Rydyn ni wedi dod â data am broblemau iechyd meddwl, stigma a gwahaniaethu at ei gilydd, ochr yn ochr â phrofiadau pobl go iawn, i un adroddiad blynyddol er mwyn rhoi darlun llawn o gyflwr iechyd meddwl ar hyn o bryd.
Mae’r argyfwng iechyd meddwl presennol yn un sy’n torri ar draws holl feysydd bywyd – o dai, i fudd-daliadau, cyflogaeth a mwy. Mae'r adroddiad hwn yn rhoi darlun o iechyd meddwl sy'n gwaethygu ar draws Cymru a Lloegr a gwasanaethau sy'n ei chael yn anodd ymdopi â'r galw.
Rydyn ni eisiau i’r data a’r profiadau yn yr adroddiad roi darlun clir i bobl o’r hyn sy’n digwydd nawr fel ein bod, gyda’n gilydd, yn gwybod ble mae angen i ni ganolbwyntio ein hymdrechion. Bydd yn ein helpu i ddod â'r argyfwng iechyd meddwl i ben ac i wneud yn siŵr ein bod yn meddwl am bob meddwl.
Rhagair gan Dr Sarah Hughes, Prif Swyddog Gweithredol Mind
Rydyn ni yng nghanol argyfwng iechyd meddwl ar hyn o bryd.
Mae maint a difrifoldeb anghenion iechyd meddwl ar gynnydd, ond mae gormod ohonom ni ddim yn cael yr help sydd ei angen arnom. Mae diffyg cyllid ac adnoddau, ansicrwydd ariannol, hiliaeth, gwahaniaethu, stigma – i gyd yn chwarae rhan yn y problemau sy’n wynebu llawer ohonom. Mae'r system ar y dibyn, a heb weithredu brys, bydd pethau'n gwaethygu. Byddai hyn yn drychineb i bobl a’u cymunedau.
Gall byw gyda phroblem iechyd meddwl yn aml dorri ar draws sawl maes ym mywyd rhywun – o ofal iechyd ac addysg, i fudd-daliadau a chyflogaeth, perthnasoedd a hunaniaeth. Nid y GIG yn unig sy’n ein hamddiffyn a’n cefnogi ni – mae achosion a ffactorau amddiffynnol ar gyfer ein hiechyd meddwl o’n hamgylch ym mhob man, yn y cymunedau rydyn ni’n byw a'r bywydau rydyn ni’n eu harwain. Rydyn ni’n glir bod yn rhaid i bethau newid, ond yn hollbwysig, y gallant newid. Ond i fynd i’r afael â’r argyfwng iechyd meddwl, mae angen i ni ei ddeall yn gyntaf. Mae hynny’n golygu cael ffynhonnell glir a chyson o wybodaeth sy’n amlinellu’r hyn sy’n digwydd a lle mae angen gwelliannau.
Mae’r Adroddiad Iechyd Meddwl Mawr wedi’i gynllunio i wneud yn union hynny. Am y tro cyntaf, bydd gennym drosolwg blynyddol o gyflwr iechyd meddwl yng Nghymru a Lloegr o’r dystiolaeth ddiweddaraf sydd ar gael. Mae'n dod â data at ei gilydd, sydd ar gael yn gyhoeddus, am iechyd meddwl, stigma a gwahaniaethu ochr yn ochr â lleisiau pobl sydd â phrofiad uniongyrchol o fyw gyda phroblem iechyd meddwl. Bydd ein almanac blynyddol yn cynnig ffynhonnell ddibynadwy o wybodaeth fel ein bod ni i gyd yn gwybod yn union beth rydyn ni'n siarad amdano.
Yn ogystal ag amlygu’r cynnydd sydd wedi’i wneud, mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar feysydd lle mae angen i ni fynd ymhellach i greu cymdeithas sy’n feddyliol iach. Nid yw’r rhain yn syniadau newydd – rydyn ni wedi cael yr un atebion i achosion salwch meddwl a'r atebion i'r argyfwng hwn, ers blynyddoedd lawer. Ond dim ond os bydd llywodraethau'n troi at y syniadau hyn ac yn buddsoddi mewn iechyd meddwl y byddwn yn dechrau gweld gwahaniaeth go iawn gyda gweledigaeth sy'n delio â'r heriau hirsefydlog. Mae hyn yn hanfodol i sicrhau nad yw pobl yn profi iechyd meddwl gwael oherwydd esgeulustod cymdeithasol neu’n methu â chael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw, pan fydd ei angen arnyn nhw.
Ers blynyddoedd, mae Mind wedi arwain y ffordd gyda nifer o newidiadau positif rydyn ni wedi’u gweld ym maes iechyd meddwl. Gall pobl siarad am eu hiechyd meddwl mewn ffyrdd nad oedden nhw’n gallu gwneud pan ddechreuais i fy ngyrfa. Serch hynny, yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydyn ni wedi gweld dirywiad mewn agweddau, ac mae’r cynnydd rydyn ni wedi’i wneud yn dal yn agored i densiynau a phwysau cymdeithasol a gwleidyddol. Rydyn ni’n arbennig o bryderus am y rheini ohonom sydd â salwch meddwl difrifol, sef y rheswm dros benderfynu mynd amdani gyda’n gwaith gwrth-stigma. Ein gobaith ar gyfer yr adroddiad hwn yw ei fod yn cyfrannu at ail-gydbwyso ffocws fel bod y rhai sydd angen ein cymorth fwyaf yn gallu ei gael.
Nawr yw’r amser. Bydd yr adroddiad hwn yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i fod yn rhan o’r mudiad cymdeithasol er mwyn cael iechyd meddwl gwell. Defnyddiwch y wybodaeth yma i ddeall beth sy’n gweithio a beth sydd ddim yn gweithio ac i wthio am welliant. Ni ddylai dirywiad mewn iechyd meddwl y genedl fod yn anochel – mae gennym ni’r pŵer i’w newid gyda’n gilydd.
Diolch am eich cefnogaeth.
Yn Lloegr, amcangyfrifir y bydd 1 ym mhob 4 ohonom yn profi problem iechyd meddwl ar ryw bwynt bob blwyddyn.
Mae ymchwil yn dangos bod oedolion a phobl ifanc fel ei gilydd yn teimlo bod eu llesiant yn gwaethygu, gydag oedolion yn dweud eu bod yn teimlo’n fwy unig. Roedd 7.8% o oedolion yn y DU yn teimlo’n unig “drwy’r amser neu’n aml” yn 2024.
Yn Lloegr, amcangyfrifir fod cost iechyd meddwl gwael yn £300 biliwn y flwyddyn.
Yn 2023, achoswyd 6,069 o farwolaethau cofrestredig gan hunanladdiad - roedd 75% yn ddynion.
Mae disgwyliad oes pobl â salwch iechyd meddwl difrifol tua 15-20 mlynedd yn fyrrach na'r rhai heb.
Mae gwasanaethau iechyd meddwl yn cael trafferth ymdopi â’r galw - mae'r niferoedd yn adrodd cyfrolau
Mae maint a difrifoldeb anghenion iechyd meddwl ar gynnydd, ond mae gormod o bobl yn cael trafferth cael mynediad at y gofal o ansawdd sydd ei angen arnyn nhw, pan fydd ei angen arnyn nhw.
Dros 2 filiwn
o bobl ar restrau aros am gymorth iechyd meddwl y GIG yn Lloegr yn unig.
6.4 miliwn
o atgyfeiriadau yn Lloegr i NHS Talking Therapies a gwasanaethau iechyd meddwl eraill yn 2021/22.
Dros 30%
o welyau cleifion mewnol wedi’u colli yng Nghymru rhwng 2011/12 a 2021/22.
28,663
o swyddi gwag yn y gweithlu iechyd meddwl cyfan yn Lloegr.
Nid yw aros 2, 3, 4 wythnos yn ddefnyddiol iawn pan fydd fy mhen yn dweud y byddai’n well pe na bawn i yma.
Cyfranogwr cymunedol ar-lein. Menyw, gwyn Prydeinig, mewn perygl o dlodi, byw gydag anhwylder personoliaeth.
Mae trafferthion ariannol a phroblemau iechyd meddwl yn creu cylch dieflig i lawer yng Nghymru a Lloegr
Mae problemau iechyd meddwl yn rhoi straen ar gyllid personol. Ar yr un pryd, mae peidio â chael digon o arian yn ffactor risg o ran problemau iechyd meddwl.
Yn 2023, roedd 1 ym mhob 4 taliad annibyniaeth personol (PIP) newydd oherwydd iselder a gorbryder.
Yn Lloegr, mae pobl sydd â phroblem iechyd meddwl yn ennill bron i £10,000 yn llai y flwyddyn na rhywun sydd heb problem iechyd meddwl.
yw'r nifer o bobl yn y DU a ddywedodd fod yr argyfwng costau byw yn niweidio eu llesiant.
Mae pobl ifanc yn parhau i wynebu heriau gyda’u hiechyd meddwl
Mae pobl ifanc a phlant yn wynebu nifer o anawsterau gyda’u hiechyd meddwl, ond mae’r gwasanaethau yn y GIG ac ysgolion yn methu ag ymdopi oherwydd lefel yr angen.
Mae gan 1 ym mhob 5 plentyn neu berson ifanc o oed ysgol anhawster iechyd meddwl. Dim ond traean oedd yn gallu cael mynediad at driniaeth yn Lloegr y llynedd.
Cafwyd cynnydd o 34 pwynt canran yn nifer y plant a phobl ifanc a atgyfeiriwyd â gorbryder yng Nghymru rhwng 2015/16 a 2022/23.
Mae gwasanaethau iechyd meddwl plant a phob ifanc bellach yn gyfystyr â dros £1 biliwn o wariant y GIG yn Lloegr bob blwyddyn.
Yn Lloegr, roedd 11% o bobl ifanc 8-16 oed ag anhawster iechyd meddwl wedi colli dros 15 diwrnod o ysgol mewn 1 tymor.
Yng Nghymru, roedd 29% o blant wedi cyrraedd y trothwy ar gyfer absenoldeb parhaus yn y flwyddyn ysgol 2023-2024.
Roedd plant a phobl ifanc yn Lloegr ag anhawster iechyd meddwl yn llawer mwy tebygol o fod wedi cael eu bwlio ar-lein o’i gymharu â’r rhai heb anhawster iechyd meddwl.
Rydyn ni’n poeni bod stigma a gwahaniaethu yn gwaethygu
O ran agweddau tuag at iechyd meddwl, mae ein hymchwil yn awgrymu bod pethau wedi dechrau llithro’n ôl ar ôl blynyddoedd o welliannau.
Gellir dod o hyd i stigma a gwahaniaethu iechyd meddwl yn y system gofal iechyd hefyd. Ac mae hiliaeth, trais hiliol a throseddau casineb yn bygwth diogelwch a llesiant meddyliol nifer o gymunedau.
Mae gwybodaeth y cyhoedd o rai agweddau ar iechyd meddwl wedi gostwng i lefelau 2009.
Cefais bwl o banig yng nghanol canolfan siopa. Roedd staff diogelwch a'r heddlu yn meddwl fy mod o dan ddylanwad diod a/neu gyffuriau.
Cyfranogwr cymunedol ar-lein. Gwryw, gwyn Prydeinig, mewn tlodi, yn byw gydag anhwylder deubegynol a seicosis.
Mae bywyd gyda salwch meddwl difrifol yn fwy anodd bob tro
Mae pobl sydd â salwch meddwl difrifol 5 gwaith yn fwy tebygol o farw cyn 75 oed na gweddill poblogaeth y DU.
Mae heriau byw gyda salwch meddwl difrifol yn cael eu gwaethygu gan anghyfiawnderau cymdeithasol, gwahaniaethu ac anfantais.
Rydw i'n brwydro yn erbyn fy mhroblemau iechyd meddwl fy hun yn gyson ac yn jyglo beth sy'n mynd ymlaen yn fy mhen. Mae pethau’n heriol iawn o ddydd i ddydd, ac rwy’n gweld fy hun ar ysgol barhaus o ymdopi a brwydro.
Cyfranogwr cymunedol ar-lein. Menyw, Pacistanaidd, mewn tlodi, byw gydag anhwylderau personoliaeth.
Rhaid i lywodraethau’r DU a Chymru weithredu nawr i ddod â’r argyfwng iechyd meddwl i ben
Sicrhau bod pobl sydd â phroblem iechyd meddwl yn derbyn gofal o ansawdd, yn brydlon
Cefnogi pobl ifanc gyda'u hiechyd meddwl i'w hatal rhag cyrraedd argyfwng
Taclo stigma a gwahaniaethu iechyd meddwl gydag ymyriadau wedi'u targedu
Mynd i'r afael â’r ffactorau cymdeithasol sy'n cyfrannu at iechyd meddwl gwael
Diolchiadau
Mae’n fraint i ni gael lansio’r prosiect trawsnewidiol hwn mewn partneriaeth â Sefydliad Exilarch y teulu Dangoor, er cof am Robert D.S. Dangoor. Bydd rhodd hael y Sefydliad yn ariannu ymchwil dros 8 mlynedd i helpu i ysgogi newid cymdeithasol positif ar draws y sector iechyd meddwl.
Cafodd Sefydliad Exilarch ei greu gan Syr Naim Dangoor, ac mae bellach yn cael ei redeg gan ei feibion, David, Michael ac Elie Dangoor. Yn anffodus, bu farw eu brawd Robert D. S. Dangoor yn 2022 a dewisodd y teulu wneud rhywbeth positif er cof amdano. Mae’r sefydliad wedi bod yn hael wrth gychwyn, arwain a chefnogi nifer o achosion, sy’n ymwneud gan fwyaf ag addysg, iechyd a hybu harmoni rhyng-ffydd.
Ni fyddai’r fenter hon yn bosib heb brofiad a gwybodaeth eraill o fewn y sector iechyd meddwl. Mae ein grŵp cynghori, sy’n cynnwys unigolion blaenllaw sy’n gweithio ym maes iechyd meddwl, wedi helpu i siapio’r darn hwn o waith – a bydd yn parhau i wneud hynny yn y blynyddoedd i ddod.
Aelodau’r grŵp cynghori ar gyfer adroddiad 2024:
- Syr Simon Wessley, Athro Seiciatreg yn Sefydliad Seiciatreg, Seicoleg a Niwrowyddoniaeth, Coleg King’s Llundain
- Yr Athro Louis Appleby, Athro Seiciatreg ym Mhrifysgol Manceinion a Chyfarwyddwr Ymchwiliad Cyfrinachol Cenedlaethol i Hunanladdiadau a Diogelwch mewn Iechyd Meddwl
- Kadra Abdinasir, Cyfarwyddwr Cyswllt Polisi yn y Ganolfan Iechyd Meddwl
- Andy Bell, Prif Swyddog Gweithredol y Ganolfan Iechyd Meddwl
- Daniel Dangoor, Sefydliad Exilarch, cyllidwr yr Adroddiad Iechyd Meddwl Mawr
- Jacqui Dyer MBE, Ymgynghorydd iechyd a gofal cymdeithasol annibynnol
- Phil Chick, Aelod Pwyllgor Mind Cymru, penodwyd fel Cyfarwyddwr Cenedlaethol cyntaf Iechyd Meddwl Cymru
- Claire Henderson, Athro Clinigol Iechyd Meddwl y Cyhoedd yng Ngholeg King’s Llundain
- Yr Athro Ian Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol Prifysgol Caerdydd
Mae’r Ganolfan Iechyd Meddwl wedi cynghori ac arwain y prosiect hwn drwy eu rôl ar y panel. Maent hefyd wedi helpu i gynhyrchu adroddiad eleni, gan ddod â data a gwybodaeth gyfredol at ei gilydd am broblemau iechyd meddwl, gwasanaethau, stigma a gwahaniaethu. Mae wedi helpu i roi darlun llawn i ni o gyflwr iechyd meddwl ar hyn o bryd.
Fel rhan o’r ymchwil ar gyfer yr adroddiad hwn, clywsom wrth 49 o oedolion â phroblemau iechyd meddwl difrifol a pharhaus am y cymorth y maent wedi’i dderbyn, eu profiadau o stigma a gwahaniaethu a’u barn am sut dylai cymorth iechyd meddwl fod yn y dyfodol.
Cynhaliwyd yr ymchwil hwn gan YouGov ar ran Mind. Mae taflu goleuni ar leisiau’r rhai sydd â phrofiadau uniongyrchol yn allweddol i sicrhau nad oes unrhyw feddwl yn cael ei adael ar ôl wrth i ni weithio i wella’r system iechyd meddwl. Caiff eu profiadau eu rhannu drwy gydol yr adroddiad.
Lawrlwytho’r Adroddiad Iechyd Meddwl Mawr
Lawrlwytho fel ffeil Word hygyrch
Oni nodir yn wahanol, mae'r ystadegau ar y dudalen hon yn cyfeirio at Gymru a Lloegr. Mae cyfeiriadau ar gyfer yr holl ddata ar y dudalen hon ar gael yn yr adroddiad llawn.