iechyd meddwl o safon
Mae'n hanfodol bod pobl yn cael y cymorth iechyd meddwl iawn pan fydd ei angen arnyn nhw, fel nad ydyn nhw'n mynd yn fwy sâl - mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i wasanaethau iechyd meddwl newid a gwella.
2. Cefnogi pobl ifanc gyda’u hiechyd meddwl
Mae mwy o bobl ifanc yn wynebu problemau iechyd meddwl ond ni allant gael cymorth pan fydd ei angen arnyn nhw. Mae angen gweithredu i gefnogi pobl ifanc gyda'u hiechyd meddwl ac atal mwy ohonyn nhw rhag cyrraedd argyfwng.
3. Mynd i’r afael â stigma a gwahaniaethu iechyd meddwl
Mae stigma a gwahaniaethu iechyd meddwl dal yn broblem. Mae angen ymyriadau wedi'u targedu arnom i fynd i'r afael â'r heriau hyn, gan gynnwys gwella data iechyd meddwl a buddsoddi mewn rhaglenni i fynd i’r afael â stigma.
4. Delio â ffactorau cymdeithasol sy’n effeithio ar iechyd meddwl
Gall sawl ffactor achosi i rywun brofi iechyd meddwl gwael neu wneud i broblem iechyd meddwl sy'n bodoli’n barod waethygu, fel tlodi, ansicrwydd gwaith a thai o ansawdd gwael. Mae angen ymdrech i fynd i'r afael â ffactorau o'r fath er mwyn gwella iechyd meddwl ein cenedl.
Rhagair gan Dr Sarah Hughes, Prif Swyddog Gweithredol Mind
Mae iechyd meddwl yn y DU ar groesffordd.
Nid yw’n gyfrinach fod nifer y bobl sy'n cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl yn cynyddu'n gyflym. Mae'r rhan fwyaf ohonom naill ai'n byw gyda phroblem iechyd meddwl neu'n adnabod rhywun. Ac mae'r data'n ategu hyn - mae problemau iechyd meddwl cyffredin, fel gorbryder ac iselder, ar gynnydd. Mae'n amlwg nad yw iechyd meddwl yn bodoli yn y tywyllwch erbyn hyn, gyda mwy o bobl nag erioed yn siarad yn agored am eu hiechyd meddwl - mewn teuluoedd, gweithleoedd, cymunedau, a hyd yn oed ar y llwyfannau cyhoeddus mwyaf.
Felly pam, er gwaethaf y profiad cyffredin hwn a bod yn fwy agored wrth siarad amdano, ein bod ni’n dal i gael trafferth datrys yr heriau o fewn iechyd meddwl?
Yn rhannol, mae hyn oherwydd cynnydd paradocsaidd mewn sinigiaeth ynglŷn ag iechyd meddwl. Mae profiadau pobl ifanc yn benodol yn cael eu cwestiynu, gyda honiadau o or-ddiagnosis a diffyg gwydnwch. Mae'r naratif hwn yn peryglu dadwneud degawdau o gynnydd. Ond mae gan lawer ohonoch chi sy'n darllen hwn y pŵer i newid pethau - i atal mwy o bobl rhag mynd yn sâl ac i sicrhau bod y rhai sydd angen help yn ei gael.
Wrth i amheuaeth y cyhoedd a'r llywodraeth barhau, mae'r broblem yn dyfnhau. Dyna pam mae'r adroddiad hwn yn fwy na dim ond ymchwil – mae'n alwad i uno. Ni allwn adael i iechyd meddwl ddod yn ddioddefwr rhyfeloedd diwylliannol cymdeithas. Rhaid i ni warchod y cynnydd rydyn ni wedi'i wneud wrth ei dynnu o'r cysgodion. Mae hynny'n dechrau gyda'r ffeithiau – ac mae’r Adroddiad Iechyd Meddwl Mawr yn cyflwyno’r ffeithiau hynny. Dyma gipolwg blynyddol o gyflwr go iawn iechyd meddwl yng Nghymru a Lloegr, gan ddangos beth sy'n gweithio a lle mae angen newid brys. Dim sbin, dim newyddion ffug, dim rhyfeloedd diwylliannol.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydyn ni wedi gweld cynnydd, ac mae hynny i’w groesawu. Yn Lloegr, mae'r Llywodraeth yn agos at basio diwygiad hir-ddisgwyliedig o'r Ddeddf Iechyd Meddwl ac wedi cyhoeddi Cynllun Iechyd 10 Mlynedd sy'n cynnwys cyfres o ymrwymiadau iechyd meddwl. Yng Nghymru, mae strategaeth iechyd meddwl a llesiant 10 mlynedd arloesol yn rhoi lle blaenllaw a chanolog i gymorth cynnar, holistig.
Ond mae'r cynnydd yn rhy araf. Mae gormod o bobl yn mynd yn sâl. Mae gormod yn sownd ar restrau aros heb y gofal sydd ei angen arnyn nhw ar frys.
Mae Llywodraeth y DU yn dweud y dylid trin iechyd meddwl fel blaenoriaeth gyfartal ag iechyd corfforol, ond rhaid i'r addewid hwnnw gael ei ategu gan weithredu. Mae hyn yn dechrau gyda sgwrs sy'n cydnabod maint y broblem, yn arwain gyda thosturi ar gyfer y rhai sy'n ei chael hi'n anodd ar hyn o bryd, ac yn sicrhau gofal amserol o ansawdd uchel i bawb. Oherwydd y tu ôl i bob ystadegyn yn yr adroddiad hwn mae person go iawn - a ffrindiau, teuluoedd a chymunedau sy’n gwneud popeth o fewn eu gallu i'w helpu i lywio system gymhleth, dan bwysau.
Nid rhywbeth “braf i'w gael" yw iechyd meddwl da - dyma'r sylfaen ar gyfer cymdeithas iach a ffyniannus. Mae'n cadw pobl mewn gwaith, yn adeiladu cymunedau cryf, ac yn cefnogi iechyd corfforol da. Rydyn ni’n clywed y straeon hyn bob dydd yn ein siopau, mewn cymunedau ledled Cymru a Lloegr ac yn gweld effaith cymorth iechyd meddwl sy'n newid bywydau yn uniongyrchol drwy ein rhwydwaith o bron i 100 o ganghennau Mind lleol.
Nawr yw'r amser i ddod at ein gilydd am iechyd meddwl gwell. P'un a ydych chi'n ymgyrchydd, yn ddarparwr gwasanaeth, yn wneuthurwr polisi, neu'n rhywun sy'n gofalu, gobeithiwn y bydd yr adroddiad hwn yn rhoi’r wybodaeth a'r dystiolaeth i chi fynnu gwell - ac i weithredu.

Mae 1 o bob 5 oedolyn yn Lloegr yn byw gyda phroblem iechyd meddwl gyffredin ac mae'r cyfraddau'n codi'n gyson
Fe wnaethon ni ganfod bod gan oedolion yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig gyfraddau uwch o broblemau iechyd meddwl (26.2%) na'r rhai yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig (16.0%)
Yn Lloegr, amcangyfrifir fod cost iechyd meddwl gwael yn £300 biliwn y flwyddyn
Mae llesiant meddyliol wedi bod yn dirywio'n raddol ers 2016-17
Dywedodd 4 ym mhob 5 (82%) eu bod yn teimlo’n bryderus am faterion mawr fel rhyfel a gwrthdaro
Roeddwn i'n arfer bod yn egnïol iawn pan oeddwn i'n blentyn. Roeddwn i'n arfer nofio, Brownis. Roeddwn i’n arfer dawnsio tair gwaith yr wythnos. A fesul un, dechreuais roi'r gorau i bob dim.
- Georgia
Effeithiau’r pandemig
Dywedodd bron i 2 ym mhob 5 oedolyn fod ganddyn nhw symptomau gorbryder neu iselder yn ystod blwyddyn gyntaf Covid.
Dywedodd bron i 1 ym mhob 3 oedolyn fod eu hiechyd meddwl wedi dirywio o’i gymharu â lefelau cyn y pandemig.
Roedd yr effaith yn anwastad: pobl a oedd eisoes yn ei chael hi'n anodd, cymunedau wedi'u dosbarthu yn ôl hil, a'r rhai mewn tlodi a gafodd eu taro galetaf.
Toriadau i wasanaethau cyhoeddus
Yn Lloegr yn ystod 2024, roedd cyllid craidd cynghorau fesul preswylydd 18% yn is mewn termau real nag yn 2010.
Rhwng 2011 a 2019–20, fe wnaeth grant bloc Llywodraeth Cymru oddi wrth Lywodraeth y DU ostwng 5% mewn termau real.
Gwasanaethau ieuenctid a chanolfannau plant sydd wedi’u taro galetaf, gyda chyllid i lawr 70% ers 2010-11.
Tlodi plant
Mae iechyd meddwl pobl ifanc yn Lloegr yn gwaethygu. Yn 2023, dywedodd 1 ym mhob 5 o bobl ifanc 8-25 oed eu bod yn byw gyda phroblem iechyd meddwl bosib.
O fis Ebrill 2024, roedd 4.5 miliwn o blant yn y DU, y nifer uchaf erioed, yn tyfu i fyny mewn tlodi cymharol.
Mae plant o'r 20% o gartrefi lleiaf cefnog 4 gwaith yn fwy tebygol o brofi trafferthion iechyd meddwl difrifol.
Yn 2023-24, cafwyd 2.8 miliwn o atgyfeiriadau i wasanaethau iechyd meddwl cymunedol i oedolion yn y DU
Mae tua 5,500 yn cael eu derbyn i'r ysbyty bob blwyddyn yng Nghymru yn dilyn hunan-niweidio - un o'r pum prif reswm dros dderbyn cleifion i'r ysbyty

Aros am help
Dywedodd dros 1 ym mhob 3 fod eu hiechyd meddwl wedi dirywio tra’n aros am apwyntiad gyda’u meddyg teulu neu fudiad gwirfoddol/trydydd sector
Nododd 30% o'r rhai a oedd yn aros am gymorth (o'r ddau sector) eu bod wedi gorfod cael mynediad at gymorth mewn mannau eraill

A yw anghenion cymorth pobl yn cael eu diwallu?
Dywedodd 33% o'r rhai a oedd yn defnyddio cymorth meddyg teulu nad oedd yn diwallu eu hanghenion – cynnydd o 27% yn 2019
Dywedodd 34% o ymatebwyr eu bod wedi cael eu trin yn annheg yn y gorffennol wrth dderbyn cymorth wrth eu meddyg teulu

Ces i fy rhoi ar restr aros ar ôl rhestr aros, gan aros dros flwyddyn weithiau am asesiad cychwynnol.
- Gavin

Mae dealltwriaeth o iechyd meddwl yn llithro: yn 2024, fe wnaeth sgoriau gwybodaeth ostwng islaw lefelau 2009 am y tro cyntaf.

Roedd pobl oedd yn fodlon gweithio gyda rhywun â phroblem iechyd meddwl wedi gostwng o 77% yn 2023 i 74% yn 2024.

Dim ond 63% gytunodd nad oes “dim byd i’w ofni wrth bobl yn dod i’w cymdogaeth i gael gwasanaethau iechyd meddwl”.
Mae camddealltwriaeth o sgitsoffrenia yn parhau’n uchel:
- Cododd y gyfradd a oedd yn cytuno â “Mae pobl â sgitsoffrenia yn berygl i eraill” o 27% yn 2023 i 32% yn 2024.
- Dywedodd 46% y dylai pobl â sgitsoffrenia allu “tynnu eu hunain at ei gilydd.”
Rhaid i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru weithredu nawr
Rydyn ni’n galw ar y llywodraeth i wneud y canlynol:
Gwella mynediad amserol at gymorth iechyd meddwl o safon
Cefnogi pobl ifanc gyda’u hiechyd meddwl i’w hatal rhag cyrraedd argyfwng
Mynd i’r afael â stigma a gwahaniaethu iechyd meddwl gydag ymyriadau wedi’u targedu
Delio â ffactorau cymdeithasol sy’n cyfrannu at iechyd meddwl gwael
Wnewch chi ein helpu ni?
Dim ond gyda'ch help chi y gallwn ni wneud newidiadau mawr.
Dyma rai ffyrdd y gallwch chi helpu Mind i frwydro dros iechyd meddwl:
Dysgwch am yr holl ffyrdd y gallwch chi godi arian ar gyfer Mind, o heriau egnïol i werthu cacennau. Mae rhywbeth i bawb.
Bydd eich rhoddion yn sicrhau y gallwn barhau i frwydro dros y bobl sydd ein hangen fwyaf.
Mae ein hymgyrchwyr yn codi llais am y problemau go iawn sy'n effeithio ar bobl â phroblemau iechyd meddwl. Darllenwch sut i gofrestru fan hyn.
Lawrlwythwch yr Adroddiad Iechyd Meddwl Mawr
Lawrlwythwch fel ffeil Word hygyrch
Oni nodir yn wahanol, mae'r ystadegau ar y dudalen hon yn cyfeirio at Gymru a Lloegr. Mae cyfeiriadau at yr holl ddata ar y dudalen hon ar gael yn yr adroddiad llawn.