Symud o CAMHS i AMHS
Gwybodaeth i bobl ifanc 11-18 oed am beth i’w ddisgwyl wrth adael CAMHS i symud i AMHS.
Mae’r dudalen hon yn ymdrin â:
Beth ddylai ddigwydd pan fydda i’n cael fy nghyfeirio at AMHS?
Pan fydd AMHS yn cael eich atgyfeiriad gan CAMHS, yn gyntaf bydd angen iddo ganfod beth rydych chi’n ei brofi a pha gymorth sydd ei angen arnoch. Mae hyn yn cael ei wneud er mwyn iddyn nhw allu penderfynu a yw eu gwasanaeth yn addas i chi.
Gallan nhw wneud hyn drwy'r canlynol:
- Edrych ar eich nodiadau meddygol. Mae gan eich meddyg a’ch tîm CAMHS wybodaeth amdanoch chi. Fel arfer, cyn eich atgyfeirio at wasanaeth arall bydd rhaid i chi roi caniatâd i’ch gwybodaeth gael ei rhannu. I gael gwybod mwy, edrychwch ar ein tudalen ar gyfrinachedd.
- Siarad â’ch tîm CAMHS. Efallai y bydd rhywun o AMHS yn cwrdd â phobl o’ch tîm CAMHS i drafod eich anghenion.
- Siarad â’ch rhieni. Efallai y bydd AMHS yn gofyn am gael siarad â’ch rhieni, eich gofalwyr neu’ch gwarcheidwaid.
- Cwrdd â chi a gwrando ar ba gymorth sydd ei angen arnoch chi. Efallai y byddwch chi’n cwrdd â rhywun o AMHS i drafod sut rydych chi wedi bod yn teimlo, a beth rydych chi’n meddwl sydd ei angen arnoch chi.
Os ydych chi eisiau i AMHS wybod am rai pethau, dylech chi ofyn i’r person sy’n rheoli’r broses o’ch symud yn CAMHS. Gallant eich cynghori ar y ffordd orau o ddweud wrthynt.
Os ydy AMHS yn credu bod eu gwasanaeth yn addas i chi, byddan nhw’n cysylltu â chi i wneud apwyntiad.
Rydw i’n meddwl bod sgwrs wedi bod ar ryw adeg am yr hyn y byddwn i eisiau gan wasanaethau oedolion. Gofynnais am ‘gwaith trawma’, a ‘iawn’ medden nhw. Yna fe gawson ni’r atgyfeiriad. Meddyliais ‘iawn, mae hynny’n dda, maen nhw’n fy nghymryd o ddifri.’
Cynhaliodd CAMHS asesiad dros y ffôn i weld a ddylwn gael fy atgyfeirio at wasanaethau oedolion. Penderfynwyd y dylwn. Dywedwyd fod hynny’n ganlyniad da iawn, nad yw hynny’n digwydd yn aml iawn ac y dylen ni deimlo’n ffodus iawn.
A fydd amseroedd aros hir ar gyfer AMHS?
Ar ôl i CAMHS eich atgyfeirio chi, efallai y bydd AMHS yn eich rhoi ar restr aros cyn iddyn nhw ystyried eich atgyfeiriad. Mae’n dibynnu ar yr ardal rydych chi’n byw ynddi a’r math o gefnogaeth sydd ei hangen arnoch, ond yn gyffredinol mae’r rhestrau aros yn hir iawn. Efallai eich bod wedi cael problemau tebyg gydag amseroedd aros hir yn CAMHS.
Hyd yn oed ar ôl i AMHS dderbyn eich atgyfeiriad, efallai y bydd yn rhaid i chi aros cyn y gallwch ddechrau cael triniaeth a chymorth. Gall aros deimlo’n rhwystredig ac yn ofidus iawn, yn enwedig os ydych chi wedi bod yn gwneud cynnydd da gyda CAMHS.
Os ydych chi’n cael pethau’n anodd, darllenwch ein gwybodaeth am sut i ymdopi wrth aros am gymorth a gofalu am eich llesiant.
Dywedodd rhai o’r bobl ifanc y buom yn siarad â nhw am amseroedd aros wrth symud:
Cefais lythyr yn y post yn dweud fy mod wedi cael fy nerbyn ar DBT i oedolion* ond byddai’n rhaid aros 8 mis.
Doedd pethau ddim yn gwaethygu, ond yn yr amser aros hwnnw, dydych chi ddim yn siŵr a ydych chi’n mynd i gael y cymorth sydd ei angen arnoch chi.
Pan ddaeth fy hen seicolegydd yn ôl ar ôl absenoldeb mamolaeth, dychrynodd wrth weld fy mod i ar y rhestr aros o hyd. Gadawodd fi 18 mis yn ôl, ond deliodd â fy achos eto pan ddaeth yn ôl.
Doeddwn i ddim yn deall y byddai’n gymaint o waith aros, nac y byddai bwlch o’r fath. Roeddwn i’n meddwl y byddai fel mynd o CAMHS arferol i DBT, neu fel rhaglen wahanol.
*Ystyr DBT ydy therapi ymddygiad dialectig.
Sut mae AMHS yn wahanol i CAMHS?
Mae pob gwasanaeth iechyd meddwl ychydig yn wahanol, ond mae rhai pobl ifanc yn gweld bod AMHS yn edrych ac yn teimlo’n wahanol iawn i CAMHS.
Efallai y gwelwch chi:
- Bod eich perthynas â’ch tîm gofal yn wahanol
- Rydych chi’n cael mwy neu lai o gymorth nag y gwnaethoch chi yn CAMHS
- Mae gwahanol fathau o opsiynau o ran cymorth a thriniaeth
- Rydych chi mewn grwpiau gydag oedolion hŷn na chi, oherwydd mae AMHS yn cefnogi pobl hyd at unrhyw oed
- Gall staff siarad â rhieni, gofalwyr a gwarcheidwaid yn llai nag yr oeddent yn CAMHS – os ydych chi’n dal eisiau iddynt gymryd rhan, dylech wneud hyn yn glir
- Efallai y bydd AMHS yn canolbwyntio mwy ar eich diagnosis o iechyd meddwl, yn hytrach na llawer o bethau gwahanol sy’n digwydd yn eich bywyd
Efallai fod y gwahaniaeth rhwng CAMHS ac AMHS ychydig yn frawychus ac yn llethol i ddechrau. I gael gwybod am ffyrdd o wneud i bethau deimlo ychydig yn haws, edrychwch ar ein tudalen awgrymiadau ar gyfer rheoli eich symudiad.
Mae rhai o’r bobl ifanc y buom yn siarad â nhw wedi disgrifio’r gwahaniaethau roedden nhw wedi sylwi arnynt:
Mae gwasanaethau oedolion yn dibynnu llawer mwy ar eich barn a’ch penderfyniadau. Mae’r therapi, y cwnsela a’r broses o wneud penderfyniadau yn cael eu cyfarwyddo gennych chi, yn wahanol i CAMHS lle maen nhw’n cynnig syniadau neu gyngor i chi gyflawni eich nodau.
Cefais sesiynau CBT gyda Gwasanaethau Iechyd Meddwl Oedolion yn ddiweddar. Cefais 5 sesiwn ond penderfynais beidio â pharhau â’r driniaeth ar ôl hyn. Roedd y gwasanaethau oedolion yn cynnwys llawer o ‘waith cartref’ a rhoi arferion da ar waith yn fy mywyd bob dydd.
Gyda CAMHS, rydych chi’n cael apwyntiadau mwy rheolaidd, yn enwedig yng nghamau cyntaf y driniaeth. Ond, gyda AMHS, roeddwn ni’n cael apwyntiadau’n llai aml ac roedden nhw dros y ffôn.
Dydy amgylchedd cyfeillgar CAMHS ddim yn bodoli mewn gwasanaethau oedolion, does gennych chi ddim un o’r ystafelloedd aros hyfryd hynny gyda lliwiau ar y wal.
Symud i AMHS yn Lloegr o’i gymharu â Chymru
Mae gan Gymru a Lloegr reolau a phrosesau ychydig yn wahanol os ydych chi’n symud o CAMHS i AMHS. Efallai y bydd gwahaniaethau mawr hefyd yn y ffordd y mae CAMHS lleol mewn gwahanol ardaloedd yn rheoli’r symudiad.
Dim ots lle rydych chi’n byw, dylai rhywun ddweud wrthych chi bob amser beth i’w ddisgwyl a gwrando ar eich barn.
Os ydych chi’n symud o CAMHS i AMHS, dylech fod o dan rywbeth o’r enw Dull Rhaglen Ofal (CPA).
Mae hyn yn golygu y dylai fod gennych chi’r canlynol:
- Cydlynydd gofal
- Cynllun gofal
O dan y CPA, ni ddylai eich cymorth ddod i ben pan fyddwch yn symud i AMHS. Ni ddylai ddod i ben oni bai eich bod chi a’ch tîm gofal yn credu nad oes ei angen arnoch mwyach. Dylent bob amser geisio cytuno ar hyn gyda chi.
Os nad ydych yn siŵr a ydych chi o dan gynllun CPA, neu os nad ydych wedi cael copi ysgrifenedig o’ch cynllun gofal, dylech holi rhywun yn eich tîm CAMHS.
Os ydych chi’n symud o CAMHS i AMHS, dylech chi gael:
- Gweithiwr pontio. Mae hwn yn rhywun sy’n rheoli ac yn cefnogi eich symudiad i AMHS. Dylai hyn gynnwys eich helpu i lunio Pasbort Pontio Pobl Ifanc.
- Pasbort Person Ifanc. Chi sydd i fod i lenwi hwn, gan esbonio beth sy’n bwysig i chi, a pha gymorth rydych chi ei angen. Gallwch edrych ar enghraifft ar wefan Llywodraeth Cymru.
- Cynllun Gofal a Thriniaeth (CTP).
Fydd fy rhieni, fy ngofalwyr neu fy ngwarcheidwaid yn cymryd rhan pan fydda i’n symud i AMHS?
Mae CAMHS yn annog rhieni, gofalwyr a gwarcheidwaid i gymryd rhan yn eich triniaeth a’ch cefnogaeth. Efallai na fydd AMHS yn gwneud hyn gymaint.
Dylai rhywun yn AMHS ofyn i chi sut rydych chi am iddynt gymryd rhan. Dylid parchu beth bynnag a ddwedwch.
Pan fyddwch chi yn AMHS, efallai mai rhywun arall fel eich meddyg teulu fydd eich pwynt cyswllt cyntaf, yn hytrach na’ch rhieni, eich gofalwyr neu’ch gwarcheidwaid.
Y naill ffordd neu’r llall, gallai fod yn ddefnyddiol cael pobl o’ch cwmpas y gallwch ymddiried ynddynt – gallech ofyn i ffrind, partner neu aelod arall o’r teulu gymryd rhan.
Beth os nad ydw i eisiau iddyn nhw wybod rhywbeth?
Mae gennych hawl i’ch gwybodaeth bersonol gael ei chadw’n gyfrinachol. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am adael CAMHS a dechrau triniaeth gydag AMHS.
Mae hyn yn golygu na ddylid rhannu eich gwybodaeth â’ch teulu, eich gwarcheidwaid na’ch gofalwyr oni bai eich bod yn cytuno. I gael rhagor o wybodaeth am gyfrinachedd a’ch hawliau pan fyddwch chi dan 18 oed o hyd, ewch i’n tudalen ar ddeall cyfrinachedd.
Rydw i’n meddwl bod cael fy mam gyda mi wedi helpu, oherwydd mae fy mam yn gefnogol iawn. Felly roedd cael ei chefnogaeth yn sicr yn beth da.
Beth fydd yn digwydd os byddaf yn troi’n 18 tra yn yr ysbyty?
Os ydych chi’n aros yn yr ysbyty fel claf mewnol fel rhan o’ch triniaeth, dylai eich tîm gofal ddechrau cynllunio eich symudiad o CAMHS 6 mis cyn i chi adael. Dylai’r cynllun esbonio beth fydd yn digwydd pan fyddwch chi’n troi’n 18, er enghraifft:
- Symud o ward CAMHS i ward iechyd meddwl i oedolion yn yr ysbyty
- Cael triniaeth i gleifion mewnol mewn ysbyty gwahanol, os nad oes AMHS lle rydych chi
- Eich rhyddhau o’r ysbyty os ydych chi’n ddigon iach i adael gofal i gleifion mewnol
- Eich atgyfeirio at wasanaethau oedolion eraill yn y gymuned i’ch cefnogi gyda’ch iechyd meddwl
Hyd yn oed os ydych chi wedi cyrraedd 18 oed yn barod, efallai y byddwch chi’n cael aros ar ward CAMHS hyd nes y byddwch chi’n ddigon iach i adael. Mae hyn bob amser yn dibynnu ar yr ysbyty.
Os ydych chi dan 18 oed ac angen mynd i'r ysbyty ar gyfer eich iechyd meddwl, byddwch chi fel arfer yn mynd i ward CAMHS. Ond os ydych chi’n agos iawn at gyrraedd 18 oed, efallai y bydd yr ysbyty’n penderfynu y byddai mynd yn syth i ward oedolion yn well i chi. Yn yr achos hwn, fyddech chi ddim yn delio â CAMHS o gwbl.
Gall fod yn gyfnod llawn straen gyda newidiadau, pobl newydd ac amseroedd aros, ond bydd y driniaeth a gewch yn fwy priodol i’ch grŵp oedran a’ch cyfnod o ddatblygu’n oedolyn ifanc. Byddwch yn amyneddgar!
Beth fydd yn digwydd os ydw i wedi cael fy anfon i ysbyty’r meddwl yn y gorffennol?
Mae hynny yn golygu eich bod yn cael eich cadw yn yr ysbyty i gael triniaeth a chymorth ar gyfer eich iechyd meddwl.
Weithiau mae cael eich anfon i ysbyty meddwl yn rhoi hawl gyfreithiol i chi gael cymorth a elwir yn ôl-ofal adran 117. Nid yw’r hawl hon i gael cymorth yn dod i ben pan fyddwch chi’n gadael CAMHS. Ni ddylai ddod i ben oni bai bod eich tîm gofal yn credu nad oes ei angen arnoch mwyach. Ni ddylai fod ots beth yw eich oed, nac a ydych chi dros 18 oed neu o dan 18 oed.
I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar ein tudalen ar gael eich anfon i ysbyty’r meddwl.
Referral
This is a request to a service asking them to review:
- how you’re feeling
- what support you need.
The referral helps explain to the new service why they should see you, and what the best way to help you might be.
Sometimes referrals can be made by yourself, a family member or social worker. But they’re often made by your doctor as they understand your medical history.
Visit our full treatment and support glossaryDischarge
This means your treatment at a hospital, clinic or other service is ending. You may be discharged because:
- you’ve completed your treatment
- you’re old enough to use a different service
- you’ve asked to leave
- the next part of your treatment needs to continue somewhere else.
Your care team should explain what this means, and what will happen if you need care in the future.
Visit our full treatment and support glossaryInpatient care
This is the care you get when you’re staying in hospital. You might be an informal patient or you might be sectioned. You might also be having treatment and support for your physical health.
See our pages on being an informal patient or being sectioned for more information.
Visit our full treatment and support glossaryMental Health Act 1983
This is a law that allows people to be sectioned if they have a mental health problem and need treatment. It applies to both England and Wales.
Visit our full treatment and support glossarySection 117 aftercare
Sometimes being sectioned gives you a legal right to support. If you have been sectioned under section 3, 37, 47 or 48, you have a right to support called section 117 aftercare.
Section 117 support will be personal to you, depending on what support you need to stop your mental health from getting worse. And your right to support doesn't end until your care team agree that you no longer need that support.
See our page on being sectioned for information about the different sections.
Visit our full treatment and support glossaryChild and Adolescent Mental Health Services (CAMHS)
These are services that support young people with their mental health.
You might see them called different names sometimes, but they offer the same type of services for young people:
- In Wales, they're called Specialist Child and Adolescent Mental Health Services (SCAMHS)
- In England or Wales, you might also hear them called Children and Young People’s Mental Health Services (CYPMHS)
Find out more in our CAMHS information hub.
Adult Mental Health Services (AMHS)
These are NHS services that support adults with mental health problems.
Visit our full treatment and support glossaryCare team
These are the people look after you when you're getting treatment and support for your mental health problem. Your care team might include nurses, doctors and therapists.
They may look after you in hospital, support you through Child and Adolescent Mental Health Services (CAMHS), or look after you at home.
Visit our full treatment and support glossaryCare Programme Approach (CPA)
This is a way of providing NHS support for people in England who have a mental health problem. It means you should have a care co-ordinator and a care plan.
Visit our full treatment and support glossaryCare coordinator
A care coordinator is the main point of contact and support if you need ongoing mental health care. They keep in close contact with you while you receive mental health care and monitor how that care is delivered – particularly when you’re outside of hospital. They are also responsible for carrying out an assessment to work out your health and social care needs under the care programme approach (CPA).
A care coordinator could be any mental health professional, for example:
- a nurse
- a social worker
- another mental health worker.
This is decided according to what is most appropriate for your situation.
A care coordinator usually works as part of the community mental health team.
Visit our full listing of Legal TermsCare plan
The name for a plan that explains your mental health problem, what treatment and support you need, and who will provide that support. Care plans might also cover what should happen if you're in a mental health crisis.
There are different types of plans, such as a Care Programme Approach (CPA) or Care and Treatment Plan (CTP). Whatever type of plan you have, you should always be given a copy of it.
Visit our full treatment and support glossaryPersonal information
This is any information that can be used to identify you. For example, your name, address or even your IP address.
Visit our full treatment and support glossaryConfidentiality
Confidentiality is about keeping your information private.
It means that when you talk to professionals they shouldn’t tell anyone else what you’ve said.
They will only share what you tell them in certain situations. For example, if you ask them to or if they’re worried that you or someone else could be in danger.
See our page on confidentiality for more information.
Visit our full treatment and support glossaryInpatient care
This is the care you get when you’re staying in hospital. You might be an informal patient or you might be sectioned. You might also be having treatment and support for your physical health.
See our pages on being an informal patient or being sectioned for more information.
Visit our full treatment and support glossaryWard
This describes the area of the hospital you're staying in. You may also hear it called a unit.
Visit our full treatment and support glossaryCare and Treatment Plan (CTP)
This a support package provided by the NHS for people in Wales who have a mental health problem.
Visit our full treatment and support glossaryDialectical behaviour therapy (DBT)
This is a type of talking therapy. The aim is to help you:
- understand and accept difficult feelings
- challenge negative coping strategies
- learn new ways to manage your feelings.
You might take part in DBT by yourself, or in a group.
Visit our full treatment and support glossaryCafodd yr wybodaeth hon ei chyhoeddi ym mis Rhagfyr 2022. Byddwn yn ei diwygio yn 2025.
Mae cyfeiriadau ar gael ar gais. Os hoffech chi atgynhyrchu unrhyw ran o’r wybodaeth hon, gweler ein tudalen ar ganiatadau a thrwyddedau.